Croesi'r Iwerydd: y cysylltiadau rhwng Cymru ac America
O’r chwedlau hynaf i straeon y presennol, mae’r cysylltiadau rhwng Cymru ac America yn parhau’n gryf. O Arlywyddion o dras Gymreig i glwb pêl-droed yng ngogledd Cymru sy’n eiddo i sêr enwog o Hollywood, mae nifer o edafedd yn plethu’r ddwy genedl ynghyd ar draws yr Iwerydd.