Defnyddio’r wefan hon

Croeso Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Bydd gwaith datblygu ychwanegol a gynlluniwyd ar gyfer Awst 2021 yn gwella'r uchod ymhellach, gan gynnig rheolaeth ychwanegol dros elfennau animeiddio a fideo. Mae'r lliwiau cyfnewidiol, lefelau cyferbyniad a ffontiau hefyd ar y cynllun datblygu, yn ogystal â'r gallu i chwyddo i mewn ar destun.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae’r datblygiad wedi gweithredu dull hollol ymatebol gan sicrhau fod cynnwys yn hygyrch i’w weld ar ddyfeisiadau mor fach â ffonau symudol neu mor fawr â’r sgriniau mwyaf pen desg. Bu’n bwysig i’r datblygiad sicrhau nid yn unig fod testun yn cael ei wneud yn hygyrch ond hefyd bod y profiad o weld yn gyfartal ar draws meintiau sgrin, gan sicrhau fod ffotograffau’n canolbwyntio ar yr ardaloedd perthnasol wrth gael eu hailfeintioli, a bod trawsysgrifiadau ar gael o bob fideo a gomisiynir gennym.

Rydym ni wedi gwneud pob ymdrech i wneud gwefan Croeso.Cymru yn hawdd i’w dilyn ac yn hygyrch i bawb. Rydym i wedi anelu at gael y safle i lynu wrth y canllawiau canlynol:- 

  • HTML4/5
  • CSS 2/3.0
  • WCAG Version 2.1 (AA)

Ewch i AbilityNet i gael arweiniad ar addasu eich cyfrifiadur ar gyfer eich anghenion hygyrchedd. 

Cydweddu â Phorwyr Rhyngrwyd 

Cafodd gwefan Croeso.Cymru ei phrofi ar y rhan fwyaf o’r prif borwyr cyfoes.

Cafodd gwefan Croeso.Cymru ei phrofi ar y porwyr canlynol: 

  • Chrome
  • Firefox
  • Internet Explorer
  • Safari

Ffontiau

I gefnogi’r ymdeimlad o le a’r profiad diwylliannol o Gymru, mae gennym gasgliad o wynebau teip unigryw sy’n cael eu dylanwadu gan dreftadaeth deipograffig y Gymraeg.

Mae’r ffontiau’n gweithredu fel conglfaen i uno hunaniaeth y brand gweledol, gan gynrychioli Cymru gerbron y byd mewn dull gwirioneddol a chreadigol.

Rydym ni wedi adeiladu cyfres o glyffau a diagraffau i’r ffont sy’n cefnogi ymdeimlad o le a chymeriad, yn ôl y galw.

  • Defnyddir Cymru / Wales Sans fel arfer fel ffont pennawd 
  • Defnyddir Georgia Sans ar draws copi’r cynnwys 

Datblygwyd ein ffontiau ar y cyd ag asiantaeth hygyrchedd i adolygu ac addasu’r ffont yn ôl y galw,

Ffotograffiaeth, Darluniau a Fideo 

Ein nod yw cael ein holl asedau cyfryngau sy’n eiddo i ni’n hygyrch, mae hyn yn cynnwys alt text disgrifiadol a chapsiynau ble bo’n addas. Yn aml, dangosir ein fideos drwy YouTube neu Vimeo ble bydd capsiynau ar gael. 

Wrth wreiddio cynnwys trydydd parti i’n gwefan, ni allwn sicrhau fod pob parti allanol wedi dilyn yr un dull o weithio. 

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 30 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: ymholiadau.cymru@llyw.cymru

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Croeso Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Problemau â thechnoleg

Mae yna ddiffyg gofod rhwng rhai priodoleddau sy’n methu safon WCAG 2.1 A 4.1.1 Adran 508 (2017) A 4.1.1. Rydym am drwsio hyn erbyn Awst 2021.

Nid oes gan rhai fframiau ac i-fframiau y briodoledd ‘teitl’ sy’n methu safon WCAG 2.1 A 2.4.1 Adran 508 (2017) A 2.4.1 Rydym am drwsio hyn erbyn Awst 2021.

Nid yw rhai o’r colofnau a rhesi mewn tablau data yn cael eu nodi gyda’r elfennau cywir sy’n methu safon WCAG 2.1 A F91 Adran 508 (2017) A F91. Rydym am drwsio hyn erbyn Awst 2021.

Nid yw rhai o’r tablau marciau cynllun wedi’i nodi gyda’r ‘rôl’ cywir sy’n methu safon WCAG 2.1 A F91 Adran 508 (2017) A F91. Rydym am drwsio hyn erbyn Awst 2021.

Nid yw rhai o’r briodoleddau aria yn cyfeirio at nodweddion yr elfennau o fewn yr un ddogfen sy’n methu safon  WCAG 2.1 A 1.3.1 Adran 508 (2017) A 1.3.1 ARIA 1.1. Rydym am drwsio hyn erbyn Awst 2021.

Nid yw rhai labeli meysydd ffurflen yn unigryw ar y dudalen, neu’n agos i gyfleu’r cyd-destun yn gywir sy’n methu safon WCAG 2.1 A 1.3.1 Adran 508 (2017) A 1.3.1 ARIA 1.1. Rydym am drwsio hyn erbyn Awst 2021.

Oherwydd newidiadau mewn blaenoriaethau yn dilyn Covid-19 rydym wedi symud rhai o'r dyddiadau uchod o Fawrth 2021 i Awst 2021 wrth i ni weithio gyda'n datblygwyr i ddiweddaru'r eitemau hyn.

 

Problemau â PDFs a dogfennau eraill

Dydi nifer o’n dogfennau PDF hŷn ddim yn diwallu safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrin.

Mae rhai o’n dogfennau PDF yn bwysig er mwyn darparu gwybodaeth am ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch a hybu Cymru fel cyrchfan twristiaeth, rhai o'r rhain gan bartneriaid. Erbyn mis Ebrill 2022, rydym yn bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym Mawrth 2018. Cynhaliwyd y prawf gan Nomensa Cyf. Yn olynol a lansio’r wefan, a cheir ei gynnal gan ein partneriaid datblygu cyfredol BoxUK Cyf.

Gwnaethom brofi’r canlynol:

Beth ydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae gwneud ein gwefan yn llwyr hygyrch yn broses barhaol ac rydym ni wedi ymrwymo i gynnig profiad o’n gwefan sy’n cydymffurfio a safonau hygyrchedd AA ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Ein dull arfaethedig o weithio yw cyfuno grwpiau technoleg a grwpiau ffocws fel ei gilydd sy’n cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau neu sy’n defnyddio technolegau sy’n rhoi cynhorthwy.

Mae datblygiadau parhaol yn cael eu cyflawni gyda safon hygyrchedd AA fel nod craidd gan ein partneriaid datblygu BoxUK.

Cwblhawyd adolygiad allanol ym mis Mawrth 2021. Mae nifer o welliannau wedi'u rhoi ar waith a bydd y rhai sydd gyda mwy o fuddion hir dymor yn cael eu cynnwys mewn sbrintiau datblygu yn y dyfodol.

Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Medi 2020. Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Gorffennaf 2021.

Straeon cysylltiedig