Mae Selsig Morgannwg yn selsig lysieuol Gymreig traddodiadol a'r prif gynhwysion yw caws, cennin a briwsion bara. Mae'r rysáit yn defnyddio caws Caerffili yn draddodiadol. Mae sawl fersiwn erbyn hyn yn defnyddio gwahanol berlysiau a sbeisys, a gwahanol fathau o gaws - yn ogystal â fersiwn fegan. 

Cynhwysion

225g Briwsion bara ffres

125g Caws wedi gratio

3 Ŵy canolig

175g Cennin wedi'i falu'n fân a'i ffrio mewn ychydig o fenyn am 2 funud

1 Llond llwy fwrdd o bersli ffres wedi'i dorri

Ychydig o lefrith

Halen a phupur gwyn

½ Llwy de o fwstard sych

I orffen:

100g Briwsion bara ffres

1 Ŵy canolig

4 Llwy fwrdd o lefrith

Dull

Yn gwneud: 16 selsigen | Amser paratoi: 20 munud | Amser coginio: 15 munud

1. Rhowch y briwsion bara, caws, mwstard, cennin, persli, halen a phupur mewn powlen a’i gymysgu'n dda.

2. Curwch yr wyau a'u hychwanegu at y cynhwysion. Cymysgwch y cynhwysion i ffurfio toes cadarn, efallai y bydd angen ychydig o lefrith arnoch chi os yw'r gymysgedd ychydig yn sych. Rhannwch y gymysgedd yn 16 darn, gan greu siâp selsig.

3. Os am haen greisionllyd i’r selsig dilynwch y camau hyn: Curwch yr ŵy ac ychwanegu'r llefrith. Rhowch y briwsion bara ar blât gyda halen a phupur. Cymerwch bob selsigen a'i rolio yn y gymysgedd wyau, yna rholiwch yn y briwsion bara. Bydd angen ail-adrodd nes bod y selsig wedi'u gorchuddio, yna oerwch am awr.

4. Cynheswch badell ffrio, ychwanegwch ychydig o olew, ychwanegwch y selsig ychydig ar y tro a'u coginio dros wres canolig-isel nes eu bod yn euraidd. Dylai'r selsig ffrio yn ysgafn - os yw'r gwres yn rhy uchel byddant yn brownio'n rhy gyflym a ni fyddant yn coginio drwodd.

Selsig Morgannwg yn ffrio mewn padell

Selsig Morgannwg yn ffrio yn y badell 

Straeon cysylltiedig