Gwybodaeth Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r wybodaeth hawlfraint y Goron sydd ar y wefan hon (ac eithrio logos ac unrhyw ddelweddau) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gan nad yw pob cynnwys ar y wefan hon yn destun hawlfraint y Goron, rhaid iti gysylltu ag ymholiadau.cymru@llyw.cymru cyn defnyddio unrhyw gynnwys o'r fath.
Rhaid iti atgynhyrchu ein deunydd yn gywir a pheidio â'i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gaiff unrhyw eitemau hawlfraint y Goron ar y wefan hon eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod ei statws hawlfraint (er enghraifft, Hawlfraint y Goron ©Croeso.Cymru). Rydym hefyd yn dy annog i greu dolenni hyperdestun i'r wefan hon fel rhan o'r gydnabyddiaeth ac yn unol â thelerau defnyddio'r wefan. Wrth ddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar-lein, rhaid cynnwys tag cydnabyddedig sy'n cyfeirio at y ffynhonnell wybodaeth wreiddiol.
Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon lle nodir bod yr hawlfraint yn perthyn i drydydd parti. Bydd angen cael caniatâd i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliad yr hawliau perthnasol.
Oni nodir yn wahanol, mae delweddau'n © Hawlfraint y Goron.
Gwaherddir defnyddio logo VisitWales.com neu unrhyw logo arall Llywodraeth Cymru heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol. I ofyn am ganiatâd i ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru, e-bostia: brandingqueries@gov.wales
Ymwadiad Gweithgaredd
Nid yw Croeso.Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am dy gyfranogiad mewn unrhyw weithgareddau sy'n ymddangos ar y wefan hon. Darperir gwybodaeth am weithgareddau er gwybodaeth gyffredinol yn unig.
Rwyt yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar dy ddisgresiwn a'th risg dy hun. Ti sy'n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw weithgaredd yn addas ar gyfer dy anghenion unigol a bod gan y darparwr perthnasol unrhyw gymwysterau, achrediadau, trwyddedau, caniatadau neu yswiriant sy'n briodol.
Efallai na fydd gwybodaeth ar y wefan hon a ddarperir gan ddarparwyr gweithgareddau yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol. Nid yw Croeso Cymru yn gwirio'r holl wybodaeth a ddarperir gan drydydd partïon ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod, anaf, cost neu draul sy'n deillio o ddibynnu ar wybodaeth o'r fath nac o gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a drefnir gyda darparwr trydydd parti.
Cynnwys Trydydd Parti
Ni all Croeso.Cymru warantu cywirdeb na dibynadwyedd y delweddau a ddangosir gan sefydliadau trydydd parti ar y wefan hon. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynrychioli'n gywir. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am wallau, hepgoriadau na chamliwio.
Mae delweddau o'r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu mewnforio gan feddalwedd a ddefnyddir gan y llwyfannau cymdeithasol perthnasol ac nid ydynt wedi'u cadw â llaw gan VisitWales.com. Os hoffet fwy o wybodaeth neu os hoffet i ddelwedd gael ei dileu, cysyllta ag ymholiadau.cymru@llyw.cymru.
Telerau ac Amodau gwefan Croeso Cymru
Mae'r telerau defnyddio hyn (ynghyd â'r uchod a'r dogfennau y cyfeirir atynt yma) yn nodi'r telerau y cei ddefnyddio ein gwefan www.croeso.cymru ("y Wefan").
Mae ein Polisi Preifatrwydd hefyd yn nodi'r telerau y byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gesglir gennyt, neu a ddarperi i ni. Drwy ddefnyddio'r Wefan, rwyt yn cytuno i brosesu o'r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperi yn gywir.
Darllena'r telerau defnyddio hyn a'n Polisi Preifatrwydd (gyda'i gilydd, y "Telerau Defnyddiwr") yn ofalus cyn defnyddio'r Wefan. Drwy ddefnyddio'r Wefan, rwyt yn cadarnhau dy fod yn derbyn y Telerau Defnyddiwr ac yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad wyt yn cytuno â'r Telerau Defnyddiwr, rhaid iti beidio â defnyddio'r Wefan.
Gweler hefyd ein Polisi Cwcis, sy'n esbonio sut mae cwcis yn cael eu defnyddio ar y Wefan.
1. Y GWASANAETH
1.1 Rydym yn darparu gwasanaeth sy'n galluogi unigolion i gael mynediad at wybodaeth a gyhoeddir gan rai trydydd partïon ("Busnesau"), pori'r wybodaeth honno, gwneud cais am daflenni gwybodaeth, a gwneud archebion (ar gyfer llety, gwasanaethau neu nwyddau) gyda Busnesau drwy'r Wefan o bryd i'w gilydd neu drwy ganolfan gyswllt VisitWales.com ("y Gwasanaeth").
Os hoffet ddefnyddio'r Gwasanaeth, rhaid iti gytuno i'r Telerau Defnyddiwr.
1.2 Rydym yn cytuno i ddarparu'r Gwasanaeth i ti ar yr amod dy fod yn derbyn y Telerau Defnyddiwr. Drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, bernir dy fod wedi derbyn y Telerau Defnyddiwr.
1.3 Gelli ddefnyddio'r Gwasanaeth i ddod o hyd i Fusnesau a gwneud archebion gyda nhw. Bydd unrhyw gontract a wneir rhyngot ti a'r Busnes y gwnaethost archebu ganddo, a bydd yn ddarostyngedig i delerau ac amodau'r Busnes hwnnw. Rhaid iti ddarllen yr holl delerau ac amodau cyn ymrwymo i unrhyw gontract gyda Busnes. Ni fyddi'n ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru na VisitWales.com wrth archebu gyda Busnes, ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas ag archeb o'r fath.
2. DY RWYMEDIGAETHAU
2.1 Ti sy'n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn cael mynediad at y Wefan a/neu'r Gwasanaeth.
2.2 Rwyt hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n defnyddio'r Wefan drwy dy gysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r Telerau Defnyddiwr ac yn cydymffurfio â nhw.
3. DEFNYDDIO’R WEFAN A'R GWASANAETH
3.1 Rwyt yn gwarantu i ni na fyddi'n defnyddio'r Wefan na'r Gwasanaeth at unrhyw ddiben sy'n anghyfreithlon neu wedi'i wahardd gan y Telerau Defnyddiwr. Yn benodol, rwyt yn cytuno i beidio â defnyddio'r Wefan na'r Gwasanaeth i:
3.1.1 Drin neu newid dynodwyr mewn unrhyw ffordd er mwyn cuddio tarddiad unrhyw gyfathrebiad a anfonir drwy'r Gwasanaeth.
3.1.2 Amharu ar weithrediad y Gwasanaeth, y Wefan neu unrhyw weinyddion neu rwydweithiau sy'n gysylltiedig â'r Wefan.
3.1.3 Torri unrhyw gyfraith yn y DU neu'n rhyngwladol.
3.1.4 Atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ailwerthu neu ecsbloetio at ddibenion masnachol unrhyw ran o'r Gwasanaeth, defnydd o'r Gwasanaeth neu fynediad ato.
3.1.5 Casglu neu storio data personol am ddefnyddwyr eraill y Wefan neu'r Gwasanaeth.
3.1.6 Cynnal, hwyluso, awdurdodi neu ganiatáu unrhyw gloddio testun neu ddata, sgrapio gwefannau, echdynnu cynnwys, casglu data awtomataidd, mynegeio, hyfforddi peiriannau dysgu, hyfforddi deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol neu unrhyw ddefnydd awtomataidd neu systematig tebyg o'r Wefan neu'r Gwasanaeth, oni bai ein bod wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig penodol.
3.2 Rwyt yn deall y gall prosesu a throsglwyddo'r Gwasanaeth yn dechnegol gynnwys: (a) trosglwyddiadau dros rwydweithiau amrywiol; a
(b) newidiadau er mwyn cydymffurfio â gofynion technegol rhwydweithiau neu ddyfeisiau cysylltiedig.
3.3 Gallwn addasu, atal, tynnu'n ôl neu gyfyngu ar argaeledd y cyfan neu unrhyw ran o'r Wefan neu'r Gwasanaeth pan fo hynny'n rhesymol angenrheidiol am resymau gweithredol, technegol, diogelwch, cyfreithiol neu resymau eraill. Lle bo'n rhesymol ymarferol, byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw am unrhyw newid, ataliad neu dynnu'n ôl sylweddol. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw addasiad, ataliad, tynnu'n ôl neu gyfyngiad o'r fath.
4. PERCHNOGAETH A DEFNYDDIO HAWLIAU PERCHNOGOL
4.1 Mae holl nodweddion y Gwasanaeth (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddyluniad y Wefan, yr holl logos, testun a graffeg ar y Wefan) yn destun hawlfraint y Goron neu hawliau eiddo deallusol eraill sy'n eiddo i ni; ac eithrio rhai nodweddion sy'n eiddo i drydydd partïon (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Fusnesau a gwasanaethau manwerthu ac ar-lein).
4.2 Gelli atgynhyrchu nodweddion y Gwasanaeth (ac eithrio logos) nad ydynt yn perthyn i drydydd partïon yn unol â'r wybodaeth hawlfraint a nodir ar ddechrau'r ddogfen hon.
4.3 Ni sy'n berchen ar, a/neu wedi cael trwydded i ddefnyddio, yr holl feddalwedd a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth ("y Feddalwedd").
4.4 Rydym drwy hyn yn rhoi hawl a thrwydded bersonol, anhrosglwyddadwy ac anghyfyngedig i ti (neu is-drwydded yn achos hawliau trydydd parti sydd wedi'u trwyddedu i ni) i ddefnyddio'r Feddalwedd at ddiben cael mynediad at y Gwasanaeth, ar yr amod na fyddi'n gwneud (ac na fyddi'n caniatáu i unrhyw drydydd parti wneud) unrhyw un o'r canlynol:
- copïo'r Feddalwedd;
- ei haddasu;
- creu gwaith deilliadol ohoni;
- ei dadbeiriannu;
- ei ddadgydosod;
- ceisio darganfod cod ffynhonnell y Feddalwedd mewn unrhyw ffordd arall; neu
- gwerthu, aseinio, is-drwyddedu, rhoi buddiant diogelwch ynddi neu drosglwyddo unrhyw hawl ynddi mewn unrhyw ffordd arall.
4.5 Os byddi'n argraffu, copïo, lawrlwytho, rhannu neu ailgyhoeddi unrhyw ran o'r Wefan (neu nodweddion y Gwasanaeth) yn groes i'r Telerau Defnyddiwr hyn, bydd dy hawl i ddefnyddio'r Wefan yn dod i ben ar unwaith, a rhaid iti, os gofynnwn, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r deunyddiau a wnaethost.
5. YMWADIAD
5.1 Er ein bod yn defnyddio gofal a sgil rhesymol wrth weithredu'r Wefan a'r Gwasanaeth, darperir y Wefan, y Gwasanaeth a'r holl gynnwys sydd ar gael drwyddynt at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig.
5.2 Nid ydym yn gwarantu:
(a) y bydd y Wefan neu'r Gwasanaeth ar gael bob amser, yn ddi-dor, yn ddiogel neu'n rhydd o wallau;
(b) y bydd y cynnwys sydd ar gael drwy'r Wefan neu'r Gwasanaeth yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol bob amser;
(c) y bydd unrhyw wybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau a ddarperir gan Fusnesau neu drydydd partïon eraill yn bodloni dy ofynion neu dy ddisgwyliadau; neu
(ch) y caiff unrhyw ddiffygion, hepgoriadau neu wallau eu cywiro.
6. CYFYNGU ATEBOLRWYDD
6.1 Mae unrhyw ohebiaeth neu drafodion (busnes neu fel arall) rhyngot ti a Busnesau neu hysbysebwyr a geir ar neu drwy'r Gwasanaeth, gan gynnwys talu am a darparu nwyddau neu wasanaethau cysylltiedig (gan gynnwys llety), ac unrhyw delerau, amodau, gwarantau neu ddatganiadau sy'n gysylltiedig â thrafodion o'r fath, rhyngot ti a'r Busnes neu'r hysbysebwr perthnasol yn unig. Rwyt yn cytuno na fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath sy'n deillio o drafodion o'r fath nac o bresenoldeb Busnesau neu hysbysebwyr ar y Gwasanaeth.
6.2 Nid oes dim yn y Telerau Defnyddiwr hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd na ellir ei eithrio na'i gyfyngu'n gyfreithlon.
6.3 Yn ddarostyngedig i gymal 6.2, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o:
(a) ddibynnu ar gynnwys a gyhoeddir ar y Wefan;
(b) unrhyw anghywirdebau, hepgoriadau neu oedi mewn cynnwys a ddarperir gan Fusnesau neu drydydd partïon eraill;
(c) dy ddefnydd o'r Wefan neu'r Gwasanaeth, neu dy anallu i'w defnyddio;
(ch) dy ddefnydd o unrhyw wefan sy'n gysylltiedig â'r Wefan, neu ddibynnu arni; neu
(d) unrhyw gontract, archeb, pryniant neu drefniant arall rhyngot ti a Busnes.
6.4 Yn ddarostyngedig i gymal 6.2, ni fyddwn yn atebol am:
(a) golled elw;
(b) colled gwerthiannau neu refeniw;
(c) colled busnes;
(ch) colled arbedion disgwyliedig;
(d) colled ewyllys da neu enw da; neu
(dd) unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol.
6.5 Nid oes dim yn y Telerau Defnyddiwr hyn yn effeithio ar unrhyw hawliau sydd gan ddefnyddwyr o dan y gyfraith berthnasol.
7. INDEMNIAD
7.1 Rwyt yn cytuno i'n hindemnio'n llawn a chadw ni, ein swyddogion, gweithwyr, asiantau, is-gontractwyr a chwmnïau cysylltiedig wedi'u hindemnio yn erbyn unrhyw gostau, hawliadau, colledion, iawndaliadau, atebolrwydd a threuliau (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol) a wneir gan unrhyw drydydd parti mewn unrhyw awdurdodaeth o ganlyniad i, neu sy'n deillio o, dy ddefnydd o'r Gwasanaeth, dy gysylltiad â'r Gwasanaeth, dy dorri'r Telerau Defnyddiwr neu unrhyw dorri hawliau trydydd parti arall gennyt. Mae hyn yn golygu y byddi'n gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwn o ganlyniad i'th dor-cytundeb.
8. DOLENNI TRYDYDD PARTI A RHESTRIADAU BUSNES
8.1 Gall y Gwasanaeth gynnwys dolenni i wefannau a weithredir gan bartïon eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i ti'n unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys gwefannau sy'n gysylltiedig â'r Wefan ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb amdanynt. Nid yw darparu'r dolenni hyn yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo cynnwys y gwefannau hynny nac yn gysylltiedig â'u gweithredwyr. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all godi o'th ddefnydd o wefannau cysylltiedig. Rydym hefyd yn eithrio'n benodol unrhyw atebolrwydd am ddeunydd anghywir, sarhaus, difenwol neu anweddus a all ymddangos ar y gwefannau hynny.
8.2 Bwriedir i'r wybodaeth a ddarperir yn y cyfeiriadur ar-lein ar y Wefan roi canllaw i Fusnesau, syniadau gwyliau ac ysbrydoliaeth i'th helpu i wneud y gorau o'th ymweliad â Chymru. Efallai nad yw'r wybodaeth yn gynhwysfawr. Busnesau sy'n gyfrifol am gywirdeb, cyflawnrwydd a chyfredoldeb y wybodaeth yn eu rhestriadau. Nid yw cynnwys Busnes, gwasanaeth, cynnyrch, cyfleuster, graddfa, delwedd neu ddisgrifiad ar y Wefan neu yn y cyfeiriadur yn gyfystyr ag argymhelliad, cymeradwyaeth, achrediad na gwarant gennym ni oni bai y nodir hynny'n benodol.
8.3 Felly, ni ddylech ddibynnu ar yr wybodaeth a ddarperir a dylech gynnal dy broses ddyfalbarhad dy hun i asesu'r Busnesau, nwyddau a gwasanaethau sy'n ymddangos ar y Wefan hon. Dylech hefyd wneud dy ymholiadau, archwiliadau ac asesiadau dy hun ynghylch addasrwydd ac ansawdd y gwasanaethau a gynigir gan drydydd partïon. Nid ydym yn rhoi unrhyw warant na sicrwydd ynghylch cynnwys, cywirdeb na chyflawnrwydd gwybodaeth unrhyw restriad Busnes. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw golled, difrod neu anaf a all godi o ddefnyddio'r cyfeiriadur ar-lein nac o ganlyniad i gael mynediad at unrhyw restriad Busnes. Mae dolenni gwefannau trydydd parti yn ymwneud â'r gwasanaethau a gwmpesir gan y rhestriad yn unig. Efallai na fydd unrhyw wasanaethau ychwanegol yn bodloni gofynion graddio ansawdd Croeso Cymru.
9. DEFNYDDIO TECHNOLEGAU AWDOMATAIDD
9.1 Gallwn ddefnyddio technolegau awtomataidd i helpu gyda gweithrediad, cynnal a chadw, rheoli a gwella'r Wefan a'r Gwasanaeth. Mae unrhyw gynnwys a gynhyrchir neu a gynorthwyir gan dechnolegau o'r fath yn destun prosesau adolygu a bennir gennym ni. Fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu y bydd cynnwys o'r fath bob amser yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol, a dylech wirio gwybodaeth yn annibynnol lle bo'n briodol.
10. HYGYRCHEDD
10.1 Rydym wedi ymrwymo i wneud y Wefan mor hygyrch a defnyddiadwy â phosibl i gynifer o bobl ag sy'n bosibl. Ceir gwybodaeth am hygyrchedd y Wefan, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau hysbys a dewisiadau eraill sydd ar gael, yn ein Datganiad Hygyrchedd.
11. DOLENNI I'R WEFAN
11.1 Gelli greu dolen i'r Wefan, ar yr amod dy fod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
11.2 Rhaid iti beidio â chreu dolen mewn ffordd sy'n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth gennym ni pan nad yw hynny'n bodoli.
11.3 Rhaid iti beidio â chreu dolen i'r Wefan ar unrhyw wefan nad yw'n eiddo i ti. Dim ond tudalen hafan y Wefan y caniateir ei fframio ar safleoedd eraill. Ni chei greu dolen o hafan wedi'i fframio'r Wefan i unrhyw ran arall o'r Wefan.
11.4 Rydym yn cadw'r hawl i dynnu caniatâd i greu dolen yn ôl heb rybudd.
11.5 Os hoffet greu dolen i gynnwys ar y Wefan neu wneud unrhyw ddefnydd arall ohono heblaw'r hyn a nodir uchod, cysyllta â ni.
12. NEWIDIADAU I’R WEFAN A’R GWASANAETH
12.1 Gallwn ddiweddaru’r Wefan o bryd i’w gilydd a gallwn newid ei chynnwys (gan gynnwys y Gwasanaeth) unrhyw bryd er mwyn adlewyrchu newidiadau i’r Gwasanaeth neu anghenion defnyddwyr y Wefan. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i ti am unrhyw newidiadau mawr.
12.2 Gallwn hefyd adolygu’r Telerau Defnyddiwr o bryd i’w gilydd er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, rheoleiddio, technoleg, ein gwasanaethau neu ofynion gweithredol.
12.3 Pan fo’r newidiadau’n sylweddol, byddwn yn cymryd camau rhesymol i dynnu dy sylw atynt, gan gynnwys drwy gyhoeddi hysbysiad ar y Wefan.
12.4 Gwna’n siŵr dy fod yn gwirio’r Wefan a’r Telerau Defnyddiwr yn rheolaidd ac yn nodi unrhyw newidiadau, gan eu bod yn rhwymol arnat.
12.5 Drwy barhau i ddefnyddio’r Wefan rwyt yn cytuno i dderbyn unrhyw newidiadau a wneir.
13. CYFFREDINOL
13.1 Ni fydd unrhyw ildio gennym ni mewn perthynas ag unrhyw dor-cytundeb gennyt o’r Telerau Defnyddiwr yn cael ei ystyried yn ildio unrhyw dor-cytundeb dilynol o’r un ddarpariaeth nac o unrhyw ddarpariaeth arall.
13.2 Os canfyddir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Defnyddiwr (neu ran ohoni) yn annilys am ba reswm bynnag, bernir bod y geiriau perthnasol wedi’u dileu a bydd y darpariaethau sy’n weddill yn parhau mewn grym llawn.
13.3 Mae dy hawliau a’th rwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddiwr yn bersonol i ti, ac rwyt yn ymrwymo na fyddi’n aseinio, prydlesu, codi tâl arnynt, eu his-drwyddedu na’u trosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, yn gyfan gwbl nac yn rhannol.
13.4 Nid oes dim yn y Telerau Defnyddiwr yn rhoi unrhyw hawl na budd i unrhyw drydydd parti o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.
13.5 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled a ddioddefi nac yn cael ein hystyried yn ddiofyn os bydd oedi neu fethiant i gyflawni ein rhwymedigaethau oherwydd digwyddiadau neu achosion y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, gan gynnwys gweithredoedd natur, gweithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol, neu os nad yw ein gweinyddion yn gweithredu.
13.6 Mae penawdau’r adrannau wedi’u cynnwys er hwylustod yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn rhan o’r Telerau Defnyddiwr nac fel cymorth i’w dehongli.
14. CYFRAITH AC AWDURDODAETH
14.1 Os wyt yn ddefnyddiwr, nodwn fod y Telerau Defnyddiwr, eu pwnc a’u ffurfiant yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Rwyt ti a ninnau’n cytuno i ymostwng i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.
14.2 Os wyt yn fusnes, neu’n gweithredu ar ran busnes, bydd y Telerau Defnyddiwr, eu pwnc a’u ffurfiant (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau anghontractiol) yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Rwyt ti a ninnau’n cytuno i ymostwng i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
15. DEHONGLI
15.1 Mae gan y geiriau a’r ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol yn y Telerau Defnyddiwr:
(i) Mae “ni”, “ein” ac “inni” yn golygu VisitWales.com, sef adran weinyddol Llywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo Cymru. Prif fan busnes Llywodraeth Cymru yw Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
(ii) Mae “ti”, “dy” a “thi dy hun” yn golygu’r unigolyn sy’n dymuno defnyddio’r Wefan a/neu’r Gwasanaeth, boed hynny yn rhinwedd dy statws personol neu ar ran busnes.
16. CYSYLLTU Â NI
16.1 Gellir cysylltu â Croeso.Cymru drwy e-bost ar ymholiadau.cymru@llyw.cymru.
Telerau ac Amodau Cyfreithiol Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru
Mae Simpleview Europe, sy’n masnachu fel Granicus Firmstep (“ni” / “ein”), yn gweithredu Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru (WTPD) ar ran Croeso Cymru. Mae dy ddefnydd o’r WTPD hefyd yn ddarostyngedig i wybodaeth gyfreithiol Croeso Cymru.
1. CYFLWYNO DY WYBODAETH AT DDIBENION HYRWYDDO
1.1 Efallai y byddwn yn dymuno rhannu unrhyw wybodaeth a gyflwyni at ddibenion hyrwyddo gyda sefydliadau eraill fel y gellir ei chynnwys mewn cyhoeddiadau sy’n ymwneud â thwristiaeth. Nid oes unrhyw warant y bydd dy wybodaeth yn cael ei chyhoeddi na’i defnyddio. Os caiff ei defnyddio, byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau ei bod yn gywir. Fodd bynnag, ni allwn ni na Croeso Cymru dderbyn unrhyw atebolrwydd sy’n deillio o ddefnyddio neu gyhoeddi’r wybodaeth, boed hynny gennym ni, gan Croeso Cymru neu gan drydydd partïon, gan gynnwys pan fo hyn o ganlyniad i unrhyw wall neu hepgoriad gan hyrwyddwyr twristiaeth.
1.2 O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen inni ddiweddaru dy wybodaeth er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â gofynion y WTPD. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi gwybod i ti am unrhyw newidiadau i dy wybodaeth.
1.3 Nid yw cyflwyno dy wybodaeth yn gwarantu y bydd Croeso Cymru nac unrhyw sefydliad arall yn ei defnyddio’n gyfan gwbl nac yn rhannol.
2. Y WYBODAETH A GYFLWYNWYD
2.1 Drwy gyflwyno unrhyw wybodaeth (gan gynnwys delweddau, ffotograffau, fideo, logos a chynnwys arall) i’r WTPD, rwyt yn rhoi trwydded anghyfyngedig, fyd-eang a di-freindal i ni, Croeso Cymru a sefydliadau sy’n hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru i ddefnyddio, atgynhyrchu, cyhoeddi, cyfathrebu, addasu, cnydio, newid maint, cyfieithu a dosbarthu’r cynnwys hwnnw mewn cysylltiad â hyrwyddo twristiaeth, marchnata cyrchfannau, hyrwyddo busnesau, cyhoeddiadau digidol, sianeli cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau printiedig, cynyrchiadau clyweledol a gweithgareddau hyrwyddo cysylltiedig.
2.2 Drwy gyflwyno’r wybodaeth y cyfeirir ati uchod, rwyt yn gwarantu:
(i) mai ti sy’n berchen ar y wybodaeth neu fod gennyt yr awdurdod i’w darparu, ac nad yw’r wybodaeth hon yn torri nac yn mynd i dorri unrhyw hawlfraint na hawl eiddo deallusol arall;
(ii) bod yr wybodaeth a ddarperir yn wir ac yn gywir, ac na fydd ei chyhoeddi yn gyfystyr â throsedd nac yn torri unrhyw godau ymarfer sy’n ymwneud â hysbysebu neu hyrwyddo gwerthiannau; a
(iii) lle bo’n berthnasol, bod caniatâd unrhyw unigolyn sy’n ymddangos mewn delwedd neu ffotograff wedi’i sicrhau ymlaen llaw ar gyfer y defnydd hwnnw.
2.3 Rwyt yn cytuno i indemnio ni, Croeso Cymru ac unrhyw berchnogion gwefannau neu drydydd partïon eraill y cyflenwir yr wybodaeth iddynt yn erbyn unrhyw golled, difrod neu achos cyfreithiol sy’n deillio o dorri’r gwarantau hyn. Mae hyn yn golygu y byddi’n gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a gaiff eraill o ganlyniad i dorri’r gwarantau hyn.
2.4 Mae gennym yr hawl i ddileu unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd gennyt o’r WTPD neu unrhyw gyhoeddiad twristiaeth arall os, yn ein barn ni, nad yw’r wybodaeth honno’n cydymffurfio â’r hysbysiad cyfreithiol hwn.
2.5 Mae gennym hefyd yr hawl i ddatgelu dy hunaniaeth i unrhyw berson sy’n honni bod unrhyw wybodaeth (gan gynnwys delweddau) a gyflwynwyd gennyt yn torri ei hawliau eiddo deallusol neu ei hawl i breifatrwydd.
3. MANYLION CYSWLLT
Mae croeso i gwestiynau, sylwadau a cheisiadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad cyfreithiol hwn, a dylid eu hanfon at: product.database@gov.wales.