Mae digonedd o brofiadau dringo ar gael yn y de – a’r rheini’n hawdd i’w cyrraedd o’r trefi a’r dinasoedd. Mae’r ardal hon yn llawn llefydd dringo amrywiol i bobl o bob gallu. Dewiswch rhwng llefydd awyr agored neu ganolfannau dringo dan do, gydag arbenigwyr profiadol yno’n barod i’ch tywys.
Mae Dyffryn Gwy yn ardal hynod o dlws ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn lle delfrydol am anturiaethau awyr agored. A hwythau’n frwd dros fwynhau yn yr awyr iach, mae Borderlands Outdoor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys dringo creigiau ac abseilio. Does dim yn well na chyrraedd yr entrychion yng nghanol harddwch Bannau Brycheiniog. Mae sesiynau dringo’n cael eu cynnal ym mhentref Llangatwg yn Nyffryn Wysg, ar erchwyn y mynyddoedd uwchben Crughywel, neu ar y clogwyni dramatig uwchben tref hanesyddol Merthyr Tudful. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig profiad anturus o’r iawn ryw, a’r rheini’n berffaith i grwpiau sy’n awyddus i ddringo ac abseilio. Ewch i grwydro harddwch garw’r Bannau wrth wneud gweithgareddau hanner diwrnod, diwrnod llawn, neu rai sy’n para mwy na hynny.
Bydd dechreuwyr, hyd yn oed, yn gallu mentro concro daeareg unigryw’r Bannau, lle mae rhwydwaith di-ben-draw o ogofâu, creigiau calchfaen a chwareli. Mae Parkwood Outdoors Dolygaer yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous, ar y tir a’r dŵr ill dau. O gyrsiau dringo creigiau ac abseilio hanner diwrnod o hyd, i gerdded ceunentydd a hwylio, mae ganddyn nhw ddigonedd o ddewis. Gyda’r holl weithgareddau anturus, ynghyd â harddwch y llyn, yr afon a’r bryniau o’ch cwmpas, rydych chi’n siŵr o gael diwrnod penigamp.
Mae Porthcawl yn lle delfrydol i gael anturiaethau glan môr yn agos at Gaerdydd, gyda chyfleoedd gwych i syrffio. Ar dir sych, mae Adventure Wales yn cynnig cyrsiau dringo creigiau a rhaffau uchel i bawb o bob gallu. Mae sesiynau blasu undydd a deuddydd ar gael i ddechreuwyr, sy’n gyflwyniad ardderchog i’r gamp. Boed ar wyneb y graig, neu ar y rhaffau uchel, mae digonedd o hwyl a her fan hyn.
Canolfannau dringo dan do yn y de
Diolch i gyfleusterau dan do gwych yn y de, fe gewch chi fwynhau dringo beth bynnag fydd y tywydd.
Rock UK Summit Centre yn Nhreharris ger Merthyr Tudful oedd enillydd Gweithgaredd Gorau Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025. Dyma un o ganolfannau dringo dan do mwyaf Prydain. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys dros 120 o lwybrau sy’n cael eu hailosod yn gyson er mwyn eich cadw ar flaenau’ch traed, a’r rheini’n cynnwys bargodion a thoeau, ynghyd â slab technegol, waliau gweadog, ac angori awtomatig. Mae’r ardal fowldro yn addas i bob gallu, ac mae’r ardal ‘enfys’ i blant 2-6 oed yn wych i losgi egni dringwyr bach.