Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd
20 Mehefin - 27 Gorffennaf 2024. Mae Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o berfformiadau yng Ngerddi Sophia yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf. Mae perfformiadau ym mis Gorffennaf yn cynnwys Shrek, Abba Revival a One Man Two Guvnors.
Red Bull Hardline, Dyffryn Dyfi, Machynlleth
01 - 02 Gorffennaf 2024. Mae Red Bull Hardline yn dychwelyd i Ddyffryn Dyfi am y degfed flwyddyn. Dyma un o rasys beicio lawr allt gorau'r byd.
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
02 - 07 Gorffennaf 2024. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen bob blwyddyn, gyda phum diwrnod o gerddoriaeth a dawnsio gwerin o bob cwr o'r byd mewn un lle.
Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin
06 Gorffennaf 2024. Mae gŵyl Gymraeg Caerfyrddin, Gŵyl Canol Dre, yn dychwelyd i Barc Myrddin am ddiwrnod o hwyl i'r teulu cyfan a chwip o line-up cerddorol. Mae mynediad i'r ŵyl am ddim.
Sioe Awyr Cymru, Bae Abertawe
06 - 07 Gorffennaf 2024. Mae Sioe Awyr Cymru yn dychwelyd i Fae Abertawe am ddau ddiwrnod o arddangosiadau o'r awyr. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys hofrenyddion, jetiau a'r Red Arrows, ac mae arddangosfeydd daear, cerddoriaeth fyw, gweithgareddau teuluol a reidiau hefyd.
Gŵyl Love Trails, Penrhyn Gŵyr
11 - 14 Gorffennaf 2024. Mwynhewch gerddoriaeth, DJs, tripiau i'r traeth, gweithgareddau chwaraeon a lles a bwyd yng ngŵyl Love Trails.
Tafwyl, Caerdydd
12 - 14 Gorffennaf 2024. Gŵyl flynyddol i ddathlu'r Gymraeg yw Tafwyl. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl ym Mharc Bute. Cynhelir gŵyl ymylol hefyd gyda digwyddiadau mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis, bariau a lleoliadau celfyddydol amrywiol ledled y ddinas.
Ironman Abertawe 70.3
14 Gorffennaf 2024. Mae Ironman Abertawe 70.3 yn ôl gyda chystadleuwyr yn nofio, seiclo a rhedeg ym Mae Abertawe.
Ras Ryngwladol yr Wyddfa
20 Gorffennaf 2024. Cynhelir Ras Ryngwladol yr Wyddfa ar gopa uchaf Cymru a Lloegr, gyda bron i 600 o redwyr o bob cwr o'r byd yn mynd i'r afael â llethrau serth yr Wyddfa.
Sesiwn Fawr Dolgellau
18 - 21 Gorffennaf 2024. Ar benwythnos cynta’r gwyliau haf yn flynyddol mae’r Sesiwn Fawr yn troi strydoedd Dolgellau yn faes gŵyl werin fywiog, gyda cherddoriaeth, llên, comedi, a gweithgareddau i blant yn cael eu llwyfannu ar draws amrywiol leoliadau’r dref.
Darllen mwy: Dolgellau: Crwydro tref y Sesiwn Fawr
Sioe Frenhinol Cymru, Powys
22 - 25 Gorffennaf 2024. Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Canolbarth Cymru yw pinacl calendr amaethyddol Prydain. Mae da byw, amrywiaeth o weithgareddau ac adloniant, yn ogystal ag amrywiaeth o fwyd.
Gŵyl Steelhouse, Blaenau Gwent
26 - 28 Gorffennaf 2024. Mae Gŵyl Steelhouse yn dod â cherddoriaeth roc i fynyddoedd godidog Glyn Ebwy.
Gŵyl Para Chwaraeon, Abertawe
I'w gadarnhau. Mae'r Ŵyl Para Chwaraeon yn dychwelyd i Abertawe, gyda chymysgedd o ddigwyddiadau Cymryd Rhan a Chystadleuol. Gwyliwch athletwyr para elitaidd a rhowch gynnig ar amrywiaeth o chwaraeon.
Darllen mwy: Arddangos para-chwaraeon yn Abertawe