Mae gwyliau gwersylla yn ddelfrydol i deuluoedd, gan roi’r cyfle i ddod yn un â byd natur, yn ogystal â digonedd o amser i ymlacio a chwarae. 

Dewch i ddarganfod y rhyddid a'r hyblygrwydd mae gwyliau gwersylla yn ei gynnig i deuluoedd, ac mae rhai gwersylloedd yn croesawu cŵn hefyd - sy’n golygu y gall pob aelod o’r teulu ymuno yn yr hwyl!  

Gogledd Cymru

Llyn Gwynant, Eryri

Y safle gwersylla delfrydol ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd ac anturiaethau awyr agored a natur. Mae safle gwersylla Llyn Gwynant yn swatio o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac mae ganddo fynediad i rai o deithiau cerdded mwyaf syfrdanol y parc. 

Mae'n hawdd mynd allan ar y dŵr hefyd - gallwch logi cwch am y diwrnod. Dewiswch o gaiacau, canŵ neu fyrddau padlo. Ar ôl diwrnod prysur yn yr awyr agored swatiwch o flaen y tân a thostiwch malws melys wrth fwynhau'r awyr dywyll hyfryd sydd gan yr ardal hon i'w chynnig.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Llogi cychod
  • Lleoliad Awyr Dywyll
  • Siop yn gwerthu pitsa a phrydau eraill
  • Bar trwyddedig
  • Siop gwersylla yn gwerthu coed tân
  • Ardal ar gyfer coginio a sinciau golchi llestri gyda dŵr poeth 
  • Ystafell golchi dillad (codir tal ychwanegol)
  • Croeso i anifeiliaid anwes

Nodweddion hygyrchedd:

  • Toiled a chawod hygyrch a bwrdd newid babanod
A little girl and young woman brewing coffee around a campfire.
Llyn Gwynant, Eryri

Gwersylla yn Llyn Gwynant 

Glampio yn y Ceudyllau Llechi, Eryri

Lle diddorol iawn yw Blaenau Ffestiniog: cilfach fechan ym Mharc Cenedlaethol Eryri lle mae canrifoedd o chwareli llechi wedi creu tirwedd fel y lleuad yn y mynyddoedd. Mae’r bobl leol wedi manteisio ar hyn, ac yma bellach mae canolbwynt Cymru ar gyfer chwaraeon antur. Mae’r chwe llety saffari moethus yma yng nghanol y cyffro i gyd, a’r ceudyllau LlechweddZip WorldBounce Below ac Antur Stiniog

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Dillad gwely a thywelion
  • Barbeciw preifat
  • En-suite gyda chawod
  • Cegin fach gyda phopty microdon, oergell/rhewgell a sinc
  • Stof llosgi coed
  • Wi-Fi am ddim
  • Croeso i gŵn
Pobl yn bownsio ar rwydi mewn ogof danddaearol
Golygfa o chwarel lechi o ddrws pabell glampio.

Bounce Below a gwersylla yn Llechwedd, Blaenau Ffestiniog

Tyddyn Isaf, Ynys Môn

Yn cael ei redeg gan deulu ac yn gyfeillgar i deuluoedd, roedd y gwersyll a pharc carafanau hwn yn gwbl haeddiannol pan enillodd wobr AA Gwersyll y Flwyddyn Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl. Wedi’i osod yn dwt ar arfordir gogledd-ddwyrain Ynys Môn, mae gan Tyddyn Isaf le chwarae antur i’r plant, llwybr troed i lawr i draeth Llugwy, a siop a bwyty bychan.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Cyfleusterau sydd wedi ennill gwobrau
  • Canolfan fusnes
  • Ystafell olchi dillad
  • Campfa 
  • Safle newid cewynnau a bath babi cludadwy
  • Pwyntiau gwefru EV
  • Croeso i gŵn (ar dennyn byr)

Nodweddion hygyrchedd:

  • Mynediad â ramp i bob bloc toiled ac mae pob safle o fewn 200m i’r bloc toiledau a chawodydd agosaf
  • Ystafelloedd cawod i deuluoedd a chawod/toiled sy'n cydymffurfio â DOC-M gyda rheiliau cydio a sedd gawod
  • Cyfleusterau newid babanod

Park Gwyliau Plassey, Wrecsam

Hen fferm laeth yn Nyffryn Dyfrdwy yw lleoliad y parc hamdden hwn ar gyfer carafanau teithiol, cartrefi modur a phebyll. Gyda’i bum seren, mae wedi ennill gwobrau lu. Mae cyfleusterau Plassey yn wych: pwll nofio dan do wedi’i wresogi, canolfan grefft ac adwerthu, cwrs golff, siop goffi a bwyty, a hyd yn oed ei fragdy ei hun. Trefnir diwrnodau gweithgareddau arbennig i blant, ac mae yno barc chwarae antur sy’n dilyn thema castell Cymreig.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Pwll dan do wedi'i gynhesu
  • Cwrs golff
  • Llwybrau beicio, llwybrau natur a physgota
  • Canolfan grefftau
  • Siop trin gwallt a harddwch
  • Caffi a bwyty
  • Toiledau anabl
  • Croeso i gŵn

Canolbarth Cymru

Fforest, Aberteifi

Bu’r bobl yn Fforest wrthi’n dawel yn creu rhywbeth cwbl hudolus dros y degawd diwethaf. Mae ganddynt fentrau teuluol ar waith mewn tri man o gwmpas Aberteifi, gydag amrywiaeth o gromenni, cabanau, pebyll cloch, llofftydd a gwersyll arfordirol i aros ynddynt. Bob mis Awst, byddant yn cynnal cynulliadau wythnos - Fforest Gather – sy’n dod â’r gorau o ethos unigryw Fforest ynghyd am wyliau teuluol sy’n llawn o ymgysylltu creadigol.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Amgylchedd naturiol 500 erw gyda gwarchodfa bywyd gwyllt
  • Gardd lysiau
  • Tafarn Y Bwthyn
  • Sawna coed
  • Croeso i gŵn
Pydew tân yn y goedwig
Llun o dipi mewn cae wrth i'r haul fachlud
Llety glampio gyda dwy gadair y tu allan

Safle Fforest, Aberteifi

Quay West, Ceredigion

Tref harbwr hyfryd yw Cei Newydd, y lle gorau yng Nghymru i weld dolffiniaid. Ar y clogwyni uwchlaw’r dref, mae parc gwyliau bywiog Quay West, sy’n cynnig pyllau nofio wedi’u gwresogi, llwybrau natur drwy goetir, a bwyty, bar ac adloniant gyda’r nos.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Mynediad i'r traeth
  • Saethyddiaeth, ffensio, golff hwyl a gweithgareddau caiacio
  • Taith gerdded natur 
  • Pyllau nofio dan do ac awyr agored
  • Bwyty a lleoliadau sy'n gwerthu bwyd parod
  • Marchnad fach
  • Croeso i gŵn

Nodweddion hygyrchedd:

  • Llogi cadair olwyn
Dau ddolffin yn nofio

Dolffiniaid Cei Newydd

Gorllewin Cymru

Bae’r Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr

Gellid dadlau mai yma mae’r olygfa orau o unrhyw wersyll ym Mhrydain, yn wledd i’ch llygaid wrth ddeffro. Mae’r gwersyll mewn lleoliad gogoneddus ar ben bryn uwchlaw traeth eiconig Bae’r Tri Chlogwyn, a holl atyniadau Gŵyr ac Abertawe gerllaw. Yma derbynnir carafanau, cartrefi modur a phebyll, ac fe gynigir safleoedd glampio ac ysguboriau wedi’u haddasu.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Lleoliad gyda golygfeydd arfordirol
  • Llwybr preifat i'r traeth
  • Safleoedd sy’n cynnwys safle tân, bwrdd picnic, man cysylltu trydan a phwynt dŵr 
  • Croeso i gŵn
Pebyll ym Mharc Gwyliau’r Tri Chlogwyn ar Benrhyn Gŵyr yn edrych i lawr dros y traeth.

Mae'r Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr

Fferm Caerfai, Tyddewi

Gwersylla, bythynnod a phebyll iwrt, ar ben clogwyn sy’n arwain yn syth at Lwybr Arfordir Cymru. Ddim yn ddigon? Mae dinas gadeirlan fechan Tyddewi o fewn pellter cerdded, ac felly hefyd borthladd bach hyfryd Porthclais. Eisiau mwy eto? Fferm organig yw Caerfai sy’n gwneud ei chaws ei hun. Gwych.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Pecynnau rhewgell i’w llogi
  • Cyfleusterau golchi dillad
  • Siop fferm
  • Croeso i gŵn

 

Llun o'r awyr o Draeth Caerfai

Traeth Caerfai

Trellyn Woodland Camping, Abercastell, Sir Benfro

Mae’r darn bach hwn o nefoedd Sir Benfro yn cadw ei hun yn fwriadol o fach a phrydferth, ac yno ddim ond chwe llain, tair iwrt a dwy gromen. Ond yn Nhrellyn fe gewch chi sawna tân coed a ffwrn pizza, a chimwch a chranc ffres wedi’u dosbarthu i’ch drws (neu’ch fflap, yn hytrach) o’r traeth gerllaw. Nefoedd yn wir.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Sawna coed a phopty pizza
  • Siwtiau gwlyb a byrddau syrffio i'w benthyg ar draeth cyfagos
  • Tân gwersyll dan do gyda choed tân am ddim
  • O fewn cyrraedd rhwydd i fwy na 10 o draethau harddaf Sir Benfro

De Cymru

Penhein, Sir Fynwy

Y neilltuaeth wledig sy’n gwneud Penhein mor hudolus. Mae’r pebyll glampio Persiaidd yn swatio mewn coetir diarffordd mewn cefn gwlad diddiwedd – lle perffaith i adeiladu den, padlo a rasio brigau i lawr yr afon. Trefnir digonedd o ddigwyddiadau teuluol gan y teulu ffermio sy’n cynnal y lle, fel byw yn y gwyllt a choginio ar dân gwersyll, ac mae Dyffryn godidog Gwy a bryniau gwych Sir Fynwy yn galw gerllaw.

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • Pebyll hardd 
  • Cegin â chyfarpar da a thoiledau preifat, stôf llosgi coed a gwelyau go iawn
  • Cawodydd a bath bwtîc
  • Mae gan rhai pebyll eu cawodydd eu hunain tu allan
  • Lleoliad Awyr Dywyll
Plant yn adeiladu den gyda choed.
Pabell gron gyda chynfas brown drosti mewn coedwig.

Pabell yn Penhein a phlant ar gwrs gwyllt grefft

Straeon cysylltiedig