Y Black Lion, Abergorlech, Sir Gâr
‘Croeso i blant, cŵn ac ambell geffyl,’ meddai’r cwpl sy’n rhedeg y tafarn coets fawr hardd hwn o’r 17eg ganrif yng Nghoedwig Brechfa, sydd â gardd fawr yn edrych dros Afon Cothi. Mae’r Black Lion yn boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr mynydd sy’n dod yma am fwyd tafarn sylweddol a chwrw gwych ar ôl eu gwaith caled.
Tafarn y Black Cock, Mynydd Caerffili
Peidiwch â chwerthin ar yr enw – math o geiliog grugiar yw hwn, iawn? Mae taith gron hyfryd o ben Mynydd Caerffili sy’n berffaith i gŵn. Hanner ffordd yn union i lawr mae tafarn wledig, gyfeillgar y Black Cock, sydd bob amser yn cynnig cwrw diddorol (i chi), powlenni’n llawn dŵr (iddyn nhw), a gwasanaeth hynod o gyfeillgar (i bawb).
Tafarn y Kings Head, Llangynydd, Penrhyn Gŵyr
Os ydych chi wrth eich bodd â chŵn â’r traeth, dyma’ch paradwys chi. Mae’r dafarn hon o’r 17eg ganrif yn dda iawn ac yn addas i gŵn. Mae yma hefyd fwyd a chwrw gwych ac mae’r Kings Head yn y lle perffaith i archwilio pen pellaf Penrhyn Gŵyr.
Y Bear, Crucywel
Mewn termau swolegol, nid yw eirth a chŵn yn ffrindiau. Fodd bynnag, yn y dafarn hon, sydd hefyd yn westy, mae croeso mawr i gŵn. Yn ôl y sôn, bydd aelodau o staff yn rhoi danteithion o’u pocedi i’r cŵn ac yn gosod powlenni o gyw iâr ffres ar y llawr. (Nodyn i’r rheini nad ydynt yn gŵn: mae gan fwydlen arferol y Bear enw ardderchog.)
Y Kings Head, Llandudno
Os ydych wedi bod yn cerdded i fyny’r Gogarth (ac fe ddylech chi wneud, oherwydd mae’n daith hyfryd), mae’r Kings Head yn lle perffaith i gael hoe. Mae croeso mawr i gŵn ym mar llawr carreg tafarn hynaf Llandudno, ond ar ddiwrnod braf efallai y bydd yn well gennych eistedd tu allan fel y gallwch wylio’r tramiau’n mynd heibio.
Tafarn y Plu, Llanystumdwy
Dyma dir Lloyd George, sydd 200 llath yn unig o Lwybr Arfordir Cymru, wrth iddo gofleidio ochr ddeheuol Penrhyn Llŷn. Mae croeso mawr i gŵn yn yr ardd gwrw a bar cyhoeddus lleol arobryn Tafarn y Plu – ond bydd rhaid eu hatgoffa’n garedig y bydd cathod y dafarn, Huddug a Parddu, yn gwylio pob symudiad.
Y Sun Trevor, Llangollen
Byddai gwyliau ar gamlas yn antur fawr i chi a’ch ci, ac mae cangen Llangollen o Gamlas Undeb Swydd Amwythig yn mynd yn union heibio’r dafarn hon sy’n croesawu cŵn – yr union le i oedi i gael peint a phryd o fwyd tafarn. Mae’r Sun Trevor ar ochr y bryn ac mae golygfeydd ardderchog o Ddyffryn hyfryd Llangollen.