Cylchlythyr Croeso Cymru

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i glywed ein straeon diweddaraf, syniadau gwyliau neu seibiannau byr a mwy am ddigwyddiadau diddorol sy'n digwydd yng Nghymru.

Ffermydd teuluol bach ydy’r rhan fwyaf o ffermydd Cymru, a’r rheini’n cadw da byw. Mae nifer wedi arallgyfeirio drwy gynnig amrywiaeth o opsiynau llety.

Ymhlith y dewis mae hen sguboriau wedi’u hadnewyddu, bythynnod clyd, a ffermdai hanesyddol, gyda’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnig yn amrywio o gerdded defaid i yrru tractorau.

Defaid mewn cae.
Defaid mewn cae a golygfa o Lanbedr Pont Steffan.

Golygfeydd gwledig wrth aros ar fferm

Arhoswch ar fferm Gymraeg draddodiadol

Ymgollwch ym mywyd fferm deuluol, Gymraeg, draddodiadol. Yn amlach na heb, byddwch chi’n aros yn y ffermdy gwreiddiol, ac yn cael bwyd cartref maethlon, lleol. Ble well i ddarganfod am hanes, diwylliant ac iaith bro?

Dolgelynen

Fferm ddefaid a godro ydy Dolgelynen ar lan ogleddol afon Dyfi, rhwng Machynlleth ac Aberdyfi. Arhoswch yn y gwely a brecwast yn y ffermdy, lle mae’r estyll derw’n amlwg a’r brecwast lleol yn werth chweil. Fan hyn, fe gewch chi weld sut beth yn union ydy byw ar fferm.

Fferm Organig Nantgwynfaen

Mae Fferm Organig Nantgwynfaen ger Cei Newydd yng Ngheredigion yn ymfalchïo yn ei brecwast sy’n cynnwys wyau maes, selsig, cig moch, bara a marmalêd o’r fferm ei hun. Maen nhw hefyd yn gwerthu’r rheini – a rhagor – yn y siop organig ar dir y fferm.

Ffermdy Tal-y-Bryn

Ffermdy o’r unfed ganrif ar bymtheg yn Nyffryn Clwyd ydy Tal-y-Bryn. Mae’n rhan o’r fferm sy’n cynhyrchu iogwrt Llaeth y Llan, sydd ar gael ledled Cymru yn ogystal ag ar fwrdd brecwast y gwesteion! Mae ganddyn nhw hefyd ddigon o amser yno i gadw terasau a ffynhonnau eu gardd brydferth mewn cyflwr rhagorol.

Abbey Farm

Lle delfrydol i deulu neu bâr sydd am ymlacio ydy Abbey Farm, a’i dewis o bodiau glampio unigryw, lleiniau i garafanau a llefydd gwersylla. Mae’r fferm wedi ennill Gwobr Aur am ei chyfleusterau. Ar ôl dod i adnabod y defaid a’r gwartheg crwydrol, ac efallai ambell alpaca, mae tref Rhuddlan a’i chastell dafliad carreg i ffwrdd. Mae croeso i gŵn hefyd – a helgwn y fferm ei hun wastad yn barod am sbort!

Os byddwch chi awydd mynd yn nes fyth at y tir, mae nifer o ffermydd gwaith Cymru yn cynnig gwyliau glampio. Dydy twbas twym na sesiynau tylino ddim yn rhan o’r bywyd ffermio traddodiadol, ond os ydyn nhw’n cael eu cynnig, pam ddim? Dewiswch o blith y profiadau glampio moethus hyn yng Nghymru.

Er mwyn cael cyfle i dorchi llewys ar y fferm ei hun, beth am un o’r gwyliau sy’n cynnig profiadau ffermio?

Cerdded defaid, wyna a chneifio

Fferm Organig Aberhyddnant

Efallai fod gan Gymru lawer iawn o ddefaid (11 miliwn, o’i gymharu â thair miliwn o bobl!) ond mae’n anodd iawn mynd yn ddigon agos at y creaduriaid swil i’w hanwesu. Nid felly ar Fferm Organig Aberhyddnant ym Mannau Brycheiniog, lle mae cyfle i westeion neu ymwelwyr dydd grwydro’r bryniau yng nghwmni defaid Jacob neu sbwylio’r geifr bach a’r defaid trwynddu Valais, sy’n gyfeillgar ac yn wlanog dros ben.

Os ydych chi’n chwilfrydig am ochr galetach ffermio, yn ystod y Pasg fe all ymwelwyr brofi realiti wyna. Fe gewch chi’n dysgu sut i ofalu am ddefaid beichiog, deall pryd maen nhw’n esgor, a chael bod yn dyst i enedigaeth neu ddwy, yn go siŵr. Fe allwch chi hyd yn oed roi help llaw, os ydych chi’n dymuno! Mae sesiynau wyna byrrach i blant dan ddeuddeg yn gyfle iddyn nhw fod yn rhan o’r cylch ffermio hefyd. Yn ystod yr haf, mae modd rhoi cynnig ar gneifio defaid, tra bo’r fferm hefyd yn cynnig diwrnodau i ddysgu crefft ffeltio.

Mae gan y fferm ysguboriau hunanarlwyo, a phebyll glampio hefyd, ac mae nifer o’r diwrnodau profiad yn cynnwys pryd o fwyd yn y ffermdy. Dewis arall ydy prynu eich wyau a’ch cig moch, cig eidion neu gig oen eich hun a’u coginio nhw gartref.

Fferm Treberfedd

Os ydych chi wedi cael blas ac am ddysgu’r cam nesaf ym mywyd y bugail, mae Fferm Treberfedd ger Llanbedr Pont Steffan yn cynnig cyrsiau undydd mewn cadw defaid i dyddynwyr. Bydd cyfle i ddysgu popeth am iechyd defaid, sut i’w cadw dan do, a sut i’w porthi, gyda chyngor am ba fridiau sy’n gweddu orau i wahanol fathau o dir a ffyrdd o fyw.

Rhes o fythynnod clyd.
blodau gwrych mewn fas.
Arwydd llwybr fferm ar giât.

Adeiladau fferm traddodiadol a blodau gwrych ar lwybr Fferm Treberfedd ger Llanbedr Pont Steffan

Gyrru tractor a chrwydro ffermydd

Fferm Organig David

Mae gwesteion sy’n dod i Warmacwydd, neu Fferm Organig David, yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gâr, yn cael eu hannog i roi cynnig ar ochr hwyliog ffermio – casglu’r wyau a bwydo’r lloi a’r wyn dof yn ystod y gwanwyn. Mae’r fferm eidion organig 450 erw ar lannau afon Taf yn hunangynhaliol, ac yn tyfu ei phys a’i cheirch ei hun i borthi’r anifeiliaid. Mae gan ffermydd organig hyd at 50% yn fwy o fywyd gwyllt, medden nhw, a bydd y teithiau o amgylch y fferm yn gyfle i chi ddod i adnabod eich cymdogion gwyllt a chlywed mwy am eu harferion ffermio llesol. Mae croeso i ymwelwyr hefyd grwydro i le mynnan nhw, gan gynnwys i lawr at lannau’r afon, sy’n ymestyn am ddwy filltir ac yn gyfle i bysgota â phlu am sewin, eogiaid a brithyll.

Ar ôl llonyddwch glan yr afon, newid gêr wedyn, a chyfle i ddysgu sut i yrru un o dractorau anferth John Deere. Yn y sesiynau un-i-un awr o hyd hyn, byddwch chi’n eistedd y tu ôl i’r olwyn mewn dim o dro ac yn dysgu’r technegau i gyd.

Prosiectau bioamrywiaeth

Mae nifer o bobl a sefydliadau yng Nghymru yn gweithio’n galed i ddod o hyd i ffyrdd o wneud ffermio mor fioamrywiol a llesol i fyd natur â phosibl.

Bythynnod Llechwedd Einion

Mae Bythynnod Llechwedd Einion i’w canfod rhwng fferm Cefn Coch a thir Coetir Anian, a hynny ym Miosffer Dyfi UNESCO. Mae Joe, y ffermwr a’r ecolegydd PhD a fydd yn eich croesawu, yn barod i ddangos ei dir i westeion, lle bydd cyfle i chi borthi ei wartheg a dysgu am amaeth-goedwigaeth dwysedd isel sy’n llesol i fyd natur.

Eginblanhigion mewn gweiniau gwarchodol
Dyn yn penlinio yn y glaswellt gyda blodau gwyllt.

Joe Hope ar ei fferm, Biosffer Dyfi UNESCO, Canolbarth Cymru

Mae’r bythynnod y drws nesaf i Goetir Anian, fferm oedd wedi dirywio ar yr ucheldir sy’n cael ei hadfywio’n arbrofol, a hynny’n bennaf drwy ddulliau sydd ddim yn golygu ymyrryd ormod. Dewch i ddysgu am y gwaith adfer ecolegol sydd wedi’i wneud hyd yma. Mae digwyddiadau a chyfleoedd i wirfoddoli hefyd ar gael yng Nghoetir Anian, gan gynnwys cyfleoedd i blannu coed a mwynhau brecwast i gyfeiliant côr y wig.

Fferm Cefn Coch gyda’r ucheldiroedd y tu hwnt iddi.

Mae Fferm Cefn Coch yng Ngheredigion yn gweithio ochr yn ochr â byd natur

Fferm Denmark

Hen fferm gymysg ydy Fferm Denmark ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion, a ddaeth yn ganolfan gadwraeth yn 1987. Ers hynny, mae’r lle wedi’i reoli er budd byd natur, gan barhau â nifer o arferion ffermio traddodiadol sy’n llesol i’r tir. Mae cyfle i ymwelwyr gyfrannu drwy ddiwrnodau gwirfoddoli, neu fynd ar gyrsiau mewn cadwraeth, crefftau neu fyw cynaliadwy.

Darllenwch fwy: I weld opsiynau eraill am wyliau sy’n llesol i’r amgylchedd yng Nghymru, cymerwch olwg ar y gwyliau cynaliadwy neu’r gwyliau eco hyn.

Denmark Farm Eco Lodge

Denmark Farm Eco Lodge

Accommodation
Lampeter
A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig