Un o'r nifer o bethau da am redeg fy nheithiau Loving Welsh Food, yw gweld yr ymateb gwych a gawn gan westeion pan fyddant yn blasu ein bwyd a diod gwych o Gymru. Mae gan bob gwestai eu ffefrynnau ac mae caws o Gymru bob amser ymhlith yr uchafbwyntiau.

Beth sy'n gwneud caws o Gymru mor dda?

Mae bwyd gwlad yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, a daearyddiaeth yw'r pwysicaf. Mae gennym ni hinsawdd gymedrol iawn, sy’n rhoi glaswellt gwyrdd hyfryd inni, sy’n ddelfrydol ar gyfer ein cawsiau, yn ogystal â’n cynnyrch llaeth, cig oen a chig eidion. 

Mae Cymru wedi'i hamgylchynu gan fôr ar dair ochr, gyda llu o fynyddoedd wedi'u rhannu gan afonydd mewndirol. Mae’r ucheldiroedd garw yn aml yn fwy addas ar gyfer buchesi sy’n pori na thyfu cnydau, ac mae hyn wedi arwain at amlygrwydd llaeth a chig yn neiet Cymru.

Mae gennym ni dros 100 o wahanol fathau o gawsiau yng Nghymru felly mae digon o ddewis.

Y gorau o Gymru wedi'u dewis gan westeion Loving Welsh Food

Black Bomber – Snowdonia Cheese Company

Black Bomber yw’r caws cyntaf a wnaed gan Snowdonia Cheese Company pan ddechreuodd y cwmni yn 2001. Mae'n gaws aeddfed iawn ac yn berffaith ar gyfer bwrdd caws, mewn brechdanau neu fel appetiser gyda'ch aperitifs. Mae hefyd yn gaws gwych i'w ddefnyddio yn ein rysáit traddodiadol, Rarebit Cymreig. Mae'r caws â gwead llyfn a llaith hwn yn hynod boblogaidd ac mae wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys Medal Arian 2010 yn Sioe Gaws Ryngwladol Nantwich ac enillydd Gwobr Efydd Caws y Byd 2007. Mae’r cwmni wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru yng nghanol harddwch garw Eryri a dim ond y llaeth a’r cynhwysion gorau sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu dewis arbennig o gawsiau.

Perl Wen – Caws Cenarth

Mae dyffryn hardd afon Cych yn gartref i Gaws Cenarth, un o wneuthurwyr caws enwocaf Cymru. Wedi'i sefydlu gan Gwynfor a Thelma Adams ym 1987, mae'r busnes yn seiliedig ar draddodiad teuluol chwe chenhedlaeth o wneud caws.

Perl Wen yw un o gawsiau meddal mwyaf poblogaidd Cymru ac mae'n groes unigryw rhwng Brie traddodiadol a Chaws Caerffili. Mae Caws Cenarth yn defnyddio eu rysáit ffermdy Caerffili fel man cychwyn ar gyfer Perl Wen sy’n rhoi blas sitrws ffres i’w ganol meddal gydag ychydig o halen môr.

Wrth i'r Perl Wen aeddfedu mae'r caws o dan y croen gwyn yn dod yn hufennog ac fel menyn o ran gwead. Mae'n berffaith mewn brechdan, ar gracer a gydag ychydig o'ch hoff siytni. Mae'n anodd peidio â bwyta'r cyfan pan fydd ar fwrdd caws.

Caws hufennog gwyn

Y caws Perl Wen hufennog 

Perl Las - Caws Cenarth

Mae'r caws glas hwn, sy'n chwaer i Perl Wen, yn gaws glas bendigedig, euraidd ei liw, gyda blas hufennog, ychydig yn hallt sy'n tyfu'n gryfach gydag aeddfedrwydd. Mae'r caws gwythiennau glas hwn yn wahanol i'r rhan fwyaf o gawsiau glas Prydain. Yn gyntaf cewch flas hufennog cyfoethog wedi'i ddilyn gan ychydig o halltedd ac yna'r blas glas ysgafn sy'n parhau.

Wedi'i weini ar dymheredd ystafell mae Perl Las yn rhan hanfodol o unrhyw fwrdd caws. Mae'n hyfryd wedi'i doddi ar stêc, neu mewn saws. Ychwanegwch at salad hefyd – cymerwch ychydig o ddail gwyrdd, tomato, cnau Ffrengig a Pherl Las – a gweinwch gyda dresin salad ysgafn.

Caws gwythïen las

Caws glas gwych Perl Las

Caws o Gymru yng Nghaerdydd

Wally’s Delicatessen – Yr Arcêd Frenhinol. 38-42 Arcêd Frenhinol, Caerdydd CF10 1AE

Mae Wallys' Delicatessen yn sefydliad adnabyddus yng Nghaerdydd ac yn cael ei redeg gan y drydedd genhedlaeth o'r teulu Salamon. Mae’n siop anhygoel, yn debyg iawn i ogof Aladdin, yn llawn bwyd o bob rhan o’r byd gan gynnwys, wrth gwrs, dewis eang o fwyd a diod o Gymru. Mae'r adran gaws yn arbennig gyda dros 32 o wahanol fathau o gawsiau o Gymru.

 

Tŷ Caws, ym Marchnad Glan yr Afon, Glan y Taf

Mae Tŷ Caws, ym Marchnad Glan yr Afon yn lle gwych i flasu rhai cawsiau o Gymru. Mae Marchnad Glan yr Afon, ar agor bob dydd Sul 10am – 2pm, yn gyfle i arddangos rhai o gynhyrchwyr bwyd gorau Cymru ac yn dilyn glan Afon Taf, gyferbyn â Stadiwm Principality, lleoliad perffaith ar gyfer marchnad fwyd leol go iawn.

Bwrdd caws gyda chwech caws wahanol
Dyn yn dal olwyn anferth o gaws

Detholiad o gaws Tŷ Caws a’r perchennog a’r sylfaenydd, Owen

Mae gan Owen, perchennog a sylfaenydd Tŷ Caws, gefndir caws hynod drawiadol:

'Rwyf wrth fy modd yn gwerthu caws o safon i'm cwsmeriaid hyfryd. Rwyf wedi bod yn ffodus i feirniadu cawsiau yng Ngwobrau Caws Prydain; Gwobrau Caws Artisan; sawl cystadleuaeth caws arall; ac rwy'n arweinydd tîm yng Ngwobrau Caws y Byd ac yn aelod o'r Academi Caws.'

Culley’s Kitchen & Bar, Gwesty’r Gyfnewidfa Lo

Culley’s Kitchen & Bar yng Ngwesty’r Gyfnewidfa Lo yw un o'r adeiladau harddaf a mwyaf hanesyddol yng Nghaerdydd, ac mae llawer o nodweddion gwreiddiol y Gyfnewidfa Lo yn dal i fodoli yn Culley's. Mae'r fwydlen yn cynnig bwyd a diod o Gymru ac yn cynnwys amrywiaeth o ryseitiau o Gymru.

Mae angen i bawb sy'n hoff o gaws roi cynnig ar y bwrdd caws - mae'n flasus iawn ac yn ffordd wych o flasu amrywiaeth o gawsiau o Gymru.

Detholiad o gaws gyda grawnwin, seleri a chracers ar fwrdd pren.
Golygfa allanol o Westy'r Gyfnewidfa Lo yn erbyn awyr las.

Y bwrdd caws o Culley's Kitchen and Bar yng Ngwesty'r Gyfnewidfa Lo

Siop The Welsh Cheese Company, Ffynnon Taf

Sefydlwyd The Welsh Cheese Company yn 2017, gan werthu i gwsmeriaid trwy eu gwefan yn unig i ddechrau ac yna hefyd i gwsmeriaid cyfanwerthu. Mae agor siop go iawn cyntaf y cwmni yn ddatblygiad cyffrous, a leolir ychydig funudau oddi ar gyffordd yr M4/A470 i'r gogledd o Gaerdydd, o fewn cyrraedd hawdd i'r rhan fwyaf o Dde Cymru.

Gyda dros 70 o fathau mewn stoc, wedi’u cynhyrchu gan wneuthurwyr caws annibynnol ledled Cymru, nod y siop yw arddangos eich hoff gawsiau o Gymru gan eich cyflwyno i’r cawsiau newydd mwyaf cyffrous sydd gan y wlad i’w cynnig hefyd.

Caws o Gymru yng Ngorllewin, De a Gogledd Cymru

Caws Teifi, Ceredigion

Ym 1981, daeth cyd-sylfaenwyr Caws Teifi, John, Patrice a Paula, i Gymru o'u gwlad enedigol yn yr Iseldiroedd gyda breuddwyd i sefydlu canolfan ar gyfer dysgu ffermio organig a hunangynhaliaeth. Fe brynon nhw Fferm Glynhynod a mynd ati i wireddu eu gweledigaeth trwy wneud caws llaeth amrwd bendigedig. Gallwch ymweld â siop y fferm i brynu eu cawsiau ochr yn ochr â chynnyrch lleol arall sydd wedi’i wneud â llaw.

Silffoedd wedi'u llenwi â chosynnau caws melyn.
Person yn gwneud y caws yn y gegin.
Ffenestr wydr lliw.

Caws Teifi, Ceredigion

Caws Organig Fferm Caerfai, Sir Benfro

Mae Fferm Caerfai yn daith gerdded hawdd o Dyddewi, y ddinas leiaf yn y DU ac mae cawsiau organig y fferm yn adnabyddus ledled yr ardal am eu hansawdd a'u blas eithriadol.

Gallwch brynu’r caws yn siop Fferm Caerfai yn ystod yr haf. Os yw Linda, sy'n gwneud y caws, o gwmpas mae croeso i chi alw heibio i gael golwg ar yr ardal gwneud caws a chael sgwrs.

Caws Rhyd y Delyn, Ynys Môn

Mae Caws Rhyd y Delyn ar Ynys Môn yn gwneud caws crefftus arobryn gan ddefnyddio llaeth hufennog o Holstein Friesian pedigri’r fferm. Dim ond 30 metr y mae’r llaeth yn ei deithio i laethdy bach modern y fferm lle mae’r caws yn cael ei greu.

Gellir prynu caws Rhyd y Delyn oddi wrth y teulu yn Canna Deli yng Nghaerdydd.

Teithiau Loving Welsh Food

Ewch i wefan Loving Welsh Food am ragor o wybodaeth am ein teithiau a digwyddiadau Loving Welsh Food.

Detholiad o gawsiau ar fwrdd pren.

Straeon cysylltiedig

Rarebit Cymreig

Rysáit Rarebit Cymreig

Pryd wedi'i wneud â chaws Cymreig, mwstard a chwrw lleol. Roedd y pryd yn cael ei galw’n ‘caws wedi’i rostio’ yn y canol oesoedd ac mae’n defnyddio caws wedi’i gratio wedi’i gymysgu â llefrith neu gwrw a mwstard i’w roi ar dost neu datws trwy’u crwyn.

Cawl gyda bara.

Rysáit Cawl Cymreig 

Cawl neu Lobsgows? Beth bynnag rydych yn ei alw, mae pawb yn cytuno ei fod yn well y diwrnod ar ôl ei baratoi pan fydd yr holl flas wedi datblygu. Mae'n fendigedig gyda thalp o fara cartref a chaws Cymreig.