Er bod llygredd golau’n rhemp yn llawer o'r DU ac Ewrop, yng Nghymru mae cannoedd o lefydd i brofi ein rhyfeddodau naturiol o dan awyr dywyll. Mae rhai ohonyn nhw’n amlwg; erbyn hyn mae gan Gymru rwydwaith o Warchodfeydd Awyr Dywyll a Pharciau Awyr Dywyll Rhyngwladol y mae seryddwyr yn eu cyfri’n rhai o fannau gorau’r byd i syllu ar y sêr. Serch hynny, mae cannoedd o lefydd eraill, o Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll bach a hygyrch i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Gogledd Cymru
Mae'n gartref i Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Eryri, ond peidiwch ag esgeuluso swyn Ynys Môn a Phen Llŷn; mae'r ddau yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) sy'n gorwedd o dan nen sydd fel y fagddu.

Canolfan Gymunedol Llanelian, Llanelian
Mae'r pentref hwn i'r de o Fae Colwyn yn fan cyfarfod rheolaidd gan Gymdeithas Seryddiaeth Gogledd Cymru. Maen nhw’n cynnal nosweithiau arsylwi rheolaidd a darlithoedd yng Nghanolfan Gymunedol Llanelian.
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lleoliad ardderchog ar gyfer syllu ar y sêr, gyda pheth o'i hawyr dywyllaf i'w chael uwchben Caer Drewyn, caer o'r oes haearn sy’n eistedd ar ben bryn yn edrych dros ddyffryn trawiadol Afon Dyfrdwy.
Capel Garmon, Betws-y-coed
Ym mherfeddion Parc Cenedlaethol Eryri, mae Siambr Gladdu Capel Garmon yn feddrod neolithig uwchben Dyffryn Conwy. Mae mynediad yn hawdd ac mae golygfeydd gwych o Eryri a'r awyr.

Trwyn Penmon, Ynys Môn
Mae Trwyn Penmon, y pentir sydd â thraeth o gerrig mân ar Ynys Môn, yn adnabyddus am y palod, morloi a dolffiniaid sydd i’w gweld yno, ond mae ganddo hefyd amodau perffaith ar gyfer syllu ar y sêr. I'r gogledd mae goleudy Trwyn Du ac yna Ynys Seiriol dafliad carreg i ffwrdd.
Canolbarth Cymru
Mae'r ardal ganolog hon o Gymru yn gartref i 45,000 o erwau Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan, yr unig le o'r fath sy'n eiddo preifat yn y byd.
Cronfa Ddŵr Brynbuga, Bannau Brycheiniog
Mae dwsinau o lefydd ym Mannau Brycheiniog, ond mae Safle Darganfod Awyr Dywyll Cronfa Ddŵr Brynbuga yng ngorllewin y parc ymhlith y tywyllaf a'r tawelaf. Ceir llefydd parcio, a gallwch gerdded allan i'r argae ei hun.
Cwm-du, Crucywel, Bannau Brycheiniog
Mae'r dyffryn tawel hwn yn y Mynydd Du yn cynnal yr AstroCamp yn Safle Gwersylla Cwm-du ddwywaith y flwyddyn, lle mae seryddwyr a sêr-syllwyr yn ymgynnull i rannu telesgopau a golygfeydd y cymoedd.
Argae Craig Goch, Powys
Yn boblogaidd gyda sêr-syllwyr ac astroffotograffwyr, gallwch barcio’n rhwydd yn Argae Craig Goch ger Rhaeadr Gwy. Syllwch ar y sêr o'r argae ei hun neu gymryd y llwybr ar ochr ddwyreiniol y gronfa ddŵr i weld golygfeydd godidog o awyr y nos.
Claerwen, Cwm Elan, Powys
Tua 12 milltir o Raeadr Gwy, mae gan Argae Claerwen yng Nghwm Elan faes parcio ar yr ochr orllewinol, a dim traffig trwodd i boeni amdano.
Gwesty Llangoed Hall, Powys
I’r de tuag at Aberhonddu ar hyd yr A470, mae gan westy gwledig Llangoed Hall yn agos i Afon Gwy awyr drawiadol uwch ei ben. Gallwch ofyn i’r perchnogion ddiffodd y goleuadau y tu allan, ac mae hyd yn oed ganddyn nhw delesgop a binocwlars eu hunain i chi eu defnyddio.
Mae sawl Safle Darganfod Awyr Dywyll yn ardal Mynyddoedd Cambria, o Lanerchaeon ar yr arfordir i ucheldir Dylife yng nghanol Canolbarth Cymru neu gronfa ddŵr anghysbell Llyn Brianne. Mae natur bellennig y Gymru wledig yn golygu mai prin yw’r llygredd golau felly mae'r rhain yn fannau anhygoel i edrych i fyny ar yr awyr mewn rhyfeddod.

Gorllewin Cymru
Liw dydd, mwynhewch daith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro, ac yn y nos ymwelwch ag un o Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll Sir Benfro. Fodd bynnag, ledled Gorllewin Cymru yn ehangach, mae llawer mwy o lefydd i syllu ar y sêr.
Traeth De Aberllydan, Sir Benfro
Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhraeth De Aberllydan yw'r tywyllaf o holl Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll Sir Benfro, gyda dynodiad dosbarth 'Llwybr Llaethog'.

Traeth Penbryn, Ceredigion
Gyda'r môr ar un ochr, mae arfordir gorllewinol garw a gwledig Cymru yn hafan ar gyfer yr awyr dywyll. Mae Traeth Penbryn lai na milltir o Faes Parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Fferm Llanborth ym Mhenbryn.
Porth Eynon, Penrhyn Gŵyr
Er bod Bae Rhosili gerllaw yn fwy enwog, prin yw'r mannau yng Nghymru sy’n dywyllach na Phorth Eynon yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Penrhyn Gŵyr. Perffaith ar gyfer gweld meteorau, a'r Llwybr Llaethog yn yr haf.
De Cymru
Er mai dyma lle mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru'n byw, mae dianc rhag llygredd golau Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn haws na’r disgwyl. Gallech chi anelu tuag at ran ddeheuol Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Bannau Brycheiniog, neu roi cynnig ar un o'r llu o opsiynau yn Sir Fynwy neu Fro Morgannwg.
Maes parcio Trwyn yr As, Llanilltud Fawr
Gall y pentir hwn ar Arfordir Monknash ym Mro Morgannwg fynd yn wyntog iawn, ond bydd awyr y nos yma’n chwa o awyr iach i chi. Gallwch barcio’n rhwydd yn Nhrwyn yr As, a mynnu peint cyn neu ar ôl eich sesiwn syllu yn The Horseshoe Inn neu The Plough & Harrow.
Amgueddfa a Chastell y Fenni, Sir Fynwy
Mae Castell y Fenni yn Sir Fynwy’n Safle Darganfod Awyr Dywyll, gyda digwyddiadau, cyfleoedd i syllu ar y sêr a thywyswyr i’ch arwain drwy awyr y nos drwy gydol y flwyddyn. Mae yna hefyd ddigon i'w wneud yn y Fenni a'r cyffiniau, gan gynnwys llawer o lefydd i lenwi tanc y car, felly beth am aros ac archwilio'r ardal yn ystod y dydd hefyd!

