Canolfan Grefft Corris, Machynlleth
Mae digonedd o weithdai crefft i’w cael yng Nghanolfan Grefft Corris, a chyfle i chi ymweld â’r stiwdios, gweld yr artistiaid wrth eu gwaith, a dewis rhoddion tra arbennig sydd wedi’u creu â llaw. Yn eu plith mae gemwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan y Celtiaid, canhwyllau, siocledi a chyffug, a chrochenwaith. Rhowch gynnig arni eich hun cyn mwynhau bwyd a diod lleol yng nghaffi’r ganolfan.
Melin Tregwynt, Sir Benfro
Dros 300 mlynedd ers codi melin am y tro cyntaf ar safle Melin Tregwynt, dyma’r lle o hyd i weld gwaith gwlân cywrain, dillad, ategion, blancedi, carthenni a mwy. Yng nghanol prysurdeb y byd tecstiliau, mae yma gaffi i ymlacio hefyd, a’r cyfan nepell o glogwyni, arfordiroedd a golygfeydd ysblennydd.
Crefft yn y Bae, Caerdydd
Yn rhan o Urdd y Gwneuthurwyr sy’n cynrychioli 74 o artistiaid yng Nghymru, nod Crefft yn y Bae ydy arddangos crefftau cyfoes gorau’r wlad, a hynny drwy stiwdios, arddangosfeydd, a chyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithdai. Fe gewch chi ddysgu rhai o driciau’r fasnach decstilau neu brynu ambell beth sy’n mynd â’ch bryd.
Pennau Crafts, Aberystwyth
Mae Pennau Crafts yn Bow Street, ger Aberystwyth, i’w ganfod mewn adeilad gwych ar ochr bryn. Mae yno uned bwrpasol ar gyfer trysorau, sy’n cynnwys gemwaith disglair, crefftau a rhoddion, ynghyd ag adran sydd wedi’i neilltuo’n llwyr i groesbwytho. Mae yno hefyd gaffi campus sy’n gweini bwyd cartref os byddwch chi am lenwi’ch bol. Dyma wir gartref i fwyd a chrefftau Cymreig.
Castle Welsh Crafts, Caerdydd
Mae pobl wedi rhoi llwyau caru yn arwydd o serch yng Nghymru ers yr ail ganrif ar bymtheg – ac mae rhai o bob lliw a llun i’w cael yn Castle Welsh Crafts (gyferbyn â Chastell Caerdydd). Mae addurniadau, arfwisgoedd, effemera hanesyddol ac eitemau anarferol fel lampau glowyr hefyd yma, yn ogystal â gemwaith Cymreig a Cheltaidd.
Canolfan Cwiltiau Cymru, Ceredigion
Lle lliwgar, bywiog a llawn dychymyg ydy Canolfan Cwiltiau Cymru, a honno’n adrodd stori ryfeddol sy’n ymestyn o’r ail ganrif ar bymtheg tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Agorodd y ganolfan yn adeilad trawiadol Neuadd y Dref yn Llanbedr Pont Steffan yn 2009, ac mae yma gasgliadau rhyngwladol amrywiol, arddangosfeydd cyson, a chyfleusterau rhagorol.
Canolfan Grefft Rhuthun
Yn ogystal â brolio pensaernïaeth hynod yn yr adeiladau modern ysblennydd, cyrhaeddodd Canolfan Grefft Rhuthun restr fer gwobr fawreddog yr Art Fund Prize am reswm da. Mae’n lle tu hwnt o braf i weld y crefftau cyfoes Cymreig gorau, gydag arddangosfeydd newydd yn ymddangos yn gyson, a hynny mewn lleoliad hyfryd yng ngodreon Bryniau Clwyd.
Crefftau a Dylunio Model House, Llantisant
Agorodd canolfan brysur y Model House yn Llantrisant yn 1989, a’r dyddiau hyn mae’n gartref i amrywiaeth eang o artistiaid a gweithdai, a’r rheini’n croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r preswylwyr crefftus yn rhannu’r gofod â dwy oriel lewyrchus lle gallwch chi edmygu eu gwaith a phrynu ambell rodd go arbennig.
Craft Renaissance, Brynbuga
Mae canolfan y Craft Renaissance ger Brynbuga ymhlith orielau hyfrytaf y wlad, ac yno ofod golau mewn cyfres o ysguboriau sydd wedi’u hadnewyddu. Mae’n lle hynod o braf i gynnal arddangosfeydd gan wneuthurwyr dawnus o Gymru, yn ogystal â dosbarthiadau. Mae yno siop sy’n orlawn o roddion, ynghyd â chaffi gerllaw sy’n lle perffaith i gael hoe fach.
Court Cupboard Craft Gallery, y Fenni
Lle anarferol ydy’r Court Cupboard Craft Gallery ger y Fenni, a honno wedi’i lleoli mewn adeiladau fferm sy’n bum canrif oed. Mae’r rheini’n sefyll y drws nesaf i hen lys lle mae cell danddaearol i garcharorion. Mae gwaith nyddu, aur, arian, gemfeini, gwaith gof, gwydr lliw a gleinwaith ymhlith y crefftau y mae amrywiaeth eang o artistiaid yn eu harddangos.
Gwyliau a ffeiriau crefft Cymreig
Mae sawl ffair a sioe grefftau flynyddol wych yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Yn eu plith mae Wonderwool Wales yn Llanfair-ym-Muallt ar benwythnos olaf mis Ebrill, sy’n dathlu ein diwydiant gwlân ffyniannus. Mae yno arddangosfeydd nyddu, cyfle i fwynhau sesiwn sgiliau Woolschool cyn gadael, a stondinau rif y gwlith yn llawn o nwyddau crefft gwych sydd wedi’u creu â llaw.
Fis Gorffennaf, bydd Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal yn Llanfair-ym-Muallt. Dyma ein sioe amaethyddol fwyaf ni – a honno’n denu tua 200,000 o ymwelwyr dros bedwar diwrnod. Yn ogystal â’r arddangosfeydd da byw, mae’n gyfle i grefftwyr annibynnol gorau Cymru ddangos a gwerthu eu cynnyrch.
Mae’r Craft Festival Wales yn cyrraedd Castell Aberteifi dros benwythnos bob mis Medi, gan roi lle i 90 o wneuthurwyr. Mae yno hefyd arddangosfeydd byw a gweithdai.
Hoff o farchnadoedd crefft Nadolig? Ewch i’n tudalen am farchnadoedd Nadolig yng Nghymru i weld mwy.