Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd groesi’r bont i Fôn oedd Mis Mai 2026, lle groesawyd yn agos at 100,000 o ymwelwyr i’r ynys. Ac oedd y Eisteddfod yn para saith diwrnod, sy’n rhoi mwy o amser i grwydro’r ynys a phrofi traethau, tirwedd a threftadaeth Môn.
Yr hyn sy’n wych am fyw yng nghanol Ynys Môn ydi mai dim ond chwarter awr mae’n ei gymryd i gyrraedd glan môr. P’un a ydach chi’n chwilio am draeth euraidd fel un Benllech neu glogwyni trawiadol a serth Ynys Lawd neu ochrau Llanbadrig yng ngogledd Môn, mae’r cyfan o fewn cyrraedd i faes yr Eisteddfod eleni.
Os ydach chi’n un sy’n hoffi tynnu lluniau a rhyfeddu at fyd natur, beth am dreulio awr neu ddwy yn crwydro drwy Nant y Pandy yng nghanol tref Llangefni? Un munud rydach chi’n siopa yn y dref, ac o fewn pum munud o gerdded rydach chi yng nghanol coedwig sy’n rhoi llond ysgyfaint o awyr iach i chi. Efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i weld gwiwerod coch yno, heb sôn am nifer o adar, gloÿnnod byw a thrychfilod di-ri.
Ar eich ffordd yn ôl i’r dref, cofiwch aros am ddiod a rhywbeth i’w fwyta. Mae gan Langefni gymaint i’w gynnig, o Matchas yn y Cwt Coffi, i deisennau o bob math yn Kico’s, ac Acai yn Becws Gwalia. I fyny’r lôn mae Caffi Bach y Bocs yn Oriel Môn yn gweini salad a chinio bendigedig, ac mae’r siop yn gwerthu cynnyrch lleol i fynd adref gyda chi.
Gwyn eich byd chi os byddwch chi’n aros yng ngogledd Môn yn ystod yr Eisteddfod. Mae modd treulio oriau braf iawn mewn llefydd fel Porth Amlwch, Cemaes a Phorth Swtan. Ymysg uchafbwyntiau’r ardaloedd hynny mae crempogau chwedlonol Skye’s a sgons ANFERTH Wavecrest. Rhaid i chi eu gweld nhw – maen nhw gyda’r mwyaf yn y byd, dwi’n siŵr!
Cofiwch gadw golwg am beiriannau gwerthu ysgytlaeth yn rhai o ffermydd Môn sy’n gwerthu eu llefrith ffres ar dir y fferm. Mae Llefrith Nant y tu allan i Gemaes, Llefrith Cybi rhwng Trearddur a’r Fali, ac mae’r Cwt Llefrith yn agos iawn i Faes yr Eisteddfod.
Am lefydd bwyta i ddathlu llwyddiannau Eisteddfodol, mae dewis da yn Nhrearddur a Rhosneigr (shout out i Sandy Mount House a’i bwydlenni Cymraeg), a Gadlys yng ngogledd yr ynys, a digon o ddewis ar hyd arfordir deheuol yr ynys, o Dylan’s ym Mhorthaethwy i’r Bull ym Miwmares. Mae’r ddwy dref hynny yn ne’r ynys yn llefydd delfrydol i siopa am bethau i fynd adref gyda chi hefyd.
Y dyddiau yma, does yna’r un ymweliad ag Ynys Môn yn gyflawn heb i chi alw ym Melin Llynon i brofi eu Mônuts enwog. Efallai y gwelwch chi’r felin wynt yn troi tra byddwch chi’n mwynhau’r dewis eang o ddonyts – dyma’r unig felin wynt draddodiadol sy’n dal i weithio yng Nghymru. Cewch brynu blawd Ynys Môn yma! Peidiwch ag anghofio hefyd bod gan Richard Holt y perchennog ffatri siocled yn Llangefni, ac mae yno ystafelloedd ‘breakout’ hefyd yn rhan o’r ffatri honno – yr union beth i’ch difyrru chi a’ch ffrindiau os bydd hi’n bwrw glaw.
Mae‘na ddigon o hanes yma yn Ynys Môn hefyd. Os ydach chi isio profiadau mwy ysbrydol tra byddwch chi yma, beth am ymweld ag Ynys Tysilio rhwng y ddwy bont, sef safle eglwys hynafol a syml mewn lle gogoneddus? Ymhellach byth yn ôl mewn hanes, mae naws arbennig ym Mryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres – yno mae peth o waith celf hynaf yr ynys i’w weld ar y meini. Mae ysblander rhyfeddol ym Mhlas Newydd hefyd, gan gynnwys darlun hudol a hypnotig Rex Whistler.
Os nad ydach chi’n meindio uchder, ffordd dda o edmygu’r Fenai rhwng Ynys Môn a gweddill Cymru ydi dringo’r 115 gris i gopa Tŵr Marcwis – un o’r tirnodau cyntaf welwch chi wrth groesi un o’r ddwy bont enwog i’r tir mawr. Ac am fwy o olygfeydd anhygoel does dim i guro’r profiad arallfydol o gerdded ar Fynydd Parys ger Amlwch. Gallech daeru eich bod chi’n ofodwr ar blaned Mawrth, yn wir, yng nghanol y dirwedd lychlyd a melyngoch yno.
Mi fyddwch chi’n gyfarwydd â stori Santes Dwynwen eisoes, dwi’n siŵr. Braidd yn brysur ydi’r traeth yn Llanddwyn erbyn hyn, ond mae sawl ffordd ddyfeisgar o gyrraedd yno i osgoi’r traffig. Gallwch fynd ar eich beic yr holl ffordd o Langefni ar hyd llwybr saff a phwrpasol, ond os oes gormod o ddylanwadwyr Insta yno, mae digon o draethau eraill ar yr ynys. I rai, Traeth yr Ora ydi’r gyrchfan ‘ora’ yn wir os ydach chi isio traeth tywodlyd a gwneud dim ond ymlacio a gwrando ar y tonnau’n torri ar y traeth. Ond nid pawb sy’n gwybod am fanno, felly cadwch y gyfrinach, da chi… Mae Sawna Bach ym Mhorth Tyn Tywyn ger Rhosneigr a Sawna Gwymon Halen Môn hefyd yn llefydd braf i ymlacio ar ôl diwrnod prysur o gystadlu.