Yr eiconigaf o holl ddanteithion amser te Cymru, mae cacen Gymreig gron, wedi’i llwchio â siwgr, yn cyd-fynd yn berffaith â phaned dda o de – ac yn sicr o oleuo hyd yn oed y dyddiau gaeafol mwyaf llwyd yng Nghymru.

Mae cacennau Cymreig wedi bod yn ffefrynnau ledled Cymru ers o leiaf ddiwedd y 19eg ganrif, pan gânt eu pobi ar radell dros dân agored. Yn draddodiadol, roedd enwau rhanbarthol y teclyn coginio hwn yn rhoi eu henw i’r cacennau bach hyn, gan eu hadnabod fel tishan lechwan neu cacenni cri, cyn iddynt ddod o dan y teitl ehangach cacen cri cymreig – yr enw y cânt eu hadnabod a’u marchnata o dan heddiw.

Er bod cacennau cri cymreig traddodiadol fel arfer yn cynnwys currants neu syltanas, mae fersiynau mwy creadigol yn cynnig cyfuniadau modern megis siocled, sinamon neu groen oren.

Y grefft i greu cacen gri dda yw eu coginio'n gyflym ar y ddwy ochr fel eu bod yn aros yn feddal yn y canol, ond cymera ofal i beidio â'u llosgi! Dilynwch y rysáit draddodiadol isod neu arbrofwch gan ychwanegu siocled, jam neu hyd yn oed caws a chennin.

Yn gwneud: 10-12 | Amser paratoi: 10 munud | Amser coginio: 4-5 munud yr un

Cynhwysion

220g Blawd hunan-godi

55g Siwgr caster

110g margarîn neu fenyn

1-2 llond llaw o syltanas

1-2 ŵy buarth mawr

Dull

  1. Hidlwch y blawd mewn powlen, yna ychwanegwch y margarîn neu fenyn a’u rhwbio gyda’i gilydd yn fân.
  2. Ychwanegwch y siwgr a’r syltanas a’u cymysgu.
  3. Ychwanegwch un ŵy a’u cymysgu  Mae angen i’r gymysgedd lynnu at ei gilydd, felly os yn rhy sych, ychwanegwch ŵy arall.
  4. Ar fwrdd â blawd arno, rholiwch y gymysgedd i oddeutu chwarter modfedd o drwch. 
  5. Gan ddefnyddio torrwr crwn oddeutu 5cm o ddiameter, torrwch yn ddisgiau, yna eu coginio mewn padell wedi ei hiro, neu radell.
  6. Bydd yr union amser coginio yn dibynnu ar beth rydych chi'n coginio'ch cacennau cri arno, ond cadwch lygad – cyfnod rhy fyr ac ni fyddant wedi eu coginio yn y canol, rhy hir a byddant yn sych. Pan fyddant yn cael eu cyffwrdd yn ystod coginio dylent godi yn ôl, ond ni ddylent deimlo’n wlyb (ni ddylai cymysgedd ddod allan o'r canol).
  7. Unwaith eu bod wedi’u coginio,rhowch siwgr mân ar eu pennau a’u mwynhau.

Cacennau Cri

Crëwyd y rysáit hon gan y pobydd Kathryn Gunter. Ganwyd Kathryn yn y Fenni, ac roedd yn rhedeg becws traddodiadol ym marchnad y dref, gan roi profiad cyntaf i ymwelwyr o flasu cacen cri Gymreig – ymhlith danteithion Cymreig eraill.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig