Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru (WTPD) yn gronfa ddata o lety, atyniadau, gweithgareddau a digwyddiadau sy'n eiddo i Croeso Cymru, sef y tîm o fewn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'r economi ymwelwyr yng Nghymru. Os ydych chi'n dewis hyrwyddo'ch busnes ar WTPD, mae angen prosesu rhywfaint o ddata personol amdanoch chi.

Llywodraeth Cymru yw'r Rheolwyr Data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir yn y WTPD at ddibenion cydymffurfio â Deddfwriaeth Diogelu Data'r DU. Simpleview Europe yn masnachu fel Granicus Firmstep sy'n gweithredu'r WTPD ar ran Croeso Cymru.

Mae prosesu eich data yn rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru. Mae bod yn rhan o'r WTPD yn wirfoddol a gallwch ddileu eich gwybodaeth ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Stiward Data Croeso Cymru ar: cymorthcroesocymru@granicus.com.

Gall defnyddwyr gweinyddol awdurdodedig gyrchu a rheoli eich data o fewn Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru at ddibenion cynnal cywirdeb data, cefnogi rhestrau busnes a sicrhau cydymffurfiaeth â safonau'r platfform.

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â data a gesglir drwy'r wefan ProductListing.Wales (y "Wefan").

  1. GWYBODAETH Y GALLWN EI CHASGLU GENNYCH
    1. Mae'n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu'r data canlynol amdanoch chi a'ch busnes:
      1. Eich enw, cyfeiriad ac e-bost/rhif ffôn cyswllt.
      2. Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu drwy lenwi ffurflenni a ddarperir i chi mewn perthynas â'r WTPD. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir ar adeg cofrestru i ddefnyddio'r Wefan, tanysgrifio i'n gwasanaeth ac unrhyw ddeunydd postio, ychwanegol, cyfraniadau neu ymholiadau am wasanaethau pellach. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am wybodaeth pan fyddwch chi'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu ymarfer hyrwyddo a noddir gennym ni a phan fyddwch chi'n rhoi gwybod am broblem gyda'n Gwefan.
      3. Os byddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn cadw cofnod o'r ohebiaeth honno am 30 mis.
      4. Efallai y byddwn yn gofyn ichi ymateb i’r arolygon yr ydym yn eu cynnal at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid ichi wneud hyn.
      5. Manylion y trafodion rydych chi'n eu gwneud trwy ein Gwefan.
      6. Manylion eich ymweliadau â'r Wefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, data traffig, data lleoliad, blogiau a data cyfathrebu arall, a'r adnoddau rydych chi'n eu cyrchu.
  2. CYFEIRIADAU IP A CHWCIS
    1. Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich dyfais, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a'ch math o borwr, ar gyfer gweinyddu system ac i adrodd am wybodaeth gyfunol wrth ein hysbysebwyr. Data ystadegol yw'r rhain am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw'n galluogi neb i adnabod unrhyw unigolyn.
    2. Am yr un rheswm, efallai y byddwn yn cael gafael ar wybodaeth am eich defnydd o'r Wefan trwy ddefnyddio cwci sy'n cael ei storio ar yriant caled eich dyfais. Defnyddir cwcis i wneud i'n Gwefan weithio ac i ddarparu gwasanaeth gwell a mwy personol. Maent yn ein galluogi i wneud y canlynol:
      1. Amcangyfrif maint a phatrwm defnydd ein cynulleidfa.
      2. Storio gwybodaeth am eich dewisiadau, ac felly caniatáu inni deilwra ein Gwefan yn ôl eich diddordebau a'ch dewisiadau unigol.
      3. Cyflymu'ch chwiliadau.
      4. Eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n Gwefan.
    3. Dyma'r cwcis rydyn ni'n eu defnyddio ar ein gwefan:
      1. ASP.NET_SessionId - Mae'r cwci hwn yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithio'n iawn ac er mwyn gallu ei llywio. Mae'r cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch chi'n cau eich porwr.
      2. ASPSESSIONIDSXXXXXXA - Defnyddir y cwci hwn i adrodd am wallau gwefan 404 wrth westeiwr ein gwefan. Mae'r cwci hwn yn cael ei ddileu pan fyddwch chi'n cau eich porwr.
      3. _utma, _utmb, _utmc, _utmz - Mae Google Analytics yn defnyddio'r cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein Gwefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu i wella'r Wefan. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r wefan, o ble y mae'r ymwelwyr wedi dod i'r wefan, a'r tudalennau y maen nhw'n ymweld â nhw. I optio allan o gael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i: ymahttp://tools.google.com/dlpage/gaoptout
    4. Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu ichi reoli rhywfaint ar y rhan fwyaf o gwcis drwy newid y gosodiadau. I ddarganfod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi'u gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.
    5. Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni yn y Wefan sy’n arwain at wefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw. Darllenwch bolisi cysylltu cilyddol yr ICO am fwy o wybodaeth.
    6. Efallai y byddwn yn ymgorffori fideos o'n sianel YouTube swyddogol gan ddefnyddio modd preifatrwydd uwch YouTube. Efallai y bydd y modd hwn yn gosod cwcis ar eich dyfais unwaith y byddwch chi'n clicio ar y chwaraewr fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwcis sy'n golygu y byddai modd adnabod person ar gyfer chwarae fideos wedi'u hymgorffori gan ddefnyddio'r modd preifatrwydd uwch.  I gael gwybod mwy, ewch i dudalen wybodaeth ymgorffori fideos YouTube,  tudalen Mewnosod fideos a rhestri chwarae YouTube - Help.
  3. LLE RYDYM YN CADW EICH DATA
    1. Mae data sydd wedi'i storio yn y WTPD yn cael ei storio a'i brosesu yn y Deyrnas Unedig.
    2. Bydd yr holl wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddwyr diogel. Pan fyddwn wedi rhoi cyfrinair i chi (neu lle byddwch wedi dewis cyfrinair) sy'n eich galluogi i gael mynediad at rannau penodol o'n Gwefan, byddwch chi'n gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gydag unrhyw un.
    3. Nid yw trosglwyddo gwybodaeth trwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i'n Gwefan; mae unrhyw drawsyriad ar eich risg eich hun. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch priodol i geisio atal mynediad anawdurdodedig.
  4. Y DEFNYDD A WNEIR O'R WYBODAETH
    1. Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gedwir amdanoch chi a'ch busnes yn y ffyrdd canlynol:
      1. Sicrhau bod cynnwys ein Gwefan yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a'ch dyfais.
      2. Hwyluso cyhoeddi manylion eich busnes ar CroesoCymru.com ac ar wefannau twristiaeth eraill sy'n defnyddio'r WTPD.
      3. Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth
    2. O bryd i'w gilydd, gall ein Gwefan gynnwys dolenni i ac o wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chwmnïau cysylltiedig. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn.
  5. DATGELU EICH GWYBODAETH
    1. Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i drydydd partïon oni bai:
      1. fod dyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol;
      2. eich bod o dan rai amgylchiadau wedi gofyn i ni wneud hynny;
      3. ei fod i'w brosesu gan gontractwr sy'n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i gyflawni ymchwil neu werthusiad mewn perthynas â pherfformiad y WTPD neu waith datblygu polisi cysylltiedig.
  6. CADW DATA
    1. Os byddwch chi'n peidio â chyhoeddi eich manylion ar VisitWales.com/CroesoCymru.com, bydd data yn y WTPD yn cael ei ddileu ar ôl 6 mis.
  7. NEWIDIADAU I'N POLISI PREIFATRWYDD
    1. Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a byddwn, lle bo hynny'n briodol, yn rhoi gwybod ichi drwy e-bost.
  8. EICH HAWLIAU
    1. O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau canlynol:
      • Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
      • Gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
      • Gwrthwynebu neu atal prosesu'ch data (o dan amgylchiadau penodol);
      • Mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol)
      • Cludadwyedd eich data (o dan amgylchiadau penodol);
      • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
  9. GWYBODAETH GYSWLLT
    1. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y WTPD yna yn y lle cyntaf cysylltwch â cymorthcroesocymru@granicus.com
    2. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, neu anfonwch e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
    3. Dyma fanylion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.

Dyma fanylion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill 
Caerdydd 
CF10 2HH Ffôn:
0330 414 6421, E-bost:wales@ico.org.uk, Gwefan: www.ICO.org.uk.  

Marchnata Twristiaeth i Ddefnyddwyr

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data at ddiben cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Mae prosesu’ch cais yn rhan o’n gorchwyl cyhoeddus i weinyddu’r gwasanaeth. 

Diben y Prosesu

Er mwyn prosesu’ch cais a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich busnes a’ch statws achredu i bartneriaid mewnol (adrannau eraill Llywodraeth Cymru) ac allanol (Partneriaid Data, Awdurdodau Lleol, Asiantau Rheoli Canolfannau Croeso), mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi roi gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth fusnes yn unol â’r ffurflen gais. Mae angen prosesu’r data hyn er mwyn i Lywodraeth Cymru wneud y tasgau a ganlyn.

Mae angen manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) arnom er mwyn i Groeso Cymru allu cysylltu â chi ar gyfer resymau gweithredol (e.e. eglurhad am achrediad ac i ofyn am fwy o wybodaeth os yn briodol) ac anfonir manylion cyswllt hefyd at Bartneriaid Data Croeso Cymru (Twristiaeth Canolbarth Cymru, ‘New Vision Group’, Cyngor Sir Fynwy) er mwyn iddynt allu cysylltu â chi at ddiben rhoi’ch manylion ar wefan defnyddwyr Croeso Cymru – www.croesocymru.com

Derbynwyr y Data

Caiff gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru am eich busnes ei rhannu â’r cyrff a ganlyn am y rhesymau a nodi uchod:   

• Adrannau eraill Llywodraeth Cymru
• Partneriaid Data (Twristiaeth Canolbarth Cymru, ‘New Vision Group’, Cyngor Sir Fynwy) – mae’r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau i Groeso Cymru o dan gontract
• Sefydliadau Twristiaeth Cenedlaethol
• Awdurdodau Lleol
• Asiantau Rheoli Canolfannau Croeso.

Cadw Data

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd o’r dyddiad pryd gwnaethpwyd y cais gwreiddiol.   

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth

Mae hawl gennych:

• weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch; 
• gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;  
• gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu arno (mewn amgylchiadau penodol);
• i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol);  
• cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sy’n cael ei chadw neu’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech ddefnyddio’ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:  

Llywodraeth Cymru,
Rhodfa Padarn, 
Aberystwyth,
SY23 3UR

E-bost: quality.tourism@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ:

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru) 

Manylion cyswllt:
Ail Lawr Churchill House, 
Ffordd Churchill,
Caerdydd, 
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400 or 0303 123 1113

E-bost: wales@ico.org.uk

Gwefan: www.ico.org.uk

Straeon cysylltiedig