Cestyll Gorau Cymru
Mae cestyll Biwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech, ynghyd â’r muriau o amgylch trefi Conwy a Chaernarfon, wedi’u dynodi gyda’i gilydd yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Ni fu’r Cymry erioed yn gymdogion tawel i’r Saeson, ac i gadw trefn ar ein gwrthryfelwyr comisiynodd y brenin Edward I y pensaer milwrol blaengar James of St George i godi’r cestyll hyn. Mewn dim ond ugain mlynedd adeiladwyd deg caer, a atgyweiriwyd rhai eraill hefyd.
Wyth canrif ers eu hadeiladu, mae’r gwaith cadwraeth a’r digwyddiadau a gynhelir ynddynt yn creu atyniadau gwerth chweil i ymwelwyr, yn hytrach na goresgynwyr.
Castell Harlech
Adeiladodd Edward Gastell Harlech i gadw golwg ar y bryniau. Yn sefyll yn uchel ar y graig uwchlaw’r môr, mae’r golygfeydd o’r castell yn anhygoel.



Castell Conwy
Mae Castell Conwy yn gaer frenhinol go iawn, gyda dau borth caerog, wyth tŵr anferth, neuadd fawr, ystafelloedd preifat, cegin fendigedig a chreigiau amddiffynnol o’i chwmpas.


Roedd dyluniad y cestyll yn chwyldroadol ar y pryd, ac mae’r strwythurau ysblennydd yr un mor fawreddog hyd heddiw.
Castell Caernarfon
Tra bo Castell Biwmares yn sefyll yng nghanol caeau glas, adeiladodd y Normaniaid Gastell Caernarfon ar fwnt wrth lannau Afon Seiont. Efallai fod hwn yn un o’r cestyll crandiaf yn y byd, gyda’r meini cydweddol a’r tyrrau amlochrog yn ddigon o ryfeddod. Yma hefyd y ganwyd y Sais cyntaf i’w alw’n Dywysog Cymru ym 1284, a bron saith can mlynedd yn ddiweddarach, daeth Tywysog Siarl yntau i Gastell Caernarfon am ei arwisgiad.

Castell Biwmares
Ni lwyddodd Edward i gwblhau Castell Biwmares gyda’r Albanwyr ar ei warthaf. Mae’n ddigon o ryfeddod serch hynny, gyda gerddi godidog, tyrrau mawr a’r muriau enwog ar ffurf gonsentrig, cymesur.

Trefi caerog
Roedd Caernarfon a Chonwy yn drefi caerog gyda phorthdai mawreddog a thyrrau amddiffynnol lle gallai’r Saeson alw ynghyd warchodlu o filwyr pe byddai’n rhaid sathru ar y gwrthryfelwyr.
Mae’r dyddiau hynny’n hen hanes bellach, a gyda threigl amser mae’r cestyll wedi newid o fod yn fynegiant o rym milwrol y Saeson i lefydd sy’n cynrychioli balchder y Cymry. Maent yn fannau delfrydol am ddiwrnod i’r brenin.