Roedd 2020 yn flwyddyn eithriadol o anodd. Mae sgil-effeithiau yr argyfwng COVID-19 ar yr ochr iechyd ac economaidd yn rhai nas profwyd eu tebyg, ac mae’r diwydiant twristiaeth wedi dioddef yn aruthrol wrth i wledydd dros y byd ofyn i bobl aros adref a pheidio mynd ar wyliau.

Fel sawl gwlad arall, roeddem yn cael ein gorfodi yng Nghymru, am resymau diogelwch, i ofyn i’n hymwelwyr aros adref a pheidio teithio, am y tro, ac yn anffodus rydym yn parhau i rannu’r neges honno ar hyn o bryd.

Er y bydd y misoedd nesaf yn debygol o fod yn anodd i bawb, rydym yn mawr obeithio y byddwn mewn sefyllfa i groesawu ymwelwyr yn ôl i wahanol ardaloedd o Gymru eto yn hwyrach eleni.

Rydym yn edrych ymlaen i fod mewn sefyllfa ble gallwn annog pobl o’r tu mewn a thu allan i Gymru i fwynhau ein arfordir, ein mynyddoedd, ein trefi a’n dinasoedd unwaith eto, pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny. I gael gwerthfawrogi ein tirwedd, ein diwylliant a’r anturiaethau sydd gennym i’w cynnig, ac i gael bwyta, nofio, dawnsio a chanu gyda’n gilydd unwaith eto.

Wrth i chi gynllunio ar gyfer y dyfodol, cofiwch wneud eich addewid i Gymru, a’n helpu i ofalu am ein gilydd, ein tirwedd a’n cymunedau.

Er ein bod yn wlad fach, mae gennym lawer iawn i'w gynnig pan fydd hi’n ddiogel i grwydro unwaith eto, ac mae’r argyfwng dros y misoedd diwethaf wedi dangos bod cyfoeth i’w fwynhau ar ein stepen drws, ac nad oes angen croesi unrhyw ffin i fwynhau gwyliau arbennig.

Cynllunio i fwynhau'r awyr agored yn 2021

Gadewch i ni ddechrau gyda rhai lleoliadau y gallech fod yn gyfarwydd â nhw eisoes. Y tri Pharc Cenedlaethol ysblennydd; Bannau BrycheiniogArfordir Sir Benfro ac Eryri, a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE); Ynys Môn, Bryniau Clwyd, Penrhyn Llŷn, Penrhyn Gŵyr a Dyffryn Gwy.

Yr Afon Gwy wedi ei hamgylchynu gan gaeau a choed hydrefol

Upper Wyndcliffe, Dyffryn Gwy

Yna, ychwanegwch Lwybr Arfordir Cymru at y rhain. Mae’n 870 milltir (1,400km) o gerdded ar un llwybr, gyda chylchdeithiau a dolenni diddwedd. Hwn oedd y llwybr cyntaf yn y byd i ddilyn arfordir gwlad yn ei gyfanrwydd. Ychwanegir at enw da Cymru ymhlith cerddwyr gan dri Llwybr Cenedlaethol hefyd: Llwybr GlyndŵrLlwybr Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Sir Benfro.

Llun o'r tŵr dŵr ar Lyn Efyrnwy
A cliff-side path by the sea

Llyn Efyrnwy, Powys a Llwybr Arfordir Cymru, Penrhyn Gŵyr

Wrth sôn am yr arfordir, mae Cymru hefyd yn bur enwog am ei thraethau. Mae ganddi 40 o draethau sydd wedi ennill gwobr y Faner Las – mwy nag unrhyw ran arall o'r DU. Mae enwau mawr ar y rhestr, fel Traeth y Castell yn Ninbych-y-pysgod, a dderbyniodd wobr ‘Traeth y Flwyddyn’ gan y Sunday Times yn 2019. Mae rhai o’n mannau tawelach yn enillwyr gwobrau Arfordir Gwyrdd; mae’r rhain fel arfer yn llai ac yn fwy gwyllt, ac yn cael eu cydnabod am eu rhinweddau amgylcheddol.

Llun o draeth tywodlyd gyda chreigiau a thai yn y cefndir

Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod

Edrychwch i’r awyr, a gallwch gymharu ein moroedd glân gydag ansawdd ein hawyr serennog, sy’n rhydd o lygredd golau. Mae cannoedd o lefydd ar gyfer syllu ar y sêr yng Nghymru – yn ogystal â rhwydwaith o Warchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol a Pharciau Awyr Dywyll sy’n cael eu hystyried yn rhai o’r radd flaenaf gan seryddwyr.

Llun o awyr dywyll uwchben Llyn y Fan Fach
Dark skies above  Llyn y Fan Fach lake.

Syllu ar y sêr ger Llyn y Fan Fach, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae dros 600 o gestyll i'w gweld ar hyd a lled Cymru - mwy am bob milltir sgwâr nag unrhyw le arall yn y byd mae'n debyg. Ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus mae Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech yn y Gogledd; a Chaerffili, Caerdydd, Caeriw, Cydweli a Phenfro yn y De.

Mae ein henw da fel canolfan antur wedi cryfhau yn y blynyddoedd diwethaf, wrth i safleoedd a thirweddau hanesyddol gael eu hailddychmygu er mwyn cynnig profiadau llawn cyffro. Os ewch i Chwarel y Penrhyn ym Methesda, byddwch yn dod o hyd i’r wifren wibio gyflymaf yn y byd, tra bo gwaith alwminiwm Dolgarrog bellach yn gartref i lagŵn syrffio mewndirol a pharc antur.

Mae’r actor a’r canwr Luke Evans yn gwibio i mewn i brofi’r wifren wibio gyflymaf yn y byd yn Zip World, Chwarel y Penrhyn ym Methesda.

Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn bywyd gwyllt, yna fe welwch fod gan fflora a ffawna Cymreig lawer i’w cynnig, ar dir ac yn y môr. Mwynhewch y môr drwy hwylio ochr yn ochr â llamhidyddion a dolffiniaid ar ein harfordir gorllewinol, cyn dod adref i glwydo ymhlith nythod ffyniannus ein hadar môr. Bydd angen i’r rheiny sy’n hoffi palod ymweld â Sgomer, ynys oddi ar arfordir Sir Benfro, sydd â'r Parth Cadwraeth Forol cyntaf i gael ei greu yng Nghymru. Dewiswch eich tymor a'ch lleoliad, a ledled Cymru gallwch weld glöynnod byw prin, ystlumod, gweision y neidr, cornchwiglod, dyfrgwn a gweilch y môr.

Pedwar morlo yn gorwedd ar y creigiau

Morloi ym Mae Ceredigion

Os ymwelwch â rhai o'n digwyddiadau neu atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghymru, byddwch yn gwerthfawrogi’r rhan sydd gan yr awyr agored ei hun yn y gweithgareddau a’r profiadau. Mae natur i’w gweld o’n cwmpas i gyd, fel y mae ysbryd y gymuned hefyd. Mae'n hawdd ymuno â grŵp lleol o nofwyr, rhedwyr neu feicwyr i gael gwybod pa fannau yw’r gorau i fynd iddyn nhw.

Tair mewnyw mewn gwisgoedd nofio yn rhedeg i mewn i'r môr
Four cyclists on a narrow mountainous road

Nofwyr Bluetits Chill yn Harlech, a beicwyr yn Argae Stwlan, Blaenau Ffestiniog

I fynd o gwmpas y lle, rydym yn argymell dilyn Ffordd Cymru, ein teulu o dri llwybr teithio gwahanol sy’n plotio eich cwrs o amgylch y wlad mewn car, trên, bws neu ar feic.

Cofiwch fod yn ddiogel a pharchwch yr amgylchedd wrth gael hwyl. O dripiau traeth i ddyddiau allan yn y Parciau Cenedlaethol, dylech bob amser ddilyn cyngor AdventureSmartUK i gael y profiad gorau.

Darganfyddwch gorneli newydd o Gymru: gwlad sy’n cynnig croeso cynnes heb furiau. Arhoswch yn ein gwestai, ewch i'n safleoedd gwersylla, archwiliwch ein bythynnod. Yna, agorwch y drysau i adael yr awyr agored i mewn.

Llun o far a bwrdd a chadeiriau mewn bwyty gwesty
Man relaxing in the back of a traveller van.
Fforest Farm Tipi at sunset.

Gwesty bwtic yng Nghaerdydd, gwersylla ar Ynys Môn, a Fferm Fforest yng Ngheredigion  

Straeon cysylltiedig