Hwyl ar Ddydd Gŵyl Dewi
#1 Chwifia'r Ddraig
#2 Gwisg genhinen
#3 Cwtsh
#4 Llond llwy o gariad
#5 Dewisa ddysgwr
#6 Pryna beint i Dewi
#7 Iawn blodyn?
#8 Gwisga'n Gymreig
#9 Dawnsia
#10 Bwyta gaws
#11 Planna goeden
#12 Rhanna bice bychain
#13 Cipia gastell
#14 Gwisga het Gymreig
#15 Gwlad, Gwlad!
#16 Bwyta genhinen
#17 Gwranda
#18 Bwytewch a mwynhewch
#19 Mwynha'r Mabinogi
#20 Cer hanner-hanner
#21 Bara Lawr
#22 Rheda dros Gymru
#23 Tria Tippit
#24 Câr dy gymydog!
#25 Prynu'n Lleol
#26 Dip Dydd Dewi
#27 Gwisga dy ci
#28 Coctel Cymreig
#29 Cheers drive!
#30 O 'Steddfod i 'Steddfod
#31 Cennin Pedr
#32 Cwtsh mewn carthen
#33 Gwna dy cap
#34 Clocsia
#35 Dydd Gŵyl Dewi Hapus
#36 Rhodd bychan
Pa Bethau Bychain fyddi di’n eu dathlu? Rhanna dy ddewis hefo ni ar gyfryngau @CroesoCymru, @Cymraeg, neu wrth ddefnyddio #PethauBychain.
Beth am roi sialens i dy hun a gweld faint o Bethau Bychain ‘alli di eu gwneud a’u rhannu mewn 24 awr? Dyma rai syniadau iti...
#1 Chwifia'r Ddraig
1Baner Cymru yw’r orau yn y byd. Ffaith. Cofia ddathlu'r Ddraig Goch a chwifio’r faner hefo balchder.
Er bod dreigiau ar fflagiau Bhutan a Malta hefyd, Cymru yw’r unig un sydd hefo’r Ddraig Goch. Ond pam y Ddraig Goch? Wyt ti’n gwybod y chwedl am y frwydr enwog hefo’r Ddraig Wen, a sut enillodd y Ddraig Goch ei lle ar ein baner?
#2 Gwisg genhinen
2‘Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon' - ein cenhinen genedlaethol a’r eitem ffasiwn fwyaf cŵl i binio ar het neu siwmper. I fod hyd yn oed mwy Cymreig - bwyta dy genhinen ar ddiwedd y dydd!
Mae digonedd o chwedlau am sut enillodd y genhinen ei lle fel symbol cenedlaethol - mae rhai yn dadlau bod ei gwreiddiau yn mynd mor ddwfn â’r 7fed ganrif a bod byddin Cadwaladr, Brenin Gwynedd ar y pryd, yn gwisgo cennin er mwyn adnabod eu cyd-filwyr ar faes y gad. Mae eraill yn dweud ei bod yn mynd yn ôl ymhellach i ddyddiau Taliesin yn y 6ed ganrif.
#3 Cwtsh
3Mae’n fwy na ‘hug’, mae’n fwy na ‘cuddle’, ac mae’n fwy na geiriau ar glustog! Mae’n gynnes, yn garedig ac yn Gymreig. Rho gwtsh llawn cariad i dy deulu neu i dy anifail anwes.
#4 Llond llwy o gariad
4O undod y goes bren droellog, i glymau di-ddiwedd y cwlwm Celtaidd, a chynhesrwydd y galon - mae gan bob symbol llwy garu ei neges unigryw ei hun sy’n cael eu plethu â stori ramantaidd. Mae’r llwy garu hynaf Cymru yn dyddio’n ôl i 1667 ac mae hi i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Neu, os am droi at lwy fwy modern, cer i ddisgyn mewn cariad â Chasgliad yr artist Ceini Spiller.
#5 Dewisa ddysgwr
5Gwna ffrindiau hefo siaradwr Cymraeg newydd. Sgwrsiwch dros y ffôn neu dros baned - bydd un neu ddau o eiriau bychain yr wythnos yn mynd yn bell.
Y Gymraeg yw’r iaith sy’n tyfu cyflymaf yn y DU ar Duolingo, ac mae apiau gwych eraill fel Say Something in Welsh neu gyrsiau preswyl yng nghanolfan Nant Gwrtheyrn ar gael i helpu’r dysgu - ond, does dim yn curo paned o de i roi’r byd yn ei le hefo ffrind wrth ymarfer.
#6 Pryna beint i Dewi
6Oes yno rywun o’r enw Dewi wrth y bar? Beth am ‘Dafydd’, neu ‘Dai’? Ac mae ‘Non’ yn cyfrif hefyd, wrth gwrs - i ddathlu mam Dewi Sant. Mae unrhyw un sy’n rhannu enw Sant, neu fam i sant, yn haeddu eu dathlu, ac mae digonedd o dafarndai hen a hynod a thafarndai cymunedol yng Nghymru i ddewis ohonynt. Be gymri di Dewi? Peint o gwrw melyn Glyndŵr, Cwrw Llyn? Cwrw tywyll Monty’s? Neu cwrw di-alcohol Drop Bear Beer? A beth am Non - wisgi Penderyn neu Jin Treganna? Gwin Cymreig o Winllan Llaethliw i Dafydd? Peint o ddŵr byddai'r Dewi gwreiddiol wedi’i ddewis mae’n debyg. Iechyd da!
#7 Iawn blodyn?
7Be well i roi i rywun ar ein diwrnod cenedlaethol nag ein blodyn cenedlaethol? Gwobr aur am ddewis y cennin Pedr.
Tua diwedd yr 19eg ganrif cafodd y genhinen gyffredin ei uwchraddio am symbol cenedlaethol mwy crand. Roedd David Lloyd George yn ei ffafrio, a gan ei bod yn ymddangos yn gynnar yn y gwanwyn fel symbol o optimistiaeth natur daeth yn ddewis naturiol i nodi Mawrth y 1af.
#8 Gwisga'n Gymreig
8Côt garthen, sannau llachar - dewisia wisg sy’n haeddu Sash Huw Fash.
O sannau carthen Mabli Knitts i siwmperi hapus Y Lein - mae na eitem Gymreig i liwio pob cwpwrdd. I’r fenyw Gymraeg fodern beth am gyfnewid het am fand gwallt carthen Alis Knitts a Mythsntits? Neu i’r rhai bychain, mae siwmperi Clyd neu ddillad hwyiog llawn lliw Silibili.
#9 Dawnsia
9'Dawnsia' i Fleur de Lys, 'Neidia' i Gwilym, neu cer am 'Bwgi' i Bando - tro y miwsig i fyny a dawnsia nerth dy draed! Dewisia diwn Gymraeg i'w dathlu o restrau chwarae miwsig, neu cadwa lygad ar restr chwarae PYST yn dy glust am y tiwns diweddaraf.
#10 Bwyta gaws
10Mae ein cariad at gaws yma yng Nghymru yn dod yn syth o’r top - mae’r Prif Weinidog wrth ei fodd â Chaws Caerffili ac mae llawer o gawsiau Cymreig anhygoel i chi roi cynnig arnynt. Cei rai syniadau yng nghanllaw caws perchennog Pantri Penylan Caerdydd.
#11 Planna goeden
11Cer yn ôl at dy goed trwy blannu hedyn i’r dyfodol - un coeden fychan ar y tro, byddwn yn gwneud Cymru, a’r byd, yn le gwell.
Fel un gyda natur, mae coed yn dda i’r enaid. Y nod ydi creu un Coedwig Genedlaethol i Gymru sy’n cysylltu coedtiroedd Cymru fel un carthen werdd fawr ar draws y wlad. Gwirfoddola hefo Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd rhan.
#12 Rhanna bice bychain
12Picau ar y maen, pice bach, cacennau cri, teisennau gradell - beth bynnag fyddi di’n eu galw, maen nhw’n dda. Gwna rai i’w rhannu.
Mae coginio ar badell neu radell wedi bod yn arfer cyffredin yng Nghymru ers canrifoedd. Y grefft i greu cacen gri dda yw eu coginio'n gyflym ar y ddwy ochr fel eu bod yn aros yn feddal yn y canol, ond cymera ofal i beidio â'u llosgi! Dilyna rysáit draddodiadol, neu mwynha gacen blas caws a chennin Mamgu Welshcakes, siocled oren Fabulous Welshcakes neu jam a hufen Bakestones.
#13 Cipia gastell
13Mae mwy o gestyll i bob milltir sgwâr yng Nghymru nag yn unman arall yn y byd. Crwydra un o’r 600.
Mae llawer yn gestyll cynhenid Cymreig, a adeiladwyd gan deuluoedd brenhinol y Cymry, a hynny mewn llefydd hardd iawn yn aml. Dyma 12 o gestyll brodorol a Normanaidd i ysbrydoli.
#14 Gwisga het Gymreig
14Mae’r het Gymreig yn gwneud come-back. Mae’r embaras o orfod gwisgo gwisg Gymreig i’r ysgol ar ddydd Gŵyl Dewi yn hen hanes. Mae’r het eiconig yn eicon ffasiwn diolch i ddychymyg artistiad fel Meinir Mathias a Seren Morgan Jones. Neu beth am wisgo fersiwn fodern o’r het Gymreig - het Mistar Urdd neu'r het fwced!
#15 Gwlad, Gwlad!
15Cana nerth dy ben. Wedi’r cwbl, ni yw gwlad y gân! Cana’r anthem mewn lle anarferol - pwyntiau bonws am ddysgu’r ail a thrydydd pennill. Neu beth am ddysgu fersiwn BSL o’r anthem? Arwydda gydag angerdd.
#16 Bwyta genhinen
16Ar ôl gwisgo dy genhinen hefo balchder, i fod hyd yn oed mwy Cymreig - beth am fwyta dy genhinen ar ddiwedd y dydd! Mewn cawl cennin traddodiadol, caws cennin Cenarth neu cheddar aeddfed Dragon gyda chracers cennin Cradoc’s … heb angofio selsig cig moch a chennin arbennig Edwards o Gonwy neu Myrddin Heritage, a’r Selsig Morgannwg llysieuol - mae digonedd o ffyrdd i chi fwynhau eich cennin.
#17 Gwranda
17Dathla’r miwsig a rho Cân Pethau Bychain, Mei Gwynedd neu Pethau Bychain Dewi Sant, Bob Delyn ymlaen!
Neu beth am fynd i gig mewn un o leoliadau miwsig annibynnol Cymru, neu fynd i un o’r nifer o wyliau Cymraeg sy’n cael eu cynnal dros yr haf?
#18 Bwytewch a mwynhewch
18Mae’r ffaith bod cymaint o’r cwmnïau bellach yn cynnig cyfleustra gwasanaeth arlein, yn ei gwneud hi'n hawdd cefnogi a dathlu cynnyrch gorau Cymru. Llenwa dy restr gwledda hefo cynnyrch Cymreig o dy farchnad leol, neu galli grwydro rhesi ar resi o ddewis o’r ‘archfarchnad’ ddigidol ragorol, Blas ar Fwyd.
#19 Mwynha'r Mabinogi
19Llên gwerin a chwedlau chwyrn, mae’r Cymry’n caru stori dda. Beth am bori un o’r llyfrau sydd wedi bod yn hel llwch ar dy silff? Neu, chwilia silffoedd dy siop lyfrau leol.
Os mae dysgu trwy chwarae sy’n gweithio i ti, tria gêm Cardiau Brwydro y Mabinogi gan Huw Aaron. Neu beth am ymweld â deg lle yng Nghymru sydd â chysylltiad llenyddol.
#20 Cer hanner-hanner
20Hanner reis, hanner sglodion - bwytwch gyri y ffordd Gymreig.
Gormod o garbs? Paid â phoeni, mae digon o ddewis bwyd a diod ar y fwydlen Gymreig.
#21 Bara Lawr
21Cafiâr y Cymro yn ôl Richard Burton - sy’n swnio’n well na gwymon wedi ei ferwi! Archeba o The Pembrokeshire Beach Food Company neu Blas ar Fwyd a mwynha gyda chig moch hallt neu wyau wedi’u sgramblo.
#22 Rheda dros Gymru
22Beth am greu draig ar Strava? Neu alli di redeg siâp Cymru neu genhinen? Bydda’n greadigol!
Dyma hoff lwybrau 5 cilomedr yr anturiaethwraig Lowri Morgan i roi ysbrydoliaeth.
#23 Tria Tippit
23Byddi di angen pum ffrind, ceiniog a bwrdd ar gyfer y gêm dafarn hynafol hon. Mae’r Americanwyr yn ei adnabod fel ‘Up Jenkins’ - cyfenw sy’n gyffredin iawn yng Nghymru. Bydd dau dîm o dri yn wynebu ei gilydd hefo’u dwylo o dan y bwrdd, a un geiniog i bob tri par o ddwylo. Bydd y tîm buddugol yn dod o hyd i’r llaw mae’r geiniog yn cuddio ynddi.
#24 Câr dy gymydog!
24Shwmae? Su'mai? Tyd i adnabod dy gymydog. Sgwrsiwch dros y ffens, neu galwa draw gyda mynydd o gacennau cri.
#25 Prynu'n Lleol
25Cefnoga’r busnesau bychain sydd wrth galon y gymuned. Beth am addo prynu’n lleol gan fusnesau annibynnol o Gymru? Dyma rai syniadau gan Alis Knits o gwmnïau celf a chrefft i’ch rhestr siopa.
#26 Dip Dydd Dewi
26Does dim prinder o ddewis moroedd trawiadol yng Nghymru. Neidiwch i’r dyfroedd ac ewch i nofio ar doriad gwawr wrth ddeffro’r gwanwyn a’r synhwyrau.
Ymunwch â chlwb lleol fel y Dawn Stalkers ym Mhenarth neu The Bluetits yn Aberystwyth. Cofiwch ddilyn y canllawiau diogelwch priodol wrth nofio mewn dŵr agored.
#27 Gwisga dy gi
27Neu Cymreigia dy gath. Pam dylwn ni gadw’r hwyl i ni ein huain ar Ddydd Gŵyl Dewi?
#28 Coctel Cymreig
28Gwna ddiod ar thema Gymreig. ‘Martini cennin’ neu ‘Mimosa Porth Madryn’? Beth am wydr o ‘Jin-i Mê’ yn defnyddio jin Aber Falls? Coctel ‘Y Wal Goch’ hefo whisgy Penderyn? Neu goctel rum ‘Cist Barti Ddu’? Iechyd da!
#29 Cheers drive!
29Mewn tacsi, ar fws, cwch, trên, awyren neu tuktuk… peidiwch ag anghofio diolch i’r gyrrwr. Rhanna gyfeillgarwch y Cymro ar dy daith.
#30 O 'Steddfod i 'Steddfod
30Eisteddfod gylch, sir, gen; ffermwyr ifanc, bentref a Llangollen… ni’n joio 'Steddfod! Ond uchafbwynt y flwyddyn heb os yw’r Eisteddfod ysgol Gŵyl Ddewi.
Rhanna luniau o’r cystadlaethau di-ri yn dy ysgol, neu beth am gynnal ‘Steddfod ddwl llawn jôcs, cân actol a chystadleuaeth dalent?
#31 Cennin Pedr
31Ein blodyn cenedlaethol ar ei newydd wedd. Mae degau o wahanol fathau o gennin Pedr - trefna gasgliad o dy hoff rai i roi i rywun arbennig, neu dilyna gyrsiau digidol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar sut i ddarlunio a phaentio cennin Pedr, cennin Pedr Cylchog a chennin Pedr y Beirdd.
#32 Cwtsh mewn carthen
32Rho dy fabi mewn Siol Fagu. Ymhell cyn dyddiau’r BabyBjörn a’r sling roedd y Cymry yn nyrsio babis mewn blancedi gwlân Cymreig.
#33 Gwna dy gap
33Rho dy het greadigol ymlaen a diddana’r rhai bychain hefo sesiwn grefft o gartref i greu Het Gymreig draddodiadol ar gyfer eu hoff degan.
#34 Clocsia
34Dim ar gyfer llwyfan yr Eisteddfod yn unig mae clocsio … Rho dy ‘sgidiau pren ymlaen a dangosa dy dalent. Bydd clocsiwr medrus yn gallu creu rhythmau di-ri yn defnyddio gwahanol rannau o’r droed. Os wyt ti’n meddwl dy fod yn glocsiwr o fri cer amdani a chymra sialens y gannwyll, ysgub neu hances, neu heria ffrind i dy wynebu.
#35 Dydd Gŵyl Dewi Hapus
35Gwna i rywun wenu trwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i gymydog, ffrind, teulu neu rhywun randym ar y stryd!
#36 Rhodd bychan
36Gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr. Beth am ddilyn esiampl Caeredigrwydd FOR Cardiff a rhoi i elusen leol sy’n agos at dy galon.
Gwranda ar cerddoriaeth Cymreig
37O alawon traddodiadol i artistiaid Cymreig cyfoes, mae cerddoriaeth yn ffordd berffaith o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Edrychwch ar ein rhestr chwarae Spotify wedi’i churadu, yn llawn o glasuron Cymreig a chânion cyfoes.