Gŵyl y Gelli, Powys

25 Mai - 04 Mehefin 2023. Cynhelir Gŵyl y Gelli bob haf yn nhref lyfrau Y Gelli Gandryll. Mae'r ŵyl yn denu dros 100,000 o ymwelwyr dros 11 diwrnod i fwynhau yng nghwmni rhai o awduron, beirdd, athronwyr, haneswyr, gwyddonwyr, comediwyr a cherddorion gorau’r byd. 

Mae mynediad i safle'r ŵyl am ddim ond mae angen tocynnau ar gyfer y sesiynau unigol. Ymysg yr enwau eleni mae The Proclaimers, Margaret Atwood, Dua Lipa, Connor Allen a llawer mwy...

Pobl yn eistedd ar gadeiriau haul yn darllen

Gŵyl y Gelli, Y Gelli Gandryll

Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin

29 Mai - 03 Mehefin 2023. Mae un o drefi gwledig Sir Gâr yn croesawu gŵyl ieuenctid deithiol mwyaf Ewrop eleni. Rhwng 29 Mai a 3 Mehefin bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gystadlu mewn bron i 400 o gystadlaethau; o ganu i goginio, o ddawnsio i ddylunio gwefan, ac o sgwennu stori i serennu ar lwyfan. 

Tu hwnt i’r cystadlu bydd gwledd o stondinau ar hyd y maes yn cynnig crefftau, cynnyrch a bwydydd Cymreig. Dros benwythnos olaf yr ŵyl bydd Gŵyl Triban yn cyflwyno artistiaid, bandiau, comedïwyr, podledwyr ac actiau drag gorau’r sîn.

Darllen mwyDarganfod Sir Gâr a Llanymddyfri

Uchafbwyntiau Eisteddfod 2022 a blas o'r hyn sydd ar ei ffordd i Sir Gâr

Dyddiau Natur Castell Biwmares, Ynys Môn

29 Mai - 01 Mehefin 2023. Bydd Dyddiau Natur Castell Biwmares yn dysgu sut y defnyddiwyd adar ysglyfaethus ar gyfer hela mewn cestyll canoloesol gydag arddangosfeydd hedfan gan Hebogwr.

Tom y Clerwr, Llys yr Esgob Tyddewi, Sir Benfro

31 Mai - 01 Mehefin 2023. Bydd Tom y Clerwr yn diddanu yn Llys yr Esgob Tyddewi. Dewch i gwrdd â'r Esgob Henry de Gower a'r Fonesig Agatha Barlow, sy'n ffigyrau allweddol yn hanes y safle.

Gŵyl y Big Retreat, Lawrenny, Sir Benfro

01 - 04 Mehefin 2023. Mae Gŵyl y Big Retreat yn ŵyl lesol sy'n siŵr o ddeffro'r synhwyrau. Yn ogystal ag elfennau ffitrwydd a lles fel ioga, nofio a sesiynau ymarfer corff dan arweiniad Mr Motivator, mae line up gwych o fandiau gan gynnwys Scouting for Girls, Toploader, DJ Mother Pukka a DJ Huey Morgan. Mae digonedd i ddiddanu'r plant hefyd, o sesiynau syrcas i weithdai coginio. 

Pedwar o bobl yn eistedd ar soffa mewn gŵyl o dan arwydd wedi ei orchuddio gyda blodau lliwgar. Mae'r arwydd yn dweud The Big Retreat.

The Big Retreat, Lawrenny 

Gŵyl Awyr Agored y Drenewydd, Oriel Davies Gallery

03 - 04 Mehefin 2023. Cynhelir Gŵyl Awyr Agored y Drenewydd yn Oriel Davies Gallery, gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau rhad ac am ddim, gan gynnwys sesiynau cerdded, natur, celf, hanes, cerddoriaeth a mwy. Cewch gyngor ar dyfu planhigion a chyfle i roi cynnig ar feicio mynydd neu ganŵio. Bydd digonedd o hwyl gyda'r nos hefyd wrth i'r grŵp lleol Ffonic arwain y ceilidh. 

Sinema Awyr Agored Tŷ Tredegar, Casnewydd

02 - 04 Mehefin 2023. Mwynhewch ffilm yn yr awyr agored yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd. Archebwch ymlaen llaw - mae'r nosweithiau yn boblogaidd iawn. Ar y sgrin fawr mae Top Gun: Maverick (02 Mehefin), Dirty Dancing (03 Mehefin) neu Grease (04 Mehefin).

10K Abersoch, Gwynedd

03 Mehefin 2023. Ewch draw i gefnogi cystadleuwyr yr HR Anchor Abersoch 10K. Mae’r rhedwyr yn dechrau yn y pentref ac yn gorffen ar y traeth. Mae yna opsiwn 3K ar gyfer rhai 5 oed a hŷn hefyd.

Gottwood, Ynys Môn

08 - 11 Mehefin 2023. Mae Gottwood yn ôl yn Stad Carreglwyd, Ynys Môn. Cynhelir yr ŵyl electronig annibynnol mewn coedwig ar dir y stad.  

Out & Wild Festival, Sir Benfro

09 - 12 Mehefin 2023. Mae Out & Wild yn ôl ar gyfer 2023. Dyma ŵyl llesiant gyntaf y DU ar gyfer menywod LHDTC+ ac anneuaidd. Mae'r rhaglen amrywiol yn cynnwys cerddoriaeth, lles, chwaraeon a gweithdai.

Gŵyl Cefni, Ynys Môn

10 Mehefin 2023. Gŵyl Gymraeg i’r teulu cyfan yng nghanol tref Llangefni yw Gŵyl Cefni. Mae disgwyl i gannoedd o bobl ymgynnull ym maes parcio Neuadd y Dref i wylio sioe adloniant i’r teulu a cherddoriaeth byw drwy'r prynhawn. Yws Gwynedd, Bwncath a Meinir Gwilym yw rhai o'r enwau mawr eleni. 

 

Gŵyl Tawe, Abertawe

10 Mehefin 2023. Gŵyl Gymraeg Abertawe wedi ei threfnu gan Menter Iaith Abertawe yw Gŵyl TaweBydd llu o berfformiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gan gynnwys Adwaith, Sage Todz, Ani Glass a Los Blancos. Tu hwnt i'r llwyfan cerddoriaeth bydd stondinau a gweithgareddau gan Learn Cymraeg Abertawe, Orielodl, Technocamps, Coleg Gŵyr, y Taliesin, Siop Tŷ Tawe a'r Mission Gallery.

Triathlon Slateman, Llanberis, Gwynedd

10 - 11 Mehefin 2023. Triathlon y Slateman yw'r triathlon antur fwyaf eiconig yng Nghymru. Mae pedair ras wahanol gyda phellteroedd amrywiol, i gyd yn amgylchedd arbennig safle UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru Llechi Cymru.

Hanner Marathon Abertawe

11 Mehefin 2023. Mae Hanner Marathon JCP Abertawe yn ôl gyda'r rhedwyr yn loncio o Neuadd Brangwyn, trwy strydoedd Abertawe ac ar hyd Bae Abertawe i'r Mwmbwls.

Gŵyl Bwyd Stryd Sir Benfro, Dinbych-y-pysgod

16 - 18 Mehefin 2023. Mae Gŵyl Bwyd Stryd Sir Benfro yn ôl ar Draeth y De, Dinbych-y-pysgod, gyda bwydydd blasus gan gynnwys byrgyrs, brownis a bwyd Mecsianaidd ac amrywiaeth o gwrw a choctels. 

Pride Cymru, Caerdydd

17 - 18 Mehefin 2023. Ers 1999 Pride Cymru yw’r digwyddiad blynyddol mwyaf yng nghymuned LHDT+ Cymru. Mae’n gyfle i groesawu pobl o bob oed ac o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol i ddathlu amrywiaeth ac i ymdrechu tuag at gydraddoldeb mewn cefnogaeth â’r gymuned LHDT+ a grwpiau lleiafrifol eraill. Mae prif safle'r ŵyl yn symud i Gastell Caerdydd eleni, wrth i'r ŵyl symud o ddiwedd yr haf i fis Mehefin - mis Pride. 

Darllen mwy: Pethau rydyn ni’n eu caru am Benwythnos Mawr Pride Cymru

Pride Cymru 2022

Sul y Tadau

18 Mehefin 2023. Rhowch anrheg ychydig yn wahanol i'ch tad eleni - beth am De Prynhawn yng Ngwesty Park Plaza Caerdydd neu Diwrnod Gweithgareddau yn Llys-y-Frân, Sir Benfro, lle gall fwynhau antur naill ai ar y tir neu ar y dŵr. Neu beth am sesiwn blasu cwrw yn un o fragdai niferus Cymru neu cinio Sul mewn tafarn gymuendol

Dragon Ride, Bannau Brycheiniog

18 Mehefin 2023. Mae Dragon Ride yn un o gampau chwaraeon mwyaf heriol y Deyrnas Unedig. Bydd y cystadleuwyr yn gwibio trwy'r Bannau Brycheiniog ar bedwar llwybr beicio o bellter amrywiol. Bydd pob ras yn cychwyn o Barc Margam. 

Darllen mwy: Llwybrau beicio pellter hir

Dragon Ride 2022

Rebel Fest 2023, Bragdy Tiny Rebel ger Casnewydd

30 Mehefin - 02 Gorffennaf 2023. Mwynhewch benwythnos epig o gerddoriaeth, bwyd a chwrw Tiny Rebel yn Rebel Fest 2023. Disgwyliwch DJs epig a talent Cymreig lleol ar 'The Live Stage' a hwyl i'r teulu yn y Tiny Circus. 

Detholiad o gwrw potel ar far
Murlun lliwgar gyda thestun 'We love hops'.

Cwrw Tiny Rebel

Digwyddiadau Cadw

Trwy Mehefin 2023. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn safleoedd Cadw ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngwaith Haearn Blaenafon (03 a 04 Mehefin 2023), Teithiau Tywys Castell Dinbych (03 Mehefin 2023) a Diwrnod Lles yn Llys a Chastell Tretŵr (11 Mehefin).

Mwynhewch O Dan y Wenallt – y fersiwn bypedau yng Nghastell Talacharn (17 a 18 Mehefin), Sioe Gŵn Deuluol yng Nghastell Dinbych, Ffair Ganol Haf Tretŵr (24 a 25 Mehefin) a Gweithdy Arferion Llysieuol Canol Haf yng Ngwaith Haearn Blaenafon (24 a 25 Mehefin)

Amgueddfa Cymru

Mae wastad digon i'w weld yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol, gydag amrywiaeth o arddangosfeydd teithiol a pharhaol. Mae mynediad yn rhad ac am ddim i bob un o'r saith amgueddfa. I weld beth sydd ymlaen ym Mehefin ewch i'r dudalen Digwyddiadau.

 

Tu allan i adeilad mawreddog gwyn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac awyr las yn gefndir.
Mynedfa fawreddog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle gwelir lefelau’r llawr cyntaf a ffenestri mawr

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Straeon cysylltiedig