Gweithgareddau teuluol i’w gwneud dan do
Anturiaethau dan do i’r teulu
Beth am losgi ychydig o egni yn un o’n canolfannau chwarae dan do? Yn yr Hwylfan yng Nghaernarfon, mae sleidiau anferth 25 troedfedd, pyllau peli, pontydd rhaff, sleidiau tiwb, drysfa, waliau dringo, rhwydi, polion a rhaffau, gemau laser a gwibgertiau trydan bach. Neu gadewch i’r plant dreulio’r prynhawn yn llamu ar y trampolinau yn AirHop Wrecsam, neu roi cynnig ar gwrs antur i blant bach yng nghanolfan hwyl Bonkerz yn Llandudno. Fe gewch chithau ymlacio yn y caffis sydd ar y safleoedd hyn.
Yn SC2 yn y Rhyl, mae yno barc dŵr dan do yn llawn sleidiau a llefydd chwarae gwlyb, ynghyd â lle chwarae i blant bach a chwrs antur Ninja Tag cyffrous tu hwnt i blant hŷn ac oedolion. Ewch draw i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy lle cewch chi sglefrio iâ, nofio, neu fentro i’r parc gwynt dan do rhagorol.
A’r rheini’n addo llond gwlad o hwyl i deuluoedd, grwpiau a pharau, mae’r Xscape Rooms ym Mangor yn llawn posau anodd i’w datrys er mwyn dianc o un o’r ystafelloedd thematig o fewn awr.
Dysgwch rywbeth newydd
Ewch ati i greu rhywbeth i gofio’ch gwyliau drwy greu llestr neu baentio crochenwaith yn stiwdio braf Tan y Ddraig yng Nghonwy. Mae Piggery Pottery yng Nghaernarfon yn cynnig sesiynau paentio crochenwaith dwyawr i deuluoedd hefyd. Ac mae modd prynu pecynnau i’w paentio gartref eich hun y tro nesaf y bydd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn! Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn cynnal gweithdai ac arddangosfeydd rheolaidd. Neu beth am wisgo’ch welingtons a dilyn Llwybr Celf Rhuthun o amgylch y dref?
Mae wyth stiwdio grefft yng Nghanolfan Grefft Corris, gan gynnwys gweithdy Quarry Pottery, cerfluniau gwydr Delyn Glass, dodrefn pren naturiol Taran Eco Designs, a gweithdy’r gof, Agau Jewellery. Mae croeso i gŵn ar denynnau ym mhob un o’r stiwdios crefft unigol ar wahân i stiwdio Chocablock. Mae Caffi Corris a’r Deli Cymreig hefyd yn croesawu cŵn.
Plant chwilfrydig? Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore yn Wrecsam yw’r lle i chi. Mae yno ddigonedd o weithgareddau rhyngweithiol ac arbrofion llawn hwyl i bawb o bob oed eu mwynhau.
Ewch i ymochel dan ddaear
Pam dringo dros y mynydd pan allwch chi gamu drwyddo? Mae profiad tanddaearol cyffrous yn weithgaredd cofiadwy i barau a grwpiau ym mhob tywydd.
Yn Go Below, fe gewch chi abseilio, hedfan ar wifren wib, sgrialu, llywio cwch a dringo, a'r cyfan o amgylch hen chwareli Eryri. Ar y ffordd, fe ddewch chi ar draws llynnoedd glas dwfn, ogofeydd eang, a pheiriannau chwarela o’r oes a fu.
Mae Labrinth y Brenin Arthur yn atyniad sy’n fwy addas i blant, a bydd y teulu cyfan yn siŵr o fwynhau yno. Fe gewch chi fynd yn ddwfn o dan ddaear, lle bydd cychwr o’r Oesoedd Tywyll yn eich arwain ac yn adrodd rhai o chwedlau hynod Cymru wrth i chi lywio drwy dwneli ac ogofeydd.
Os mai hanes diwydiannol sy’n mynd â’ch bryd, ewch am dro i Corris Mine Explorers, lle mae cyfle i grwydro hen ogofeydd a dysgu mwy am dreftadaeth chwareli llechi’r fro. Mae’n syniad da cadw lle ymlaen llaw.
Beth am dreulio awren neu ddwy yn crwydro Chwarel Llanfair, ger Harlech? Taith yw hon y byddwch chi’n ei dilyn eich hun drwy’r hen weithfeydd, sy’n golygu y gallwch chi ddysgu’r holl hanes wrth eich pwysau. Mae croeso i gŵn hefyd.
Yn Zip World Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog y mae un o’r gweithgareddau mwyaf anarferol sydd gan y gogledd i’w cynnig ar ddiwrnod glawog. Mae rhwydi bownsio Bounce Below i’w canfod ym mherfeddion anhygoel chwarel lechi. Sleidiau ac ysgolion yn cysylltu’r holl dramplinau tanddaearol, gyda goleuadau amryliw, seicadelig o’u cwmpas i’ch tywys wrth i chi lamu, sleidio a dringo eich ffordd drwy’r cwrs dwfn.
Wrth eich bodd â golff antur? Ddim yn hoff o’r glaw? Ewch draw i’r cwrs Golff Antur Tanddaearol 18 twll sydd i’w ganfod mewn ogof 500 o droedfeddi o dan y ddaear. Yno, fe gewch chi roi cynnig ar heriau cynyddol ddieflig dros bedair lefel.
Ymhlith yr opsiynau eraill mae Ogofâu Zip World – pump o ogofâu llechi tanddaearol anferth sydd wedi’u troi yn lle antur unigryw. Yn yr ogofeydd hyn mae gwifrau gwib, pontydd rhaff, trawstiau cyd-bwyso a thwneli, gyda digonedd o olygfeydd i gipio’ch anadl. Antur dair awr i blant 10 oed a hŷn.
Ymlaciwch o flaen y sioe theatr neu’r ffilm fawr ddiweddaraf
Madam Butterfly, Strictly Come Dancing, comedi beiddgar a theatr cyfoes - mae Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl yn arbenigo mewn perfformiadau ysblennydd. Yn 1991 yr agorodd yr adeilad hwn, 90 mlynedd ar ôl i’r un cyntaf losgi i’r llawr.
Mae Venue Cymru, Llandudno, yn sefyll ar safle lle agorodd theatr ar y prom dros ganrif yn ôl. Ers 2007, Venue Cymru sydd yno. Mae cantorion enwog, sioeau theatr poblogaidd ac arddangosfeydd i’w gweld yma’n rheolaidd.
Sinema annibynnol wefreiddiol yw Sinema’r Llusern Hud (Sinema’r Flwyddyn BIFA) a honno i’w chanfod yn adeiladau gwreiddiol yr Ystafelloedd Cynnull yn Nhywyn a godwyd yn y 1800au. Fe gewch chi weld y ffilmiau mawr diweddaraf, ffilmiau annibynnol, perfformiadau’r National Theatre Live a sioeau byw, ynghyd â ffilmiau clasurol i’r teulu yn ystod y dydd. Mae yno system sinema o’r radd flaenaf, a gwasanaeth gweini i’r bwrdd gyda’r fwydlen fyrbrydau a’r bar yn cynnig digon o ddewis.
Mae Tŷ Pawb yn Wrecsam yn lleoliad arall o fri, a hwnnw’n cyfuno marchnad dan do a chanolfan gymunedol. Mae’n cynnig ffilmiau amrywiol, digwyddiadau byw a gweithgareddau teuluol – lle dan do heb ei ail, yn wir.
Chwiliwch am fwy o theatrau yn y gogledd.
Amgueddfeydd, orielau a rheilffyrdd
Camwch ar drên o’r oes a fu a mwynhau’r golygfeydd o glydwch eich cerbyd. Mae ardal y gogledd yn enwog am ei rheilffyrdd treftadaeth, ac mae rhywbeth am deithio ar drên stêm yn y glaw sy’n creu awyrgylch llawn naws wrth dynnu ffotograffau.
Mae Tramffordd y Gogarth wedi bod yn gwefreiddio ymwelwyr ers dros ganrif. Dyma un o hynodion peirianneg yr oes, a’r unig dramffordd sy’n gweithio â cheblau ar ffyrdd cyhoeddus Prydain. Yn yr arddangosfa yn yr orsaf hanner ffordd, mae cyfle i ddysgu am hanes rhyfeddol y dramffordd, cyn mwynhau’r daith odidog i’r copa. A chofiwch fynd am dro drwy Fwynfeydd y Gogarth lle dewch chi ar draws llwybrau tanddaearol 3,500 oed.
Yn ôl un ymwelydd â Charchar Biwmares, Ynys Môn, mae’n ‘lle llwm’ ond eto fe gafodd hi ‘fore gwych’ yno. Mae hanes bywyd yn y carchar didostur hwn yn ystod y 1800au yn cael ei adrodd yn ddiflewyn-ar-dafod. Yno mae un o’r unig felinau traed sy’n gweithio ym Mhrydain, ac mae’r carchar wedi ymddangos ar y sioe deledu, Most Haunted.
Amgueddfa fach yw Stone Science, Ynys Môn, ond mae’r bobl sy’n gyfrifol amdani’n hynod frwd ac mae’n drysorfa ddaearegol. Mae’n orlawn o greigiau, mwynau, ffosiliau ac arteffactau anhygoel o fyd y deinosoriaid. Tyrchwch drwy’r darganfyddiadau sydd i’w gweld yno, ac ewch i holi’r bobl a roddodd y casgliad hwn ynghyd.
Mae MOSTYN yn cynnal sioeau celf gyfoes ardderchog, a hynny mewn adeilad hyfryd. Gallwch chi ddisgwyl gweld gwaith artistiaid mawr sydd wedi ennill eu plwyf ochr yn ochr â gwaith pobl sy’n prysur wneud enw iddyn nhw’u hunain. Dewch i weld rhywbeth newydd neu rhowch gynnig ar dynnu llun o’r hyn sydd o’ch blaen. Mae’r amgueddfa a’r oriel gelf yn Oriel Môn, wedyn, yn adrodd hanes Ynys Môn, ac yn rhoi llwyfan i gelf a cherfluniau cyfoes hefyd. Mae’n rhaid mynd i weld oriel Kyffin Williams tra byddwch chi yno, sy’n llawn o baentiadau dramatig yr artist mawr o Gymro.