Ar ôl i chi ddechrau cripian, dringo ac abseilio, fyddwch chi ddim eisiau rhoi’r gorau iddi! Dyma rai o’r lleoliadau a’r hyfforddwyr gorau yn y gogledd sy’n arbenigo mewn dringo.

Clogwyni uchel Ynys Môn

Anglesey Adventures, Caergybi

Rhowch hwb i’ch hyder yn yr awyr agored gyda chriw Anglesey Adventures. Mae eu sesiynau i ddechreuwyr yn cael eu cynnal yn rhai o dirweddau naturiol hynotaf yr ardal. Maen nhw hefyd yn cynnig cyrsiau mewn dringo clogwyni môr, sgrialu mynydd, abseilio, a mwy.

Hyfforddwr yn addasu rhaffau rhywun sy’n cymryd rhan.
Dringwr yn addasu rhaff gyda dau ddringwr arall yn y cefndir.
Pobl yn dringo i fyny clogwyn.

Anglesey Adventures, Caergybi, Gogledd Cymru

Bowldro drwy Eryri

Boulder Adventures, Llanberis

Mae Boulder Adventures wedi’u lleoli yng Nghanolfan Fynydda Bryn Du a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Padarn. I’r rheini sy’n chwilio am ychydig o gyffro, maen nhw’n trefnu teithiau i lefydd dringo sydd wedi’u graddio ar hyd a lled Eryri. Beth am abseilio 100 troedfedd neu ddringo yn ardal Betws-y-Coed? Mae’n swnio’n dipyn o hwyl i ni.

Dyn yn dringo (yr olygfa wrth edrych i fyny).
Hyfforddwr yn dangos i ddyn sut i ddefnyddio rhaffau.

Boulder Adventures, Llanberis, Gogledd Cymru

Dringo a rhaffau uchel yn Llanberis

Ropeworks Active, Llanberis

Gerllaw’r Amgueddfa Lechi fe ddewch chi o hyd i Ropeworks Active, canolfan sy’n cynnig gweithgareddau o bob math, gyda rhaffau uchel yn eu plith. Beth am sesiwn flasu yn dringo dan do, neu adael iddyn nhw eich arwain ar lwybr mynydd sy’n cyd-fynd â’ch gallu a’ch profiad chi? Ar ôl hynny, fe allech chi fentro ar y cwrs rhaffau uchel a’r siglen anferthol, os bydd digon o egni ar ôl.

Ar greigiau Dyffryn Dyfrdwy

Safe and Sound Outdoors, Llangollen

Mae Safe and Sound Outdoors yn cynnig cyrsiau dringo ar glogwyni calchfaen yng nghanol harddwch Dyffryn Dyfrdwy, neu gyrsiau ar eu waliau dringo dan do. Mae modd rhoi cynnig ar gwrs blasu hanner diwrnod neu gwrs deuddydd i ddechreuwyr, tra bo cyfle i ddringwyr mwy profiadol wella’u sgiliau.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig