Roedd gorfod aros yn lleol dros y cyfnod clo yn gyfle i ail-ymweld â rhai o fy hoff deithiau cerdded ers fy mhlentyndod yn ogystal â darganfod rhai newydd ar fy stepen drws, dim ond tafliad carreg o’r brifddinas.

Mi fydd Twts y ci achub gyda fi ar fy holl deithiau cerdded ac mae hi wedi bod wrth fy ochr ers degawd, o pan fuon ni yn byw gyda’n gilydd yn Nwyrain Asia i nawr yn ôl yng Nghymru. Roeddwn i’n byw ac yn gweithio yn Yangzhou, Tsiena pan ddes i ar ei thraws mewn marchnad stryd. Does dim byd gwell gan y ddwy ohonom ni na phacio bag a mentro allan am ddiwrnod o gerdded bryniau ac arfordiroedd Cymru. Dyma rai o’n hoff deithiau cerdded sydd yn addas i gŵn yn Ne Cymru bydd yn eich tywys drwy goedwigoedd, mynyddoedd, traethau a bryniau gyda digon o ddanteithion gan gynhyrchwyr artisan lleol ar hyd y ffordd.

Byddwch yn gerddwr cŵn cyfrifol a dilyn y Cod Cefn Gwlad os gwelwch yn dda. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru Cod Cerdded Cŵn hefyd i sicrhau teithiau cerdded diogel a hapus i chi a’ch ci.

Ci mawr gwyn a'r perchennog mewn par gyda choed a chastell
Menys a chi mawr gwyn ar ben mynydd

Ffion Llŷr a Twts

Mynydd y Garth

Gyda golygfeydd godidog a bywyd gwyllt hardd, dyma le ddechreuodd fy nghariad tuag at gerdded fel merch fach ar ysgwyddau fy nhad. Dechreuwch y daith ym mhentref Gwaelod y Garth gan ddilyn y ffordd wledig am ychydig dros filltir nes i chi gyrraedd arwydd yn eich arwain tuag at y mynydd. Gwnewch eich ffordd tua’r copa ond cadwch lygad allan am y gwenoliaid, yn las metelaidd tywyll sy’n treulio’r gwanwyn a’r haf yn nythu yma cyn dychwelyd i Dde Affrica i fudo. Wrth gyrraedd y copa, sy’n hen safle o’r Oes Efydd, bydd golygfeydd ysblennydd o Fannau Brycheiniog a Chaerdydd a chyn belled â Sianel Bryste a Gwlad yr Haf ar ddiwrnod clir. Dyma gyfle i fwynhau’r golygfeydd a chynnig dŵr ffres i’r ci. Os ydy hi’n bnawn Gwener neu Sadwrn, wrth i chi gerdded i lawr y bryn tuag at Bentyrch, rowch ganiad i Stiwdio Acapela a bydd ganddyn nhw bitsa cartref yn aros amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd y pentref – y Roc a Rôl fyddai bob tro yn cael.

Ci mawr gwyn ar ben mynydd
Golygfa o ben mynydd gyda choed a tai

Twts ar ben Mynydd y Garth

Bae Pinc, Porthcawl

Bae Pinc yw un o’r traethau mwyaf gorllewinol ym Mhorthcawl ac yn fy marn i, yn berl cudd go iawn. Wedi’i enwi ar ôl ei gerrig pinc hardd ac unigryw, mae’r traeth yn caniatáu cŵn a dim ond taith gerdded o Rest Bay. Os ydych chi’n gyrru i gyrraedd yno, parciwch ym maes parcio Rest Bay cyn i’r syrffwyr gyrraedd a cherddwch wrth ochr Clwb Golff Brenhinol Porthcawl ar y llwybr pren am tua 15 munud cyn i chi gyrraedd Bae Pinc. Mae hi werth cymryd golwg ar y gofeb o long 7,000 tunnell sydd yno i gofio am griw Bad Achub y Mwmbwls ac SS Samtampa. Does dim amwynderau cyhoeddus yma felly mi fyddai bob tro yn pacio picnic a bocs o fwyd i’r ci. Mae hwn yn le perffaith i gael mwynhau dŵr ffres y môr. Wnâi byth anghofio y tro cyntaf i Twts deimlo tywod a dŵr y môr yn erbyn ei chroen – does dim byd gwell na gweld ci achub yn profi llawenydd pur.

Mynydd y Bwlch

Y ffordd fynyddig hon sy’n cysylltu Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot gyda Chwm Rhondda a phan fyddwch yn cyrraedd y copa, mae golygfeydd panoramig arbennig o Dreorci, Cwmparc a gweddill y cwm. Mae’r llwybr yn arbennig o boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr yn enwedig ers i’r daith gael ei gynnwys yn y Dragon Ride, un o sialensiau beicio anoddaf y DU.  Ar y ffordd adref wrth deithio drwy Donypandy, does dim lle gwell na’r parlwr hufen iâ Subzero, neu Mr Creemy gynt, sydd â dros 60 o flasau hufen ia gwahanol i chi drio – er mi fyddai bob tro yn mynd am yr Nocciolo neu’r Filled Oyster. Mae’r busnes teuluol wedi bod yn gweini hufen iâ i’r cymoedd ers degawdau ac mae gennyf atgofion melys o dreulio oriau yn eistedd wrth ffenestr yr ystafell fyw yn Nhonteg, yn aros i fan enwog Mr Creemy wneud ei ffordd i lawr y cwm.

Ci mawr gwyn yn bwyta hufen ia

Twts yn mwynhau hufen iâ Subzero, Tonypandy 

Coed y Wenallt

Am lwybr sy’n cynnwys amrywiaeth o fywyd gwyllt, blodau hardd a golygfeydd gwych o’r ddinas, does dim lle gwell na choetir hynafol Coed y Wenallt. Mi fyddai yn tueddu i ddechrau’r daith ar Fynydd Caerffili lle mae modd gyrru tua milltir i lawr y ffordd wledig ochr draw i’r Traveller’s Rest cyn cyrraedd maes parcio, sy’n rhad ac am ddim. Yna mae gennych chi 44 hectar o goetir SSSI hynafol i ddarganfod. Wrth gyrraedd y coetir, gwrandewch allan am y Gnocell Fraith Fwyaf yn y coed ac mae siawns dda y byddwch yn gweld bodaod, telor y coed a llwybrau moch daear wrth i chi wneud eich ffordd drwy’r goedwig. Yn y gwanwyn, mae’r coetir yn flanced o glychau’r gog. Yn dilyn y llwybr cyhoeddus, mi fyddai bob tro yn gorffen y daith ar Fynydd Caerffili am rywbeth yn y bwyty eco gyfeillgar, Caerphilly Mountain Snack Bar. Mae wastad awyrgylch braf ac ymlaciol yma a gallwch fwynhau eich bwyd ar ben y mynydd gyda’r golygfeydd o’r dref, bryniau cyfagos ac o Gaerdydd.

Cwrt Insole ac Eglwys Gadeiriol Llandaf

Dechreuwch y daith yng Nghwrt Insole, hen blasty Gothig gradd II sydd reit yng nghanol Llandaf yng Nghaerdydd. Mae’r gerddi sy’n llawn blodau lliwgar yn caniatáu cŵn ac wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 1946. Dim ond tua 5 munud o daith gerdded yw hi i gyrraedd Eglwys Gadeiriol Llandaf, sy’n cynnwys rhai o’r bensaernïaeth ganoloesol orau yng Nghymru. Wrth gerdded o amgylch yr Eglwys Gadeiriol, efallai y byddwch yn dod o hyd i’r ardd natur ar gyfer gloÿnnod byw ac os ydych chi’n lwcus iawn, siawns y byddwch yn gweld y ddau hebog tramor sy’n byw yno. Mae’r pâr yn aml yn gorffwys ar binaclau a gargoiliau'r gadeirlan a bob hyn a hyn yn cylchu yn yr awyr er mwyn galw ei gilydd. Am rywbeth i fwyta, dilynwch yr Afon Taf i lawr drwy Gaeau Llandaf at Bontcanna. Y lle i fynd yw’r caffi pop-up sydd gan Oasis Caerdydd yn Kemi’s, sy’n cael ei redeg gan grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n rhannu prydau cartref traddodiadol o wledydd gan gynnwys Iran, Gambia ac Ethiopia. Cewch groeso cynnes gan y cogyddion Dani a Hafiz a fy ffefrynnau i yw’r brecwast o Ogledd Affrica Shakshuka a’r Kookoo Sabzi o Iran.

Ci mawr gwyn ar y gwair wrth eglwys gadeiriol
Powlen o reis, ffrwythau a chnau

Twts yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a bwyd o fwyty pop-up Oasis yn Kemi's Pontcanna

Straeon cysylltiedig