Mae digonedd o brofiadau dringo creigiau i’w cael yn y canolbarth, a’r rheini’n sicr o roi cryn wefr i chi. Ardal wledig ydy hon yn bennaf, sy’n gorchuddio rhan helaeth o Gymru, ac mae yma sawl lleoliad tawel, ymhell o brysurdeb y byd. Fe ddewch chi o hyd i bob math o heriau yma, waeth pa mor brofiadol ydych chi. Yn eu plith mae creigiau awyr agored gwych, cyfleoedd i fowldro, a chanolfannau dringo dan do, gyda phobl wybodus i’ch arwain a’ch rhoi ar ben ffordd bob tro.
Dringo ym Mannau Brycheiniog
Mae Bannau Brycheiniog yn Barc Cenedlaethol hardd dros ben, ac yn lle perffaith am anturiaethau awyr agored a llwybrau cerdded hyfryd. Mae’r ardal hefyd yn enwog am ei hawyr dywyll a’i daeareg unigryw. Mae yma rwydwaith eang iawn o ogofâu a chreigiau calchfaen, a’r rheini’n denu dringwyr rif y gwlith. Mae’r cyfleusterau dan do’n gampus hefyd, a’r rheini’n wych i ddechreuwyr sydd am ddysgu’r grefft, am fagu hyder, neu’n syml am gael diwrnod i’w gofio pan na fydd hi’n ddigon braf y tu allan.
Mae Black Mountain Adventure yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous gan gynnwys cyrsiau dringo creigiau ac abseilio, gan roi profiad i chi o ddringo creigiau ‘go iawn’ yng nghanol harddwch Bannau Brycheiniog. Fe allwch chi hefyd fwynhau sesiwn hanner diwrnod neu roi cynnig ar y wal ddringo ac abseilio awyr agored, a hynny yn eu canolfan yn nhref farchnad Aberhonddu.
Beth am alw heibio i Ganolfan Awyr Agored Argoed Lwyd? Mae’r cwrs dringo creigiau ac abseilio diwrnod llawn, sy’n addas i bawb dros 7 oed, yn cynnwys gwersi gan arbenigwyr yn y bore. Bydd hynny’n eich helpu i feistroli sgiliau dringo hanfodol, cyn i chi gael eich gwobrwyo â’r golygfeydd anhygoel ar y copa. Ar ôl cinio, abseilio amdani. Gall y rheini sy’n 10 oed a hŷn ac sy’n chwilio am antur hefyd fwynhau diwrnodau’n dringo creigiau ac yn cerdded ceunentydd, gan ddysgu sgiliau ar wyneb craig go iawn cyn dringo i’r top. Yn y prynhawn, fe gewch chi grwydro’r ceunant, ymlusgo y tu ôl i raeadrau, a mwynhau llamu i byllau dŵr.
Mae digonedd o hwyl dan do i’w gael hefyd yng Nghanolfan Gweithgareddau Llangorse. Mae’r ganolfan ar agor gydol y flwyddyn, gydag amrywiaeth o gyrsiau ar gael, gan gynnwys hyfforddiant un-i-un a chyrsiau i blant 7 oed a hŷn (neu 6 oed a hŷn yng nghwmni oedolyn).
Dringo yng Nghwm Elan
Mae Cwm Elan yn lle penigamp i’r rheini sy’n gwirioni ar yr awyr agored. Mae modd gwneud gweithgareddau o bob math yno, gan gynnwys cerdded, beicio a gwylio adar. Mae’r tir yn amrywiol iawn yma, gyda llethrau graddol a dringfeydd mwy heriol ill dau. Mae yma hefyd olygfeydd ysblennydd, yn llawn bryniau braf, dyffrynnoedd hardd a chronfeydd dŵr. Dyma le gwych i fynd ar wyliau, gyda dewis eang o lety yn y cyffiniau a’r cyfle i gefnu ar y torfeydd a mwynhau byd natur.
Canolfan breswyl yw Canolfan Antur Awyr Agored Elan Valley Lodge sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i deuluoedd a grwpiau. Mae’r gweithgareddau dringo’n cael eu cynnal ar graig leol uwchben un o’r cronfeydd dŵr. Gyda sawl dringen sengl ar gael, yn amrywio o ran yr uchder a maint yr her, mae’r rhain yn addas i ddechreuwyr ac i ddringwyr sy’n fwy o hen lawiau arni. Ar ôl diwrnod egnïol, fe gewch chi ymlacio mewn caban 5* gyda milltiroedd o olygfeydd godidog o’ch cwmpas ym mhob man.
Dringo yng Ngheredigion a Bae Ceredigion
Mae gan Geredigion a Bae Ceredigion amrywiaeth eang o anturiaethau i’w mwynhau, ar yr arfordir ac i mewn yn y tir. Dyma ardal llawn tirweddau hynod, ac yn ardal Bae Ceredigion fe gewch chi gyfuniad o harddwch naturiol a gweithgareddau awyr agored – lle perffaith felly i ddringwyr a phobl sy’n gwirioni ar fyd natur fel ei gilydd.
Mae Adventure Beyond, ger Llandysul, yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys dringo creigiau a sesiynau abseilio. Mae’r gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn darn o goetir cysgodol i’r gogledd o Aberteifi, neu ar glogwyn arfordirol Penmaen Dewi, sydd â golygfeydd gwych. Bydd arbenigwyr yn eich tywys bob cam o’r ffordd i sicrhau eich bod chi’n dysgu’n ddiogel. Mae’r profiadau ar gael i bobl anturus, o bob gallu, sy’n 6 oed neu’n hŷn.