Lle wyt ti’n teimlo fel bo ti’n perthyn? Oes 'na fan gwyllt, copa, neu goedwig sydd i ti, yn teimlo fel adre?

Falle ei fod ar stepen dy ddrws – neu yng nghrombil parc cenedlaethol a’n llawn atgofion heulog. 

Falle ei fod yn rhywle cudd, distaw – neu’n rywle byrlymus, llawn cerddwyr a theuluoedd yn mynd a dod. 

Falle mai enw lle – neu basio arwydd ffordd – sy’n neud iti deimlo fel bo ti adre.

 

Awyr Agored i Bawb

I fi, dyma ble dwi’n perthyn – efo criw o bobl sy’n anturio ar hyd a lled Cymru, fel rhan o fenter Every Body Outdoors. Fe sefydlon ni’r grŵp yn arbennig ar gyfer pobl maint ‘plus’ – a ‘dyn ni wedi tyfu yn gymuned o filoedd.

Person yn gwisgo sbectol, cot borffor a het oren yn dal map wrth fynydda.
Criw o bobl yn cerdded mynyddoedd.
Pobl yn darllen map wrth gerdded mynyddoedd.

Cwrs Every Body Outdoors yn Eryri

Awyr Agored i Bawb

Os ydych chi’n gwisgo dillad maint ‘cyffredin’, efallai nad ydych chi erioed wedi meddwl am y peth – pa mor anodd yw aros yn ddiogel, yn gynnes ac yn sych yn yr awyr agored, pan nad oes ganddoch chi gyfarpar addas.

Dyna pam ‘dyn ni’n galw am well cyfarpar mewn meintiau mwy – er mwyn i bawb gael perthyn ar y mynydd neu’r arfordir. Cyn sefydlu Every Body Outdoors, roedd rhywbeth mor syml â chôt law ddeche mewn maint ‘plus’, fyddai’n gwrthsefyll diwrnod allan ar y bryniau, yn beth prin iawn. Trwy weithio gyda chwmnïau dillad, ‘dyn ni wedi sicrhau bod dewis llawer ehangach a mwy fforddiadwy ar gael.

‘Dyn ni’n gweithio i wella mynediad at bob math o weithgareddau – fel dringo, canŵio, nofio môr, beicio mynydd, ‘ultras’ cerdded a llawer mwy – trwy hyfforddi darparwyr gweithgareddau ar sut i greu profiad sy’n groesawgar i bawb, beth bynnag eu maint neu lefel eu hyder."

‘Dyn ni’n gweithio i wella mynediad at bob math o weithgareddau ... trwy hyfforddi darparwyr gweithgareddau ar sut i greu profiad sy’n groesawgar i bawb, beth bynnag eu maint neu lefel eu hyder."

Cyrsiau, cyfleon a chymdeithasu

Y peth pwysicaf am ein gwaith yw creu cyfleon i bobl rannu eu cariad at yr awyr agored – boed ar stepen y drws neu antur yn bellach o adre, fel ein taith ddiweddar i fyny’r Wyddfa. 

Eleni, ‘dyn ni wedi bod yn cynnal cyrsiau mynydda i ddechreuwyr ac arbenigwyr, teithiau cerdded, a digwyddiadau cymdeithasol – ble mae cyfle i dreialu a benthyg cit gyda gwirfoddolwyr sy’n arbenigo mewn dillad awyr agored.

Yn bennaf: dy’n ni eisiau gweld pobl maint plus yn magu hyder i fentro a rhoi cynnig ar rywbeth sy’n mynd â’u bryd, heb ofni na fyddan nhw’n teimlo fel eu bod yn perthyn.

Cariad at yr awyr agored

‘Dyn ni i gyd o gefndiroedd gwahanol iawn, ond ein cariad at yr awyr agored sy’n ein clymu ni at ein gilydd.

Wel, hynny a’r ffaith bod pobl sy’n edrych fel ni ddim wastad yn teimlo ein bod ni’n perthyn yn yr awyr agored – gan ein bod wedi cael profiadau gwael mewn cit anaddas, neu wedi cael profiad anghynnes, fel cael ein gadael drachefn wrth i gerddwyr eraill rasio ‘mlaen (os ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd - nid ti yw’r unig un!).

Mae digon o le i ni gyd ar y mynydd – a dyw’r mynydd ddim yn malio, chwaith, pa rif sydd ar label dy ddillad. Gyda Every Body Outdoors dwi’n cyfarfod pobl sy’n fy ysbrydoli, yn ehangu fy ngorwelion, a’n fy annog i fentro.

Fan hyn – dyma lle dwi’n perthyn. 

Criw o bobl yn cerdded mynyddoedd.

Cwrs Every Body Outdoors yn Eryri

I wybod mwy am gymuned Every Body Outdoors - o rannu profiadau a gofyn am gyngor, i ymuno â chyrsiau a digwyddiadau ewch i'r wefan a dilynwch gyfrifon cymdeithasol y grŵp. 

Instagram Every Body Outdoors

Grŵp Facebook Maint Plus Every Body Outdoors

Straeon cysylltiedig