Llety â thwba twym yng Ngogledd Cymru

Os ydych chi’n chwilio am lety gyda thwba twym yng Ngogledd Cymru, mae digonedd o ddewis. Gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar garreg y drws, gallwch gyfuno eich gwyliau ymlaciol ag antur awyr agored hefyd. Cyfuniad perffaith!

Tŷ Gwledig Pentre Mawr, Llandyrnog, Sir Ddinbych

Lleolir Tŷ Gwledig Pentre Mawr mewn 200 erw o ddolydd a choedwig wrth droed Bryniau Clwyd. Gallwch aros yn y tŷ ac mewn bythynnod hunan-arlwyo, ond y llety saffari sy’n arbennig yma. Mae gan y pebyll canfas godidog welyau enfawr, ystafelloedd ymolchi â chawodydd fel glaw a soffas dwfn. Mae gan sawl un ei gegin ei hun hefyd. Mae gan bob un dwba twym preifat ar deras preifat. Anodd bod yn fwy rhamantus na hyn!

The Coach House, Penmachno, Eryri

Ger Betws y Coed, canolfan gweithgareddau awyr agored Eryri, mae The Coach House yn fwthyn carreg helaeth, pum seren, sy’n ddelfrydol ar gyfer pobl sydd eisiau antur. Ar ôl cerdded yn y mynyddoedd, sgrialu i lawr llinell zip neu ddarganfod mwyngloddiau llechi hynafol, gallwch ymlacio eich cyhyrau blinedig yn y twba twym pefriog ar y teras preifat. Gyda dwy ystafell wely (un dwbl ac un â dau wely), lolfa a chegin, mae’n ddelfrydol ar gyfer teulu â phlant yn eu harddegau.

Chwilio am lety â thwba twym yng ngogledd Cymru

Golygfa o fynyddoedd o amgylch llyn

Wedi diwrnod o gerdded yn Eryri, gallwch edrych ymlaen at lacio’r cyhyrau blinedig mewn twba twym 

Faraway Follies, Faraway, Llandegla, Sir Ddinbych

Wedi’i leoli ar gyrion rhos grugieir, gyda choed derw deiliog o gwmpas ymhobman, mae gan y tri chaban yn Faraway Follies awyrgylch hudolus. Bydd teuluoedd â phlant oedran ysgol yn dwlu ar y Gwersyll Gwyrdd. Mae yma dŷ coeden wedi’i bapuro â chomics plant, gyda lle cysgu mezzanine, dwy garafán sipsi, pont raff a phwll tân. Mae’n cynnwys cegin â phob offer ynddi, stôf tân pren a thwba twym. Mae cyfle i wneud beicio mynydd a cherdded o garreg y drws.

Llety â thwba twym yng Nghanolbarth Cymru

Mi allai Canolbarth Cymru fod yn ddelfrydol os ydych chi eisiau llonydd a digonedd o le ar gyfer eich gwyliau twba twym yng Nghymru. Gallwch ddisgwyl traethau gwyllt naturiol, pentrefi carreg hardd a milltiroedd o gefn gwlad deniadol.

Lôn Lodges, Rhaeadr, Powys

Mae Lôn Lodges a leolir ar fferm weithredol 300 erw, yn cynnig dau lety eco moethus, sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd, a Caban Saffari gwirioneddol hyfryd gyda gwely pedwar postyn. Mae’r llety eco’n cysgu chwech mewn tair ystafell wely, mae ganddyn nhw wres dan y llawr a lolfa fawr a chegin â’r holl offer. Mae gan y Caban Saffari stôf llosgi coed, soffa gyffyrddus, cegin ac ystafell gawod. Mae pob un yn cynnwys twba twym preifat ei hun. Gallwch ddilyn llwybrau natur gyda nodiadau manwl yn disgrifio’r bywyd gwyllt a’r blodau welwch chi ar y ffordd.

Cadeiriau haul pren a thwba twym a gynhesir drwy losgi pren ar y dec.
Pabell saffari foethus gyda thwba twym ar y dec tu allan.

Pabell saffari foethus gyda thwba twym a gynhesir drwy losgi pren yn Lôn Lodges

Bythynnod Bryngwyn Canol, Llandre, Ceredigion

Mae tri llety cerrig gwirioneddol hyfryd i ddewis o’u plith ym Mythynnod Bryngwyn Canol. Mae’r cyfan wedi cael eu hadnewyddu i safon uchel gyda cheginau o’r safon orau a distiau pren agored. Mae gan bob un ardd breifat a thwba twym dan do – y gellir ei ddefnyddio waeth beth fo’r tywydd. Bydd pobl sy’n caru’u cŵn yn falch o wybod fod eu cyfeillion pedair coes hefyd yn cael profiad moethus. Mae pecyn croeso i gŵn a rhestr o draethau sy’n croesawu cŵn gerllaw.

Plas Robin Rural Retreats, Llandyssil, Powys

Mae Plas Robin Rural Retreats yn cynnwys dau lety onglog a gynlluniwyd gan bensaer. Dyma binacl moethusrwydd gydag ystafelloedd ymolchi ysblennydd a cheginau rhagorol. Mae llawer o ffenestri yn yr ystafelloedd byw gyda drysau ‘bifold’ yn agor dros derasau preifat yn golygu bod gennych olygfeydd panoramig ar draws y caeau gwyrdd gyda’u defaid a choed deiliog. Mae yma danau llosgi coed i’ch cadw’n glyd, ac wrth gwrs, twba twym preifat ar y teras.

Twba twym byrlymus ar deras gyda golygfeydd dros gae.
Bythynnod gwyliau onglog a gynlluniwyd gan bensaer yn edrych dros gaeau.
Tu mewn moethus bwthyn a gynlluniwyd gan bensaer gyda golygfeydd drwy ddrysau ‘bifold’.

Llety modern chwaethus, golygfeydd epig a thwba twym preifat yn Plas Robin Rural Retreats

Bythynnod a Glampio Cwmcoedog, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

Ffansi caban ble mae’r to’n agor? Mae gan Fythynnod a Glampio Cwmcoedog rai o’r lletyau mwyaf cŵl â thwba twym yng Nghymru. Mae gan y Caban Awyr do sy’n agor i fyny i ddatgelu’r awyr serog. Mae Llygad y Ddraig yn cynnwys ffenestr siâp llygad enfawr. Mae’r podiau glampio’n ddelfrydol os yw’r gyllideb yn llai. Mae’r pedwar yn rhannu barbeciw, ardal chwaraeon, ffwrn bitsa, llyn hwylio a thwba twym byrlymus.

Squirrel's Nest, Llandrindod, Powys

Mae Squirrel’s Nest yn gartref i dai coed eithriadol o foethus. Mae’r tri bwthyn ffrâm goed moethus wedi’u gosod fry yng nghanghennau coed. Mae ganddyn nhw derasau mawr, soffas enfawr, ceginau, a gwelyau cyffyrddus dan y bondo. Mae ffenestri enfawr yn edrych allan dros gefn gwlad Powys, mae baddonau copr yn yr ystafelloedd ymolchi, hamocs a’ch twba twym awyr agored preifat ar y dec. 

Chwilio am lety â thwba twym yng Nghanolbarth Cymru

Menyw’n ymlacio mewn twba twym tu allan i dŷ coeden moethus.
Llun agos o draed menyw’n ymlacio mewn twba twym gyda chanhwyllau yn y cefndir.
Twba twym pefriog wedi’i oleuo islaw ar ddec y tu allan i dŷ pen coeden moethus.

Ymlaciwch yn y twba twym ar ddec Tywysog Llywelyn yn Squirrels Nest

Llety â thwba twym yng Ngorllewin Cymru

Gyda’r arfordir brin fwy nag ychydig filltiroedd i ffwrdd, mae llety â thwba twym yng ngorllewin Cymru’n ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n caru’r traeth – boed hynny drwy blymio i’r tonnau, gwylio bywyd gwyllt prin, adeiladu cestyll tywod neu ddiogi yn yr haul. 

Lighthouse Keep, Dale, Sir Benfro

Ffansi byw mewn goleudy? Bwthyn carreg clyd fry ar benrhyn yw Lighthouse Keep, wrth ochr goleudy Penrhyn Santes Anne sy’n cadw llygad dros y môr islaw. Fel y byddech chi’n disgwyl mae’r môr gloyw ar dair ochr. Mae yma dair ystafell wely glyd, tân llosgi coed yn y lolfa fawr ac mae’r golygfeydd o’r gegin yn eithriadol. Y lle gorau i fwynhau’r golygfeydd hynny yw o’r twba twym ar y teras – gan wylio’r haul yn machlud. 

Mill House, Nolton Haven, Hwlffordd, Sir Benfro

Dim ond tafliad carreg yn llythrennol yw arfordir gwyllt Sir Benfro a’r traethau tywodlyd cudd o Mill House, sydd wedi’i adnewyddu mor hardd. Gyda dwy ystafell wely ac ardal chwarae mezzanine, mae’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd. Wedi diwrnod o adeiladu cestyll tywod ar y traeth, neu gerdded ar Lwybr Arfordir Cymru, gallwch fwynhau swper ar eich teras preifat ac wedyn ymlacio yn y twba twym preifat a syllu ar y sêr.

Chwilio am lety gyda thwba twym yng Ngorllewin Cymru

Llety â thwba twym yn Ne Cymru

Mae llety â thwba twym yn Ne Cymru’n berffaith i ddarganfod atyniadau diwylliannol a naturiol yr ardal hon – gan gynnwys ein prifddinas gyffrous, Caerdydd, traethau tawel arfordir Morgannwg ac adfeilion ysblennydd Abaty Tyndyrn.

Wenallt, Devauden, Sir Fynwy

Yr olygfa yw popeth yn Wenallt. Mae’r lleoliad fry ar fryn rhwng cymoedd Wysg a Gwy gyda golygfeydd dramatig o fryniau a dyffrynnoedd yn ymestyn hyd ag y gwelwch chi. Mae’r machlud yn arbennig iawn yma. Byngalo newydd ei adeiladu ar gynllun agored ydyw, gyda drysau mawr ‘bifold’ yn agor i’r teras ble mae’r twba twym a gynhesir â phren. Mae’r perchennog yn aromatherapydd cymwysedig a gall gynnig triniaethau pan fyddwch chi’n aros yma. Allwch chi feddwl am ffordd well o ymlacio?

Gwydraid o win a thwba twym gyda golygfeydd o’r machlud yn y cefndir.
Drysau ‘bifold’ yn agor led y pen i ddatgelu golygfa eang ar draws cwm a chaeau.

Golygfeydd o’r machlud ar draws dyffryn Wysg o’r twba twym yn Wenallt

Bythynnod Fferm Tŷ Tanglwyst Porthcawl, Morgannwg

Mae 90 o wartheg Holstein pedigri’n gwmpeini i chi ar y fferm laeth 120 erw hon, a gallwch fwynhau llaeth, menyn a hufen ffres pan fyddwch yn aros yma. Mae’r llety ym Mythynnod Fferm Tŷ Tanglwyst mewn pedwar hen adeilad fferm cerrig sy’n cynnwys pob math o nodweddion diddorol. Mae’r pedwar yn ddiangfeydd clyd gyda distiau pren, tân boncyff a chelfi antîc. Mae gan dri o’r pedwar dwba twym preifat. Yn ogystal ag archwilio’r fferm, gallwch grwydro drwy 25 erw o goedwig hynafol.

Chwilio am lety â thwba twym yn ne Cymru

Llun drôn o dwba twym ar lwyfan tŷ pen coeden.

Eich twba twym preifat eich hun fry uwchben y golygfeydd yn Squirrels Nest

Straeon cysylltiedig