Busnesau’n mynd a busnesau’n dod. Mae’n rhan o stori’r stryd fawr erioed. Ond mae’r elfen o gilio’n amlwg iawn ar hyn o bryd. Yr enwau cyfarwydd yn diflannu, y costau’n drech na’r busnesau llai, a’r canolfannau ar y cyrion fel magnedau i’n ceir. O ran siopa ar-lein, wedyn, wel mi wyddon ni i gyd pa mor hurt o rwydd ydy hynny. 

I fentrau mor fach â siopau llyfrau Cymraeg, hawdd dychmygu bod yr hoelen olaf yn yr arch ers tro. Ond dyma ffaith i’ch synnu. Mae'n rhyfeddol faint o siopau o'r fath sy'n masnachu trwy'r wlad heddiw. Maen nhw i’w cael ym mhob twll a chornel o Gymru, ac yn dangos nad oes yn rhaid i bopeth ddilyn y patrwm mawr.

Efallai eu bod nhw’n llwyddo gan fod ambell siop yn fwy na siop. I iaith leiafrifol sy’n nofio yn erbyn y lli, mae rhai o’r busnesau hyn yn symbolau o ddycnwch, o ddyfalbarhad. Mae rhai’n dal pen llinyn ynghyd drwy gynnal digwyddiadau a gweithgareddau. Ac mae rhai, o bosibl, yn dangos bod yna alw o hyd, er gwaethaf popeth, am ddeunydd darllen ar bapur, a hwnnw’n ddeunydd Cymraeg.

Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r siopau hyn yn gwerthu mwy na llyfrau. Maen nhw hefyd yn stocio recordiau, cardiau, anrhegion, dillad, gemau, deunydd i ddysgwyr a phlant, gemwaith, nwyddau i’r cartre, a llawer mwy. Ond mae llyfrau’n rhan amlwg iawn o’u harlwy.

Gadewch i ni fynd ar wibdaith i ddod o hyd iddyn nhw. Mi gewch chi wneud y gwaith cyfrif. Byddwch yn barod i gael sioc!

Y De-ddwyrain a'r De

Mi ddechreuwn ni yn y brifddinas sy’n sgorio hatrig. Mae gan Gaerdydd dair o siopau llyfrau Cymraeg sydd wedi’u gwasgaru’n gyfleus, o leoliad canolog Caban ym Mhontcanna i Cant a Mil yn y Mynydd Bychan a Siop y Felin yn yr Eglwys Newydd. Ewch yn eich blaenau i’r gogledd o’r fan honno ac mewn dim o dro mi gyrhaeddwch Bontypridd a bro’r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Storyville ydy unig siop lyfrau annibynnol y dre, a honno hefyd yn cynnal digwyddiadau cyson.

Ymlaen â ni ar hyd yr A470 i Ganolfan Soar, Merthyr Tudful - yn yr hen gapel hwn mae Siop Soar. Draw hyd odre’r Bannau wedyn, lle cawn ni bori yn silffoedd Cofion Cynnes, Ystradgynlais, cyn bwrw yn ein blaenau i Rydaman. Yno mae siop Cyfoes, a agorodd yn 2013 ar ôl i Siop y Cennen, a fu’n gwasanaethu’r dref am chwarter canrif, gau. Mae canolfan Gymraeg Menter Dinefwr yn rhan o’r siop hon hefyd. Ac os nad ydy un Cyfoes yn ddigon, mae cangen arall i fyny’r hewl yn Llandelio.

Dyma droi yn ôl am arfordir y de, gan stopio yn Siop Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe, ar y ffordd. Dyma fusnes sy’n rhan o Ganolfan Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Bob nos Wener, mae clwb darllen arbennig yma sy’n cynnig cymorth i blant. Ac mae yma glwb darllen brwd i oedolion hefyd, fel sydd yn Siop Tŷ Tawe, Abertawe. Mae Siop y Pentan, yng Nghaerfyrddin wedyn yn un o hen enwau mawr siopau llyfrau Cymru, a hithau’n masnachu ers 1972. A chyn camu i’r gorllewin gwyllt, gwell cael hoe i weld pa gyfrolau sydd gan Llawn Cariad, San Clêr, yn ei stoc hi.

Person yn darllen mewn siop lyfrau.

Siop Caban, Caerdydd

Y Gorllewin a'r Canolbarth

O San Clêr, i berfeddion Sir Benfro â ni. Yng Nghrymych, mae Llawn Cariad newydd agor siop arall yn adeilad London House, lle bu Siop Sian gynt. Tua’r gogledd yn Aberteifi, mae’n barti. Fymryn cyn troad y mileniwm, agorodd Awen Teifi ei drysau, sy’n golygu bod y busnes yn dathlu pum mlynedd ar hugain o fasnachu eleni. Lawr i Landysul â ni wedyn, lle mae Ffab ymhlith y gwerthwyr llyfrau sydd hefyd yn gweini paned a bwyd. Ar stryd fawr Llanbedr Pont Steffan, mae Siop y Smotyn Du yn drysorfa arall, a hithau hefyd wedi dathlu chwarter canrif o lyfrwerthu yn ddiweddar. Wrth gwrs, am ei gemwaith y mae Rhiannon yn Nhregaron yn fwyaf enwog, ond mae modd prynu llyfrau Cymraeg yma hefyd, i gyd-fynd â’ch mwclis.

Yng nghanol prydferthwch adeiladau Sioraidd Aberaeron, mae Gwisgo yn siop lyfrau o’r hen deip, yn llawn dop o gyfrolau ail-law yn ogystal â’r rhai mwy newydd. Ar ôl edmygu golygfeydd arfordirol ysblennydd yr A487 i Aberystwyth, dyma gyrraedd Siop Inc yn Stryd y Bont, sy’n dathlu ugain mlynedd o werthu eleni ac yn enwog am ei ffenestri trawiadol a’i phrintiau o gloriau llyfrau gan Thom Morgan, y darlunydd sy’n cyd-redeg y lle. Dafliad carreg i ffwrdd, dyma Siop y Pethe, un o hoelion wyth y byd gwerthu llyfrau Cymraeg. Agorodd y busnes hwn mor bell yn ôl â 1967 gan roi ysbrydoliaeth i sawl siop debyg a ddechreuodd flaguro dros y lle yn y blynyddoedd wedyn. Er gwaetha’r cyhoeddiad diweddar y bydd y siop yn cau, mae’n galondid gwybod y bydd ei henw a’i gwaddol yn parhau ar-lein.

Mae ein trwynau ni bellach am y gogledd, ond ar y ffordd mae’n rhaid oedi mewn siop lyfrau sydd â chartref mwy hanesyddol na’r un arall y down ni ar ei thraws. Yn 2021, agorodd Siop Lyfrau Pen’rallt siop newydd, Siop Lyfrau y Senedd-dy, a hynny yn hen Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth. Y Gymraeg, llenyddiaeth, syniadau, diwylliant, hanes a dylanwad blaengar Cymru yn y byd sy’n cael sylw siop y Senedd-dy, tra bo siop Pen'rallt yn canolbwyntio ar lyfrau Saesneg. 

Murlun uwchben y fynedfa i siop Canolfan Owain Glyndŵr.
The exterior of Owain Glyndŵr Centre taken from inside the building, framed by a window.
interior of Owain Glyndŵr Centre, with hanging banners.

Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth

Y Gogledd-orllewin

Fyny â ni tua’r mynyddoedd. Yng nghysgod y tomenni llechi, mae Siop Lyfrau’r Hen Bost yn sefydliad ynddo’i hun ar stryd fawr Blaenau Ffestiniog, ac yn enwog am ei stoc anferth o lyfrau ail law, ochr yn ochr â chyfrolau diweddar. I lawr y lôn ym Mhenrhyndeudraeth, mae Siop Dewi yn dipyn o siop bob dim ond mae llyfrau’n cael lle teilwng ar ei silffoedd hefyd. Yn ôl yn 1971 wedyn y sefydlwyd Siop Eifionydd ym Mhorthmadog, sy’n ei gwneud hi ymhlith yr hynaf ar ein taith, tra bo Llên Llŷn ym Mhwllheli yn hen stêjar arall ym myd y llyfrwerthwyr Cymraeg.

I ddangos y gall hi wneud unrhyw beth y gall Aberystwyth ei wneud, mae gan Gaernarfon hefyd ddwy siop lyfrau, sy’n addas a ninnau yn hen ‘brifddinas yr inc’. Cynnyrch cwmni recordiau Sain sy’n cael blaenoriaeth yn Na-Nôg, ond mae ganddi gyflenwad nobl o gyfrolau ar werth bob tro. I lawr ar Stryd y Plas, mae perchnogion Palas Print wedi ennill eu plwyf nid yn unig fel arbenigwyr o fri ar lyfrau ond hefyd fel trefnwyr digwyddiadau, a Gŵyl Arall yn bennaf yn eu plith.

Dros y bont â ni nesaf, lle mae gan bobl yr ynys ddwy chwaer-siop i’w gwasanaethu, sef busnesau teuluol Awen Menai ym Mhorthaethwy a Cwpwrdd Cornel yn Llangefni. Yn ôl ar y tir mawr, a ninnau erbyn hyn a’n trwynau ar yr A5, mae Siop Ogwen yng nghanol Bethesda yn rhan o Bartneriaeth Ogwen, y fenter gymdeithasol sy’n gwneud cymaint o les yn lleol.

Bwrdd du yn Siop Ogwen yn rhestru cardiau, llyfrau a CD's.
Arwydd porffor Siop Ogwen

Siop Ogwen, Bethesda

Y Gogledd a'r Dwyrain

Er bod honno ar werth, mae Siop Lewis yn Llandudno yn dal i fod yn ‘gartref i bethau hyfryd’, a beth sy’n fwy hyfryd na llyfrau? Wrth i ni ddynesu tua’r dwyrain, mae’r estyll yn Siop Clwyd ar Stryd Fawr Dinbych yn dyddio yn ôl i 1533. Mae’n debyg bod yr adeilad yn rhyw fath o siop ers canrifoedd, sy’n golygu mai dyma un o siopau hynaf Cymru gyfan. Draw yn Rhuthun wedyn, mae Siop Elfair yn un o bileri bywyd Cymraeg y dref.

Dyma daith dros fryniau Clwyd, a chyrraedd yr Wyddgrug, tref Daniel Owen, un o’n nofelwyr mwyaf. Mae’n sicr bod ei gyfrolau – ymhlith cannoedd eraill – ar silffoedd Siop y Siswrn. Ac mae hynny wedi bod yn wir ers dros hanner canrif: fe ddathlodd y busnes y garreg filltir nodedig hon y llynedd.

Silff yn llawn o lyfrau mewn siop lyfrau.
Arwydd babi newydd ar werth mewn siop.
Cerdiau pen-blwydd a silff o lyfrau mewn siop lyfrau.

Siop Elfair, Rhuthun

Wrth i ni droi ein golygon am y ffin, mae’r llyfrwerthwyr Cymraeg yn dal yn amlwg yma ac yn gwneud cyfraniad mawr at Gymreictod eu hardaloedd. Yn Wrecsam, mae gan Siop Siwan ddetholiad da o gyfrolau i gyd-fynd â’r pwyslais ar gelf a ffotograffiaeth leol, tra bo rhaid camu dros Glawdd Offa ei hun ar y cymal nesaf. Oes, mae gan hyd yn oed Groesoswallt, tref yn Lloegr, fusnes gwerthu llyfrau Cymraeg, gyda Siop Cwlwm yn masnachu ar Stryd y Beili. Yn fwy diweddar yn 2018 yr agorodd Siop Lyfrau Trefaldwyn, sy’n stocio llyfrau ffuglen a ffeithiol Cymraeg. Ond hyd yn oed os ydy’r busnes yn un go newydd, nid felly’r adeilad – mae hwnnw’n un ffrâm bren o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg.

I fyny drwy’r canolbarth â ni ar gymal olaf y daith, gan oedi ar Stryd Fawr y Bala. Yma, mae Awen Meirion yn un o gonglfeini’r dref, a hynny yn un o gadarnleoedd y diwylliant llenyddol Cymraeg. Dyma siop sy’n enwog am ei digwyddiadau a’i bwrlwm. Ond mae’n rhaid dod â’r siwrnai i ben yn nhref farchnad Llanrwst ac yn siop Bys a Bawd. Rhagflaenydd y busnes hwn, sef ‘Siop Lyfrau Cymraeg’ Dafydd ac Arianwen Parri, oedd y siop gyntaf erioed o’i math yng Nghymru. Agorodd honno’n wreiddiol yn 1955. Roedd llu o bobl leol yn argyhoeddedig mai methu fyddai’r fenter, gan dybio nad oedd galw masnachol o gwbl am ddeunydd Cymraeg.

Person yn edrych ar lyfrau mewn siop lyfrau
Person yn prynu llyfr mewn siop lyfrau

Awen Meirion, Y Bala 

Mae bodolaeth Bys a Bawd heddiw – ynghyd â nifer anhygoel y siopau llyfrau sy’n dal i wasanaethu’u cymunedau – yn dyst i ba mor anghywir oedden nhw.   

Gawsoch chi erioed wibdaith mor lyfrbryfol? Mae rhestr gyflawn o’r holl lefydd sy’n gwerthu llyfrau Cymraeg ar gael ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru.  

Ewch am dro i bori – ar y we ac yn y siopau go iawn. A chofiwch hefyd fod modd enwebu siop lyfrau Gymraeg i elwa wrth i chi brynu llyfrau ar Gwales ac e-lyfrau ar Ffolio.

Straeon cysylltiedig