Bydd reid dda bob amser yn ymwneud ag atgofion. Weithiau mae’n golygu creu’r atgofion hynny – llwybr na wnewch chi byth ei anghofio, diwrnod llawn straeon ac amser da gyda ffrindiau gwych.
Dyna sut mae’n teimlo pan fydda i’n reidio o Gaerdydd, lle ces i fy magu, i lonydd bach Bro Morgannwg. Mae Caerdydd yn brifddinas berffaith – yn fawr ac yn fach ar yr un pryd. Mae ’na ardaloedd tra gwahanol yma, ond yr un naws yn treiddio drwyddyn nhw. Mae’n ddigon i’ch cadw chi yno, ond fyddwch chi chwaith fyth mwy na chwarter awr ar eich beic o gefn gwlad agored.
O Landaf ar ochr orllewinol y ddinas, fe fyddwch chi ar y lonydd bach mewn dim o dro. Dyma ddilyn Heol Pwll Melyn o Landaf, sy’n troi i mewn i Heol Pentre-baen, a ninnau’n anelu am y gorllewin. Dros y groesffordd â ni, gyda chlwb criced Sain Ffagan ar y chwith, cyn reidio yn ein blaenau i Lansanffraid-ar-Elái a Llanbedr-y-fro, gan droi i’r dde yng Ngwern-y-Steeple am gyfeiriad Landdunwyd. Byddwn ni wedyn yn cyrraedd tref fechan y Bont-faen o’r gogledd, ar Ffordd Maendy.
Dydy hi byth yn rhy brysur wrth adael y dref ar y ffyrdd hyn. Fe awn ni dros bant a bryn yn aml, a dydy’r ffyrdd gwastad ddim yn para’n hir. Mae’r pentrefi y byddwch chi’n eu cyrraedd yn hyfryd, a’r tafarndai’n llefydd braf i gwrdd â ffrindiau sydd efallai’n gyrru yno yn hytrach nag ar gefn beic. Dyna i chi’r Hare and Hounds yn Aberthin, ar gyrion y Bont-faen, a’r White Lion, i’r gogledd o Faendy. Mae ’na fwyd gwych yn y ddau le. Os na fuoch chi yno o’r blaen, fe fyddwch chi’n sicr wrth eich bodd â’r Bont-faen. Mae’n llawn caffis bach da a siopau bwtîg i’r rheini sy’n gwirioni ar ddillad.
Mae’r ffordd yn dringo am sbel wrth i chi adael y Bont-faen. Hanner ffordd i fyny’r rhiw o’r dref, cadwch lygad am ffordd fechan o’r enw Geraint’s Way. Dychmygwch pa mor aml y byddwn i’n breuddwydio am fyw ar y ffordd honno’n blentyn. Ar gopa’r ddringfa, rydyn ni’n gwyro i’r chwith ac yn pasio trac rasio Llandŵ.
Drwy Lanilltud Fawr â ni wedyn, ar hyd tawelwch y B4270, ac ymlaen ar hyd yr arfordir ar Dimlands Road i Sain Dunwyd, gan basio caffis bach a llefydd hufen iâ ar y traeth. Wedyn, anelu yn ôl am y gogledd-orllewin a’r lonydd bach, drwy bentrefi Marcroes a’r As Fawr, a’u golygfeydd gwych o dywod a goleudy Trwyn Nash.
Mae’r ffordd ychydig yn lletach drwy’r Wig, er bod popeth yn gymharol; dim ond y B4265 yw hon o hyd. Fe reidiwn ni ymlaen, am Aberogwr. Cadwch lygad am dafarn The Fox, ar Ewenny Road yn Saint-y-Brid.
Byddwn ni’n pasio Castell Ogwr ar y chwith i ni, a Chlwb Golff Southerndown ar y dde i ni. Llwglyd? Hoe bach felly yn Cobbles, ar ochr ogleddol Ogwr.
Nesaf, Ewenni ar y B4524. Fan hyn, mae siop gornel Swyddfa’r Post wedi achub hen feiciwr llwglyd sawl gwaith (fi!). Mae’r fwydlen a’r cynhwysion yn rhyfeddol, gan feddwl ei fod yn lle mor fach.
Teg edrych tuag adre. Fe allwn ni ddilyn y lonydd bach ar Wick Road o Ewenni yn ôl i’r Bont-faen. Coffi sydyn yn y Baffle Haus, sy’n eiddo i George North, yn y Bont-faen. Ewch yn ôl heibio i’r ysgol ac anelu am Bont-y-clun ar yr A4222.
Mae mwy o deimlad y cymoedd fan hyn, wrth i ni fynd o dan yr M4 ac anelu am y gogledd. Cymunedau bach, gwydn, sydd wedi tyfu ar lafur caled a rygbi yw’r rhain. Os ydych chithau â’ch bryd ar fwy o lafur caled, dringwch y lonydd bach i Gastell Coch, gan ddal i fynd yr holl ffordd at Fynydd Caerffili ar Heol Caerffili neu Fryn Rhiwbeina. Ar y copa, mae’r golygfeydd yn hyfryd. Mae’r rhiw i lawr i Gaerdydd yn llyfn ac yn gyflym yr holl ffordd – ac ar ddiwedd taith fel hyn, y teimlad o wibio yw’r union beth sydd ei angen arnoch chi .