Dyma hoff lwybrau 5 cilomedr yr anturiaethwraig ac athletwraig Lowri Morgan. Yn ogystal â rhedeg marathonau eithafol mae Lowri wedi cynrychioli Cymru mewn rygbi, athletau a thraws gwlad. Mae hefyd yn gyflwynydd teledu sydd wedi ennill gwobr BAFTA ac wedi rhyddhau llyfr am ei hanturiaethau, Beyond Limits.

Cwm Elan

Gyda golygfeydd godidog a thoreth o fywyd gwyllt, mae Cwm Elan yn un o drysorau canolbarth Cymru, ac nid oes ffordd well i ddod i’w adnabod nac ar droed. Cefais yr anrhydedd o rasio drwy’r Cwm unwaith, ac roedd y golygfeydd yn ddigon o ysbrydoliaeth i roi hwb ychwanegol i mi. Gan ddilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham am y rhan fwyaf o’r daith, mae Llwybr Cwm Elan yn gyfle i redwyr weld y rhan hardd hon o’r wlad ar ei gorau tra’n cadw’n iach.

Mae’r llwybr rwyf wedi ei ddewis yn dechrau a gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Gyda’r cwrs ar lwybr caled, mae’n llwybr hyfryd i redwyr o bob safon. Parciwch yn y Ganolfan Ymwelwyr a gwnewch eich ffordd tuag at Lwybr Cwm Elan ac at y ddringfa raddol at ben gorllewinol Cronfa Ddŵr Carreg Ddu. Wrth i chi gyrraedd yma, cewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd trawiadol o’r cymoedd cyfagos a phedair cronfa ddŵr yr ardal. Mae’r daith yn dod i ben wrth faes parcio Cronfa Ddŵr Pen y Garreg. Os yw’r ysfa yno i barhau, gallwch gario ’mlaen at Argae Craig Goch am 2 gilomedr arall, i gwblhau bron i 5 milltir.

 Argae yn dal yr afon yn ôl wedi'i fframio mewn coed yn troi lliw yn yr hydref.
Ffordd yn rhedeg ar draws cronfa ddŵr

Cwm Elan

Llyn Brenig

Mae dewis da o lwybrau rhedeg a cherdded yn Llyn Brenig, ac mae pob un yn cynnig golygfeydd bendigedig. Mae'r llwybr hwn (5 cilometr o hyd) yn uchel ar Rostiroedd Dinbych ac yn pasio Cronfa Ddŵr Llyn Brenig. Mae’r cwrs yma yn cynnwys amrywiaeth o wahanol diroedd gan gynnwys llwybrau rhostir, rhannau coetir a thraciau baw. O’r maes parcio, rhaid croesi argae Brenig cyn troi i’r dde a thraws gwlad i lawr tuag at Goedwig Clocaenog. Yno, dilynwch lwybrau’r goedwig sy’n mynd â chi i’r chwith ac yn ôl at y llyn drwy’r goedwig. Daw’r llwybr yma â chi at ymyl y llyn sydd wedyn yn eich arwain yn ôl at yr argae, a nôl i’r man cychwyn.

Mynyddoedd Du

Rwy’n hoff iawn o redeg mynyddoedd – y teimlad o fod law yn llaw â byd natur, a’r teimlad arbennig o gyrraedd y copa, yn enwedig wedi dringfa heriol. Mae’r Bannau yn ffefryn mawr, ond pan mae’r llwybrau’n brysur, rwy’n gwneud fy ffordd tuag at lwybrau tawelach Llyn y Fan Fawr a Llyn y Fan Fach. Ymhellach draw i’r Dwyrain, ac yr un mor drawiadol, mae’r Mynyddoedd Du yn Sir Fynwy.

Wedi'i leoli ger y Fenni, mae'r cylchdro hwn ar lwybrau sy’n cael eu cynnal a'u cadw ac yn hawdd eu dilyn, ac yn mynd â chi o amgylch a thros Ysgyryd Fawr (The Skirrid). Mae’n llwybr cymedrol o anodd, ac yn gwrs llawn blodau gwyllt a choedwigoedd hardd. Ar ôl gadael y goedwig, mae’r llwybr yn agor i ddatgelu llwyni grug gyda golygfeydd ysbrydoledig. Mae ’na lethr serth, byr ar y ffordd i fyny sy’n dringo i 318 metr, ond mae’n lefelu wrth i chi gyrraedd y brig. Mae'r ffordd hon yn golygu bod gennych daith ysgafn i lawr y grib nôl tuag at y maes parcio. Ar ddiwrnod clir, mae yn bosib gweld y Mynyddoedd Du, Bannau Brycheiniog a'r ffiniau cyfagos yn eu holl ogoniant.

 Dynes yn sefyll ar y traeth gyda chreigiau a'r môr y tu ôl iddi
Dynes yn sefyll o flaen ffens gyda chamfa bren

Lowri Morgan

Aberdâr

45 munud yn y car o Gaerdydd mae Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr. Dyma i chi barc bendigedig, a adeiladwyd ar safle hen bwll glo, sy’n cwmpasu 500 erw o goetir, mynyddoedd a llynnoedd. Mae ymweld â’r parc yn rhad ac am ddim, gyda’r parcio am ddim hefyd. Unwaith i chi gyrraedd, mae cymaint o lwybrau i’w dilyn – fe allech chi dreulio'r diwrnod yn rhedeg yma (fe wnes i, am 12 awr mewn ras!). Mae ‘na lynnoedd, cyfle i chi ryfeddu at raeadrau a rhedeg i fyny at blatfform i wylio barcutiaid coch. Os ydych chi am redeg y llwybrau sydd wedi’u marcio, mae 3 o amgylch y parc gwledig sy’n wahanol o ran hyd a gallu. Yn 3.5 cilometr o hyd, mae'r Llwybr Bwlfa yn mynd â chi ar arwyneb gwastad, heibio nant a thrwy goetir i fyny at y llyn. Os hoffech chi ymestyn y pellter, mae modd rhedeg o gwmpas y llyn cyn ail ymuno â’r llwybr ac yna yn ôl at y ganolfan. Ar ôl gorffen rhedeg g allwch wobrwyo’ch hunain gyda phryd o fwyd yn y ganolfan ymwelwyr. Mae yna safle gwersylla poblogaidd hefyd, os ydych am aros dros nos i gael cyfle i fwynhau mwy o antur o gwmpas yr ardal.

 Dynes yn gwisgo top coch a siorts glas yn rhedeg ar draws clogwyn glaswelltog

Lowri Morgan

Ffordd y Gogarth

Mae rhedeg o gwmpas Pen y Gogarth yn cwmpasu popeth sy’n hyfryd am loncian ar hyd ffordd, mewn awyrgylch wledig ac ar hyd yr arfordir. Mae'r golygfeydd yn syfrdanol ac mae'r cyfuniad o'r ffordd droellog a chyflym yn golygu nad ydw i byth yn diflasu rhedeg yma. Weithiau rwy’n dewis rhedeg o un dollborth i’r llall, sy’n 4 milltir o hyd, ond fe allwch chi hefyd redeg mas a nôl ar yr un cwrs. Dyw’r ffordd yma o ddim yn undonog o gwbl gan eich bod yn gallu mwynhau golygfeydd newydd i’ch ysbrydoli ar y ffordd nôl – Bae Lerpwl, y Carneddau ac Ynys Môn i enwi ond rhai. Mae yna lwybr arall yn uwch na’r ffordd sy’n eich galluogi i ymestyn y pellter os dymunwch.

Golygfa o Landudno o'r Gogarth

Golygfa o'r Gogarth

Traeth Llanddwyn

Rwyf wedi cael y pleser o ohebu ar rasys a rhedeg o amgylch Ynys Môn ambell waith. Mae’r ynys wedi ei bendithio â golygfeydd anhygoel, ac un o fy hoff lefydd i redeg yw drwy goedwig ac ar draeth anhygoel, byd-enwog Llanddwyn. Mae’r golygfeydd syfrdanol yn ddigon o ysbrydoliaeth i gynnal eich egni. Mae'r llwybr yn cychwyn ac yn gorffen yn y maes parcio wrth ymyl y traeth. Mae cymaint o wahanol draciau a llwybrau i'w dilyn ac mae rhedeg yma yn teimlo’n fwy o antur nac o waith. Mae yna gwrs sy’n gylchdro 5 cilometr o hyd sy’n mynd â chi o’r maes parcio ar lwybr tuag at ynys syfrdanol Llanddwyn. Yna bydd y cwrs yn mynd â chi ar lwybr o laswellt a ffyrdd tân cyn troi i mewn i goedwigaeth y parc. Dilynwch y cwrs wrth iddo ddod â chi nôl mewn cylch at y prif faes parcio.

Traeth gydag oleudy

Ynys Llanddwyn

Gŵyr 

Fel merch o’r ardal, byddai’n amhosib i mi beidio sôn am redeg ar Benrhyn Gŵyr. Mae ’na ddewis anferthol o lwybrau rhedeg, yn enwedig ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru. Mae llwybr Dyffryn Clun yn boblogaidd (yn enwedig gan ei fod yn llwybr cyflym, ac felly yn ddewis da os ydych chi’n anelu am amser cyflym). Os ry’ch chi’n chwilio am olygfeydd dramatig mae llwybr Bae Caswell i’r Mwmbwls yn syfrdanol. Maes parcio Bae Caswell yw’r man cychwyn, ac mae’r llwybr yn bachu y tu ôl i'r caffi a'r siop hufen iâ. O'r fan hon, dim ond mater o ddilyn y llwybr drwodd i Fae Langland gyda'i gytiau traeth, a rownd i Fae Bracelet sydd angen ei wneud. O Fae Bracelet, rydych chi'n disgyn i lawr i orffen ar Bier y Mwmbwls. I ymestyn y coesau ar ôl rhedeg, fe allech chi barhau i ymlwybro ar hyd y Marina tra’n mwynhau hufen iâ enwog yr ardal. Fe redais i ar y llwybr yma wrth i mi geisio cryfhau wedi anaf difrifol i ’nghoes, ac roedd y cwrs yn berffaith ar gyfer ail-arfer gyda rhedeg eto   

Beiciwr a cherddwyr ar lwybr yr arfordir gyda'r Mwmbwls yn y cefndir

Lwybr Arfordir Cymru, Bae Abertawe

Coed y Brenin

Pan fyddaf yn teithio i fyny i ogledd Cymru, byddaf yn aml yn stopio yng Nghoed y Brenin i ystwytho’r coesau ac i fanteisio ar y llwybrau gwych sydd ar gael yma. Pan yn cyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr, fe gewch chi amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer rhedeg llwybrau – o gwrs 2.7 milltir o hyd i hanner marathon heriol 13.5 milltir. Mae’r llwybrau rhedeg yma yn ddelfrydol ar gyfer rhedwyr newydd a rhedwyr mwy profiadol sydd am wella eu sgiliau. Mae’r cwrs 5 cilometr Sarn Helen (byr), yn rhediad cymedrol, sy’n dringo 97m. Gyda golygfeydd panoramig o fynyddoedd de Eryri, rhaeadrau, afonydd a choedwigoedd derw yn gwmni i chi, chewch chi ddim eich siomi. Dringwch tan i chi gyrraedd crib Cefndeuddwr, lle byddwch chi'n cwrdd â llwybr Sarn Helen – ffordd Rufeinig hynafol, cyn disgyn yn ôl i'r ganolfan ymwelwyr. Mae'n lle hyfryd a thawel i redeg, gyda digon o olygfeydd amrywiol, sy’n gwneud y cwrs yma yn un o fy ffefrynnau. 

Castell Coch– Caerdydd

Mae llwybrau rhedeg Taith Taf a pharciau Bute, caeau Llandaf a Phontcanna yn hynod boblogaidd gyda thrigolion y brifddinas. Os ydych chi’n rhedeg yn y tywyllwch dros y Gaeaf, mae rhedeg o gwmpas y Bae a Pharc y Rhath yn ddewis da gan fod digon o olau stryd. Mae llwybrau eraill, tawelach ychydig filltiroedd tu fas i Gaerdydd – Mynydd y Garth a Sain Ffagan, ar hyd Afon Trelái i enwi rhai. Llwybrau eraill sy’n werth mentro arnynt ar gyrion y brif ddinas yw rhai Castell Coch. Mae ymwelwyr â Chaerdydd yn aml yn awyddus i ymweld â Chastell Coch yn Nhongwynlais, castell Gothig o'r 19eg ganrif tua 6 milltir i'r gogledd o'r ddinas. Bydd rhedwyr sy'n ymweld â’r ardal yn cael gwledd ar y rhwydwaith o lwybrau graean yma. Mae'r llwybrau yn goediog a thawel, ond yn ddigon llyfn, heb fod yn dechnegol anodd, ac yn addas i bawb.

Man cychwyn y cwrs yma yw wrth y giât goch (sydd ar waelod rhodfa’r castell). Dilynwch Lwybr Syr Henry (sy’n baralel i’r ffordd) i fyny’n raddol at faes parcio'r gogledd. Yno gallwch droi nôl tuag at y castell ar y llwybr baw, cyn troi i’r dde ar hyd Taith y Cerfluniau. Ar ôl y rhedeg, gallwch fynd ar daith o amgylch y castell, cyn stopio am baned o de a chacen yn Ystafelloedd Te ‘Fforest’, sy’n cuddio’n y goedwig.

Dylech sicrhau fod gennych ddillad ac esgidiau addas cyn cychwyn rhedeg bob amser. Mae rhai o'r llwybrau rwyf wedi’u rhestru yn cynnwys traciau traws gwlad, neu llwybrau ar fynyddoedd, a all fod yn anodd, yn arbennig pan fydd y tywydd ac amodau eraill yn wael – felly sicrhewch eich bod yn edrych ar ragolygon y tywydd ymlaen llaw, cofiwch fynd â ffôn symudol gyda chi a sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i rywun cyn cychwyn eich taith, yn rhedeg gydag eraill pan yn bosibl ac yn cymryd pob gofal.

Straeon cysylltiedig