Peredur ap Gwyned playing guitar on a stage with bright lighting from behind.
Roedd dyn gwallt blonde gyda stubble yn gwisgo top tywyll, yn sefyll gyda breichiau wedi'u plygu yn erbyn wal frics coch gyda beic ffordd wrth ei ymyl.

Peredur ap Gwynedd

Cwestiynau cyffredin am lwybr dringfeydd y Bwlch, y Rhigos a Mynydd Caerffili

  • Pa fath o daith feicio yw llwybr dringfeydd y Bwlch, y Rhigos a Mynydd Caerffili?

    Cylchdaith feicio heriol ar y ffordd sy’n defnyddio cyfuniad o ffyrdd trefol, llwybrau drwy’r cymoedd, a dringfeydd ar mynyddoedd. 

  • Ble mae llwybr dringfeydd y Bwlch, y Rhigos a Mynydd Caerffili yn dechrau ac yn gorffen?

    Mae’r daith yn dechrau ac yn gorffen yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, gall y llwybr hwn ddechrau a gorffen unrhyw le yn ninas Caerdydd. 

  • Pa mor hir yw llwybr dringfeydd y Bwlch, y Rhigos a Mynydd Caerffili?

    Mae’r llwybr bron iawn yn 81 milltir (130 km) o hyd 

  • Pa ddringfeydd mawr sydd ar lwybr dringfeydd y Bwlch, y Rhigos a Mynydd Caerffili?

    Mae’r daith yn cynnwys sawl dringfa fawr – y Bwlch o Gwmogwr; Mynydd y Rhigos o Dreorci; Bryn Du a Maerdy; a Mynydd Caerffili.

  • A yw llwybr dringfeydd y Bwlch, y Rhigos a Mynydd Caerffili yn addas i ddechreuwyr ar gefn beic?

    Nac ydy. Mae’r llwybr hwn yn fwyaf addas i feicwyr ffordd profiadol sy’n ffit iawn, oherwydd ei bellter a’r gwaith dringo. 

  • Pa olygfeydd all beicwyr eu disgwyl ar hyd llwybr dringfeydd y Bwlch, y Rhigos a Mynydd Caerffili?

    Cymoedd, ffyrdd mynyddig, gweundiroedd agored, sawl gwib i lawr rhiw, a golygfeydd eang drwy’r de.

Taith feicio hir a heriol wedi’i hysbrydoli gan lwybr lleol gwych

A hwnnw dros 100km o hyd, ac yn gofyn am dipyn go lew o waith dringo, dyma daith ar gyfer beicwyr ffordd profiadol. Mae’n cyfuno dringfeydd enwog yn y de â rhannau o lwybr Tour de France 2027, ac mae’n reid hir drawiadol iawn o Gaerdydd.

Disgyblaeth: Ffordd
Rhanbarth: Y de-ddwyrain (Caerdydd a’r Cymoedd)
Pellter: 130 km
Faint o ddringo: Llawer
Pa mor anodd: Anodd

I bwy mae’r daith hon? Beicwyr ffordd profiadol sy’n chwilio am daith heriol sy’n para diwrnod llawn, gyda dringfeydd eiconig a thir sy’n gysylltiedig â’r Tour.

Cylchdaith wych drwy gymoedd y de

Gan ddechrau yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, dyma daith sydd wrth fodd Peredur ap Gwynedd wrth iddo sôn am dirwedd beicio Cymru – dringfeydd o’r radd flaenaf, ond â chithau byth yn bell o’r ddinas chwaith.

Eglwys gadeiriol wyrdd yn Llandaf gydag eglwys gadeiriol uchel y tu ôl i goed, cerflun ar blinth i'r chwith, tŷ gwyn i'r dde, a beiciwr yn pasio ar y ffordd o dan awyr las.

Cathedral Green, Llandaf Caerdydd, De Cymru

Mae’r daith yn gadael Caerdydd ar hyd Heol Llantrisant, gan gefnu’n raddol ar strydoedd trefol wrth gyrraedd bryniau cefn gwlad. Gan basio drwy Bont-y-clun, Llanharan a Bryncethin, mae’r llwybr yn dringo’n raddol cyn cyrraedd Cwmogwr a’r ddringfa fawr gyntaf: y Bwlch. Mae’r ddringfa eiconig hon yn codi’n gyson ac yn rhoi golygfeydd eang i chi dros y cymoedd.

Grŵp o feicwyr ffordd mewn crysau coch yn dringo Mynydd Bwlch yn Ne Cymru ar ffordd fynyddig grwm gyda wal gerrig a llethrau glaswelltog.
Beicwyr yn marchogaeth ar hyd ffordd fynyddig droellog trwy ddyffryn gwyrdd gyda bryniau serth a choedwig o dan awyr gymylog.

Beicio ffordd, Mynydd Bwlch, De Cymru

Wrth ddisgyn i Dreorci, bydd y llwybr yn eich herio eto’n syth bin, a hynny gyda’r daith dros y Rhigos. Dyma ddringfa hirach, fwy agored sy’n ychwanegu at yr ymdeimlad bod pethau’n mynd yn galetach o dipyn i beth. O fan hyn, mae’r llwybr yn mynd drwy Hirwaun ac i lawr at Aberdâr, cyn anelu am y Rhondda Fach lle mae dringfeydd fel rhai Bryn Du a Maerdy yn profi dygnwch rhywun a’i allu i wybod pa mor galed i fynd amdani.

Ffordd fynyddig droellog trwy fryniau glaswelltog gyda dyffryn a chopaon pell o dan awyr gymylog.
Mae pedwar beiciwr mewn crysau coch yn oedi gyda'u beiciau ar olygfa ochr y ffordd, yn edrych dros ddyffryn llydan a bryniau pell o dan awyr gymylog.

Beicio Ffordd, Mynydd y Rhigos, De Cymru

Wrth i’r llwybr ddynesu at Nelson a Chaerffili, byddwch chi’n ymuno â ffyrdd a fydd yn rhan o lwybr Tour de France 2027 – tir reidio a fydd yn cael ei weld yn y pedwar ban. Y prawf olaf fydd dringfa Mynydd Caerffili, cyn gwibio yn ôl i Gaerdydd.

golygfeydd o gopa mynydd, yn edrych dros dref, gyda bryniau gwyrdd o’i hamgylch.

Mynydd Caerffili, De Cymru

Gan orffen lle dechreuoch chi, mae’r daith hon yn rhoi diwrnod llawn o feicio ffordd clasurol Gymreig i chi. Mae’n cyfuno dringfeydd heriol, tir amrywiol, a chysylltiad cryf â’r diwylliant reidio lleol a dyfodol y gamp yng Nghymru.

Gwybodaeth ddefnyddiol 

Lluniaeth:

Mae sawl lle i stopio am damaid i’w fwyta neu lymaid ar hyd y ffordd, gan gynnwys :

  • Caffis a siopau ym Mhont-y-clun a Phen-y-bont ar Ogwr 
  • Tafarndai a chaffis yn Nhreorci, Aberdâr 
  • Cyfleoedd rheolaidd i gael eich cefn atoch drwy gydol y llwybr 

Gwasanaethau:

  • Toiledau, llefydd parcio a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd
  • Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da ar gael yn nhrefi’r cymoedd, gyda chysylltiadau rheilffordd a bysus yn agos at y llwybr 
A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig