Cwestiynau cyffredin am daith feicio Llwybr Cwm Elan

  • Pa fath o lwybr beicio yw Llwybr Cwm Elan?

    Llwybr beicio hamddenol, cwbl ddi-draffig, sy’n addas i bobl o bob gallu. 

  • Ble mae’r llwybr hwn yn dechrau ac yn gorffen?

    Mae’r llwybr gan amlaf yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan ger Rhaeadr Gwy.

  • Pa mor hir yw Llwybr Cwm Elan?

    Mae’r opsiynau’n amrywio. Mae cylchdeithiau byr tua 10–20 km ar gael, tra bo’r daith o Raeadr Gwy ac yn ôl tua 29km.

  • Pa ddringfeydd mawr sydd ar Lwybr Cwm Elan?

    Mae ychydig o deithio dros fryn a phant, heb unrhyw ddringfeydd mawr, er bod rhai mannau lle mae’r llwybr yn codi’n raddol.

  • A yw Llwybr Cwm Elan yn addas i ddechreuwyr ar gefn beic?

    Ydy. Mae’n ddelfrydol i ddechreuwyr a theuluoedd, gyda phellteroedd hawdd, a wyneb y llwybr ar y cyfan yn llyfn.

  • Pa olygfeydd all beicwyr eu disgwyl ar Lwybr Cwm Elan?

    Mae’r golygfeydd yn cynnwys cronfeydd dŵr, argaeau, bryniau braf, coedwigoedd a chefn gwlad agored Cymru, yn aml gyda chyfleoedd i weld bywyd gwyllt fel barcutiaid coch. 

Teulu’n beicio.
Family cycling across a stone dam with a domed water tower and wooded hills in the background.

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Llwybr beicio braf drwy gronfeydd dŵr y canolbarth

Gyda chyfuniad o opsiynau byr a hirach, heb ormod o ddringo, mae hon yn daith sydd wedi’i chynllunio ar gyfer teuluoedd a beicwyr hamdden. Mae’n pasio cronfeydd dŵr tawel ac argaeau hanesyddol ar ffyrdd cefn gwlad tawel, gan wneud hwn yn un o lwybrau beicio harddaf a mwyaf hygyrch y canolbarth. 

Disgyblaeth: Hamdden / Hybrid
Rhanbarth: Y Canolbarth (Cwm Elan)
Pellter: Opsiynau 10-30km
Faint o ddringo: Cymedrol
Pa mor anodd: Hawdd i gymedrol

I bwy mae’r llwybr hwn? Teuluoedd, dechreuwyr ar gefn beic, ac ymwelwyr sy’n chwilio am daith hamddenol mewn lleoliad ysblennydd.

Two cyclists sat on a bench by a multi-arched bridge over a lake.

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Beicio drwy un o ardaloedd mwyaf eiconig Cymru

Gan ddechrau yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, mae’r llwybr hwn yn gyflwyniad hygyrch i feicio yn y canolbarth. Mae’r llwybr yn dilyn rhwydwaith o ffyrdd tawel a llwybrau sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, a’r rheini’n pasio cronfeydd dŵr ac argaeau hanesyddol. Dyma felly un o’r ardaloedd gorau yn y wlad i feicio’n hamddenol gan fwynhau golygfeydd hynod yr un pryd.

Mae ambell bant a bryn yma, sy’n rhoi cyfle i feicwyr reidio wrth eu pwysau eu hunain, gan fwynhau ehangder y golygfeydd dros y llynnoedd a’r dyffrynnoedd. Mae digonedd o lefydd i stopio am hoe, i gael picnic, ac i grwydro ar hyd y ffordd. Llwybr delfrydol, felly, i deuluoedd neu’r rheini sydd eisiau profiad awyr agored mwy hamddenol ar gefn beic.

Bydd pobl yn galw Cwm Elan yn “Ardal y Llynnoedd Cymru”, ac mae’r llwybr hwn yn gyfle i brofi’r awyrgylch tawel, y dreftadaeth beirianyddol, a’r harddwch naturiol law yn llaw â’i gilydd.

Mae rhagor o wybodaeth fan hyn am argaeau a chronfeydd dŵr Cwm Elan.

three people on bikes by dam.

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Gwybodaeth ddefnyddiol

Llogi beics:

Lluniaeth:

  • Mae digonedd o gaffis a thafarndai a sawl becws yn nhref gyfagos Rhaeadr Gwy .
  • Yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan mae caffi sy’n gweini bwyd a diod, gyda bwyd poeth ar gael rhwng 12pm a 3pm.

Gwasanaethau:

  • Mae toiledau, lle parcio, mannau picnic a gwybodaeth i ymwelwyr ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan. 
  • Mae hefyd doiledau a rhagor o lefydd parcio o amgylch yr argaeau a’r cronfeydd dŵr.
geant a chronfa ar ddiwrnod heulog.

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig