Horse and Jockey, Wrecsam

O’ch cwmpas, mae yna stryd fawr fodern, fyrlymus. Bwytai llachar a’r holl siopau cadwyn cyfarwydd. Ac yno yn eu canol – na, dydy’ch llygaid ddim yn twyllo – tŷ to gwellt rhyfeddol. Yn union fel petai hwnnw wedi glanio yno o’r ail ganrif ar bymtheg. Ond dyna wir oedran yr adeilad hwn sydd wedi bod yn dafarn am ddwy ganrif, o leiaf. Ac mae rhywfaint o’r trawstiau coed gwreiddiol yn dal i’w gweld y tu mewn. Ar ôl y joci Fred Archer (1857-1886) y mae’r Horse and Jockey wedi’i enwi, un o sêr mawr y byd rasio ceffylau. Ond yr un mor enwog ydi George – yr ysbryd. Un tro, mi achubodd hwn lanhawraig wrth iddi ddisgyn oddi ar gadair, a rhoi mwy o fraw iddi na’r cwymp ei hun.

Tafarn hen gyda thô gwellt ar stryd fodern.

The Horse and Jockey, Wrecsam

Llindir Inn, Henllan

Dyma dafarn arall a’i tho gwellt yn dal i sefyll yn falch ar gorun ei phen. Ac fel yr Horse and Jockey, mae’r Llindir Inn yn denu cwsmeriaid o’r byd tu draw. Merch ifanc o’r enw Sylvia, a honno wedi’i chrogi gan ei chariad cenfigennus, sy’n llercian yn yr ystafelloedd y tro hwn. Ond bosib nad ydi hi ar ei phen ei hun, chwaith, a chofio bod hwn yn adeilad sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg. Fel mae enw’r lle’n awgrymu, roedd cnydau llin yn cael eu tyfu’n helaeth yn yr ardal ar un adeg. Mae eglwys drawiadol Sant Sadwrn gerllaw yn ychwanegu at yr awyrgylch hynafol.

Gwesty’r Bull, Llangefni

Roedd y dafarn yma yng nghanol y dref yn arfer gwasanaethu’r goetsh fawr yn oes Fictoria. Mae’r hen stablau a’r coetsiws yn dyst i hynny. Eto i gyd, roedd tafarn hŷn o’r enw Pen-y-bont wedi sefyll yma ymhell cyn y cyfnod hwnnw. Mae sôn bod Mozart wedi galw yno pan ddaeth i Brydain gyda’i dad yn wyth oed. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd y cyfan ei ailgodi gan y Bulkleys – cyfoethogion a oedd yn berchen ar dir ym mhob cwmwd ym Môn ar un adeg. Tri tharw sydd ar arfbais y teulu, a dyna esbonio’r enw newydd, Gwesty'r Bull

Arwydd tafarn a chloc tref.
Tu allan i hen dafarn ac awyr las a chymylau.

Gwesty'r Bull, Llangefni

Ye Olde Bulls Head Inn, Biwmares

O alw yn y dafarn hon heddiw, does dim modd osgoi’r cysylltiad â Charles Dickens. Arhosodd hwnnw yn Ye Olde Bulls Head pan ddaeth i Fôn i gofnodi hanes llongddrylliad y Royal Charter, ac mae’r holl lofftydd wedi’u henwi ar ôl un o’i gymeriadau. Ond mae yna fwy iddi na hynny hefyd. Mae trawstiau’r toeau yma ers 1472, a fan hyn oedd pencadlys y Cadfridog Thomas Mytton a’i lu pan roddwyd gwarchae ar Fiwmares yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Tipyn mwy heddychlon oedd hi ganrif yn ddiweddarach, pan gyfarfu’r Crynwyr yma yn 1733 – un o’r cyfarfodydd cyfreithlon cyntaf o’u math i’w cofnodi ym Môn.

Tu fewn i dafarn hen gyda soffas cyfforddus.
Gwaith celf tapestri o darw ar wal hen dafarn.
Tu allan i dafarn hen wyn gyda awyr las

Ye Olde Bulls Head Inn, Biwmares

Garddfon Inn, Y Felinheli

Mae'r Garddfon yn sefyll mewn llecyn godidog ar lannau’r Fenai. Mae aroglau’r heli yn ein dwyn yn ôl i oes pan fyddai’r darn hwn o ddŵr yn orlawn o longau a chychod yn cludo cargo i’r pedwar ban. Neu ymhellach eto – ddwy fil o flynyddoedd, o bosib – wrth i’r Rhufeinwyr a’r Derwyddon wynebu’i gilydd mewn brwydr waedlyd ar y tir gyferbyn â ni. Adeg goresgyniad Edward I yn 1282, mae sôn i laddfa arall ddigwydd fan hyn, ym mrwydr Moel y Don. Trechwyd y Saeson gan fyddin Llywelyn wedi iddyn nhw gael eu dal gan y llanw, ac mi fyddech chi wedi gallu gwylio’r cyfan drwy’r ffenest wrth lymeitian eich G&T.

Tafarn y Plu, Llanystumdwy

Mae’r dafarn ddau gant oed hon bellach yng ngofal menter gymunedol. Dyma batrwm sydd ar gynnydd yn y rhan hon o’r wlad, ac mae wedi achub sawl tŷ potes bach lleol rhag mynd i ddifancoll. Y cysylltiad efo David Lloyd George sy’n denu llawer yma – yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog ar Brydain, a hynny rhwng 1916 ac 1922. Yn y pentref hwn y cafodd o’i fagu, a dafliad carreg i ffwrdd, ar lannau afon Dwyfor, fe ddewch o hyd i’w fedd. Fymryn ymhellach i fyny’r allt, mae Tŷ Newydd, lle treuliodd Lloyd George flynyddoedd olaf ei fywyd. Tŷ Newydd bellach ydy cartref Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, sy’n golygu bod rhai o awduron mawr y wlad yn galw i mewn i’r Plu am ddiferyn bob hyn a hyn.

Tu fewn i dafarn mewn cwt pren gyda meinciau pren a goleuadau.
Gardd tafarn gyda meinciau pres a hen adeilad.

Tafarn y Plu, Llanystumdwy

Gwesty’r Pen-y-Gwryd, Nant Gwynant

Mae’r dafarn hon yng nghesail yr Wyddfa yn fyd-enwog yn y cylchoedd dringo. Yng Ngwesty'n Pen-y-Gwryd arhosodd Hillary, Tenzing a’r tîm wrth hyfforddi yn Eryri cyn concro Everest ym 1953. Am y rheswm hwnnw, mae’r lle’n denu pererinion o’r pedwar ban. Ond mae naws oesol i’r lle hefyd, gyda’r mynyddoedd mawr yn tra-arglwyddiaethu ar bob tu. Ychydig i lawr y lôn, mae adfeilion yr hen wersyll Rhufeinig ym mlaenau Dyffryn Mymbyr yn dyst i fynd a dod dyn dros y canrifoedd, hyd yn oed ar ddarn mor anghysbell o dir.  

Gwesty George III, Penmaenpŵl

Masnachwr llongau oedd piau hanner adeilad Gwesty George III ar lannau aber afon Mawddach, a’r hanner arall yn dŷ potes. Mae’n debyg bod y lle yn dyddio o ganol yr ail ganrif bymtheg. Yr adeg honno, wrth ichi sipian eich diod, byddai yna ddiwydiant adeiladu llongau ffyniannus a phrysurdeb morwrol mawr o’ch amgylch. Yn ddiweddarach, byddai trenau Rheilffordd Cambrian wedi rhuo stêm o’ch blaen ar eu ffordd o Ddolgellau. Er bod y lein honno wedi hen ddiflannu, mae’r bont dollau bren dros yr aber yn dal i sefyll, a hynny ers 1879.

Pont bren dros afon gydag awyr las a chymylau.

Pont Llyn Penmaen

Brigand’s Inn, Mallwyd

Ardal ddigyfraith oedd Dyffryn Mawddwy yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ac yn teyrnasu yma, roedd y Gwylliaid Cochion – mintai o ladron penffordd, cochwallt, a aeth ati i lofruddio’r Barwn Lewis ap Owen o Ddolgellau ym 1555. Yn dra eironig, teulu’r gŵr hwnnw oedd perchnogion y Peniarth Arms, lle byddai’r Gwylliaid, medden nhw, yn cyfarfod. A hwnnw’n sefyll ar groesffordd o bwys rhwng de a gogledd, a rhwng dwyrain a gorllewin, ailenwyd y lle yn Bury’s Hotel, ac yn ddiweddarach, yn Brigand’s Inn – gan ddathlu a mawrygu’r cysylltiad â’r gwrthryfelwyr drwgenwog. 

Cann Office, Llangadfan

Dyma dafarn sy’n bodoli ers 1310 ar un o hen ffyrdd y porthmyn. Mae’n bur debyg mai o ‘Cae’n y Ffos’ y daw’r enw Cann Office, er nad oes neb yn siŵr. Heddiw, acenion Ffermwyr Sir Drefaldwyn sy’n llenwi’r lle, ond mae ymwelwyr wedi galw yma’n gyson dros y canrifoedd hefyd. Maen nhw’n dweud mai un o’r rheini oedd Harri Tudur, sef Harri VII maes o law, a stopiodd yn y ‘Cian’ ar ei ffordd i Frwydr Bosworth yn 1485.

Mae pob tafarn yn creu hanes. Ym mhren y bar ac yng ngharpedi gludiog y lloriau, mae’r straeon o hyd yn hel ac yn cronni."

Y Talbot, Tregaron

Un arall o dafarndai’r porthmyn, yng ngodre mynyddoedd y Cambrian y tro hwn. Mae disgrifiad byw ohoni yn y gyfrol Wild Wales gan George Borrow, a gerddodd drwy Gymru yn 1854. Ac yntau’n Sais, roedd yn falch iawn o’r croeso cynnes a gafodd yma. Er bod Arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, wedi aros yma ddwywaith yn yr wythdegau, stori ganrif a mwy yn hŷn sy’n tanio’r dychymyg heddiw. Yn ôl y si, mae eliffant o’r enw Jwmbo wedi’i gladdu yng ngardd gwrw’r Talbot ar ôl marw ar daith syrcas i’r ardal yn 1848. Ond methiant fu pob ymgais, hyd yma, i ddod o hyd i’w fedd. 

Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch

Gwesty ar hen lein reilffordd oedd y dafarn hon i gychwyn. Mae hi wedi’i henwi bellach yn Tafarn Sinc, ar ôl y sinc coch sy’n creu’r muriau allanol. O’ch cwmpas, mae hen offer amaethyddol yn dyst i weithgarwch oes a fu. Dafliad carreg oddi yma, yng nghanol hyfrydwch bro’r Preseli, mae enghreifftiau hynod o dai unnos gwreiddiol – fel bwthyn Carnabwth. Dyma gartre Thomas Rees, arweinydd Merched Beca, a wrthryfelodd yn erbyn gormes y tollbyrth yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

No Sign Wine Bar, Abertawe

Fel Gwesty’r Browns yn Nhalacharn, roedd y No Sign Wine Bar yn un o gyrchfannau rheolaidd Dylan Thomas yn y 1930au. Cartref i fasnachwyr gwin Munday oedd y lle’n wreiddiol, ac mae’r selerydd lle cadwyd y gwin hwnnw’n dyddio i’r bymthegfed ganrif. Agorodd bar yma yn 1690. Ond beth am yr enw rhyfedd? Wel, yn ôl y rheolau trwyddedu, roedd yn rhaid rhoi arwydd ar bob tŷ tafarn yn y dref. Gan mai bar, yn hytrach na thafarn, oedd hwn, doedd dim arwydd o fath yn y byd ar ei dalcen. I wneud iawn am hynny, trefnwyd y byddai’n cael yr arwydd ‘No Sign’ ac mae’r enw wedi glynu hyd heddiw.

Yr Hen Dŷ, Llangynwyd

Mae’n bur sicr mai Yr Hen Dŷ yw ail dŷ potes hynaf Cymru, a hwnnw’n dyddio yn ôl i 1147. Mae’r to gwellt a’r golygfeydd dros Gwm Nant-y-Gadlys yn drawiadol, ond felly hefyd y chwedlau a’r llên gwerin sy’n gysylltiedig â’r lle hwn. Ar arwydd y dafarn ei hun, dyna ichi’r Fari Lwyd, sy’n dyst i boblogrwydd y traddodiad hwnnw yn yr ardal. Ond dyma hefyd gartref Wil Hopcyn, Bugeilio’r Gwenith Gwyn, a chwedl ramantus, dorcalonnus Merch Cefn Ydfa.

Skirrid Inn, Y Fenni

Yn ôl sawl un, dyma yn ddiamheuol dafarn hynaf Cymru, os nad Prydain gyfan. Roedd hi yma, mae’n debyg, yn ystod concwest Normanaidd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae sôn i Owain Glyndŵr a’i luoedd aros yma wrth deithio drwy Fannau Brycheiniog. Ac yn fwy dychrynllyd na dim, yn ogystal â thafarn, roedd y lle’n arfer bod yn llys barn. Ochr yn ochr â’r bar, roedd crocbren dderw lle crogwyd dros ddau gant o wehilion. Ac mae ysbrydion sawl un yn dal i lechu yn y coridorau bob dydd.

Cydnabyddiaethau

Ian Parri, Favourite Watering Holes (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)

Myrddin ap Dafydd, Welsh Pub Names (Gwasg Carreg Gwalch, 2016)

Straeon cysylltiedig