Ydach chi fel fi’n credu bod gan lawer o lefydd bedwerydd dimensiwn? Rhyw hud na welwch chi o flaen eich llygaid? Rhyw swyn na allwch chi ei gyffwrdd? Mae sawl peth yn medru rhoi’r teimlad yma i mi. Atgofion personol, o bosib. Cwmni pobl arbennig. Enw lle, hyd yn oed.

Ond mae cysylltiadau llenyddol yn gallu’i greu hefyd. Amhosib ydi ymweld ag ambell gornel yng Nghymru heb feddwl yn syth am yr hyn ddigwyddodd yno mewn straeon neu mewn cerddi. Mae rhywbeth sgwennodd rhywun, rywdro, wedi rhoi naws bron yn anesboniadwy i’r llefydd hyn. Ac wedi creu dimensiwn arall, yn wir.

Dyma felly ddeg man sy’n rhoi’r wefr hon i mi – a hynny ar ffurf gwibdaith gylchol. Rydan ni’n cychwyn ym ‘mhen draw’r byd’ yn Llŷn...

Aberdaron

Yn yr hen oes, y pentre bach twt hwn oedd y stop olaf ar y bererindod i Ynys Enlli. Mae cwch yn dal i hwylio yno’n ddyddiol o Borth Meudwy, yr harbwr bach rownd y trwyn. Ac mi fydd pererinion heddiw’n dal i heidio yma i flasu awyrgylch Gymreig y ddwy dafarn ar y sgwâr, neu’r eglwys lle buodd y bardd R.S. Thomas yn ficer. Ond wrth wylio’r llanw’n ewynnu yn y bae, geiriau bardd arall sy’n llond yr heli. Mi ddychmygodd Cynan brynu bwthyn unig yn fan hyn – ‘heb ddim o flaen ei ddôr ond creigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr’. Mae’r pennill yn rhoi gwedd fwy breuddwydiol fyth i’r pentir, yn llenwi’r clyw ar bob ymweliad. Yn tydi hi’n rhyfedd sut mae’r dynfa gryfaf i’r llefydd pellaf un?

Aberdaron
Arwyddion ffordd yn Aberdaron

Aberdaron 

Harlech

Dewch inni ddilyn llwybr deheuol braich Llŷn am Harlech. Oes, mae yma gastell syfrdanol yn tyfu o’r clogwyn, a thwyni aur Ardudwy’n cwblhau’r llun. Oes, mae yma elltydd serth a throellog yn cordeddu drwy dre fach dlws. Ac oes, mae gen i atgofion o bnawniau Sul llawn hufen iâ a thywod a theithiau pell yng nghefn car poeth. Ond mae yna un peth yn drech na’r rhain i gyd. Ganrifoedd maith cyn i Edward y Cyntaf feddwl am godi’i gaer hy ar y graig, roedd yna frenin coronog mwy o lawer wedi bod yma o’i flaen. Ar ddechrau ail gainc y Mabinogi, yn fan hyn mae’r cawr, Bendigeidfran fab Llŷr, yn eistedd ar garreg wrth ei lys. A dyma fo rŵan, yn edrych ar longau Matholwch yn dynesu o Iwerddon dros y môr...   

Castell Harlech

Castell Harlech

Ystrad Fflur

O Harlech, mae’n taith ni’n cyrchu’n ddyfnach i’r canolbarth. Nepell o Bontrhydfendigaid, mae adfeilion hynod Abaty Ystrad Fflur. Y rheini bron yn fil oed, ac yn ganolfan grefyddol a diwylliannol o bwys ar un adeg. Mi fuodd Llywelyn Fawr yma, a Gerallt Gymro hefyd. Ond pwy sydd yno heddiw – dyna sy’n fy nenu i. Yn ôl y sôn, o dan yr ywen fan draw, mae Dafydd ap Gwilym yn gorffwyso mewn hedd. Y bardd gorau a gafodd Cymru erioed, ac un o feirdd mwyaf Ewrop yn yr oesoedd canol. Mae yna rywbeth yn yr awyr yma, ac mae’n rhaid ymweld â’r lle i’w brofi.      

Ystrad Fflur

Abaty Ystrad Fflur

Cwmtydu

Am lannau’r de-orllewin â ni rŵan. Rhwng Cei Newydd a Llangrannog, mi drown ein trwynau i lawr hewlydd cul yr arfordir am Gwmtydu. Does fawr ddim yno heddiw heblaw am gaffi a siop, tŷ haf neu ddau, a hen odyn galch ger y traeth. Ond edrychwch ar y creigiau. Sylwch ar yr ogofeydd bach a’r cilfachau tywyll. Ymhell cyn imi ymweld â’r lle hwn am y tro cyntaf, roeddwn i wedi bod yma’n barod – o dan y dŵfe’n hogyn. Rydan ni yn ôl yn y ddeunawfed ganrif, a minnau yng nghwmni Siôn Cwilt a’i gang herfeiddiol o smyglwyr. Yn fy nhywys mae’r awdur plant, T. Llew Jones. Mae hoglau rỳm yn y tywod; mae yna sŵn helynt yn y don. Wrth i’r nos gau, dwi’n craffu i’r gorwel, yn chwilio am hwyliau llong.

Cwmtydu
Cwmtydu

Cwmtydu

Mynyddoedd y Preseli

Mae’r gorllewin pell yn galw. Gan inni grybwyll y Mabinogi eisoes, gwell inni ochel rhag cael ein dal yn y niwl sy’n dueddol o ddisgyn ar y darn hwn o’r wlad. Yr ‘hud ar Ddyfed’ ydi’i enw, yn ôl y drydedd gainc. Mae’n gwneud i bobl ddiflannu. Ond hyd yn oed heb y mwrllwch hwnnw, mae’r golau’n wahanol fan hyn. Dyma’r golau a welodd Waldo Williams wrth ganu’i farddoniaeth obeithiol yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Yn y bryniau hynafol o’n hamgylch ni, ym mherthynas dyn a natur, a dyn a’i gyd-ddyn, mi welodd Waldo ystyr i fywyd. Mi sylweddolodd: rydan ni’n perthyn i’n tir yma; rydan ni’n perthyn i’n gilydd. Mae carreg goffa i’r bardd ar y comin ger Mynachlog-ddu, yn atgof cyson o hyn.   

Preseli

Preseli

Merthyr Tudful

Dewch inni anelu ar draws gwlad am Ferthyr Tudful. Ond nid y dref sy’n sefyll yno heddiw wela’ i chwaith. Yn hytrach, yn llenwi’r awyr mae mwg a thân. Ffwrneisi chwyth yn tasgu’u perfeddion. Awyrlongau’n hwylio uwch ein pennau. Dan ein traed mae yna isfyd go annymunol, ac amodau byw’r gweithwyr yn enbydus. Cysgodion y capeli’n drwm ar y strydoedd, a budreddi ac anghyfiawnder cymdeithasol ym mhob man. Dyma’r byd sy’n cael ei ddarlunio’n gofiadwy yn nofel Ifan Morgan Jones, Babel – enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020. Chaiff Merthyr mo’i henwi, a dychmygol ydi’r dref sy’n llenwi’r tudalennau. Dychmygol, ond ddim yn rhy bell o’r gwir chwaith. Mae dioddefaint a chwys yr oes ddiwydiannol yn rhan o realiti’r wlad ddaeth wedyn.

Cilmeri

O Ferthyr, mae yna ychydig o ddringo dros Fannau Brycheiniog yn ein haros. Cyrraedd Llanfair-ym-Muallt, cyn dilyn y lôn gefn i Gilmeri. Mae’n debyg mai pur dawel fydd hi; lli afon Irfon a brefiadau ffermydd Sir Faesyfed yn unig ar y gwynt. Ond yna mi ddaw geiriau cwbl iasol i’r cof, a’r rheini’n sôn am ‘fraw agos ar frigyn’ ac am rewynt ‘yn gareiau’ ar y bont. Yma ym 1282, dan law’r Saeson, a thrwy ryw fath o frad neu dwyll, daeth oes Llywelyn ap Gruffudd, ein Llyw Olaf, i ben. Mi ganodd beirdd y cyfnod yn ddolefus am y drychineb. Ond wrth edrych ar y gofeb, awdl anhygoel ‘Cilmeri’ gan Gerallt Lloyd Owen, saith can mlynedd wedyn, sy’n creu rîl o luniau byw o ’mlaen.

Sycharth

Mi arhoswn ym myd arwriaeth yr oesoedd canol, ond gan ddilyn Clawdd Offa beth ffordd i’r gogledd. Lle braidd yn anghysbell ydi Sycharth heddiw; y cyfan sydd yma ydi bryncyn go fawr o wair. Ond go brin fod bryncyn enwocach yn y byd. Dyma, wedi’r cyfan, safle llys Owain Glyndŵr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. A'r hyn sy’n rhyfeddol? Mi allwn ni wneud mwy na dychmygu sut le oedd yma. Mae llawysgrif o gerdd gan y bardd, Iolo Goch, wedi goroesi, a honno’n disgrifio’r olygfa mewn cryn fanylder. O’i darllen, dod yn fyw drachefn mae ysblander yr adeiladau cymesur, y porth a’r bont dros y ffos, y toeau cain, y parc ceirw a’r llynnoedd. Heb sôn am y croeso a’r haelioni a’r bwyd a’r diod. Geiriau chwe chanrif oed yn rhoi llwybr yn syth i’r gorffennol.

Bethesda

Rydan ni bellach yn ddwfn dan gopaon Eryri. Mae’r Carneddau a’r Glyderau o’n hôl, a ninnau ar stryd fawr Bethesda, sy’n rhan o ffordd enwog yr A5. Un o gadarnleoedd y sîn roc Gymraeg fodern, a phentre y mae chwarel lechi’r Penrhyn yn dal i fwrw’i chysgod anferth drosto. Eto, nid dyna sy’n mynd â ’mryd. Yn hytrach, ym mhob drws a ffenest, mae byd chwerthin trist Un Nos Ola Leuad, nofel eiconig Caradog Prichard. Ar hyd y stryd fawr hon y mae’r prif gymeriad trasig yn crwydro’n atgofus. Ar un ochr, mi welwn y gwallgofrwydd a’r tlodi; ar y llall ddoniolwch a diniweidrwydd plentyndod. Ac agosrwydd y bachgen at ei fam yn cynhesu’r galon ar yr un pryd. Mae chwerw a melys bywyd i gyd ar y patshyn bach hwn o lôn.

Twthill, Caernarfon

Mae’n rhaid gorffen yn fy milltir sgwâr, a lle gwell i weld honno yn ei chyfanrwydd nag ar dop unig ‘fynydd’ tre’r Cofis. Pe bawn i’n trio, mae’n siŵr y gallwn ddychmygu lluoedd Glyndŵr yn ymosod ar y twmpath creigiog yma fel y gwnaethon nhw ym mrwydr Twthill 1401. Neu fynd yn ôl ymhellach i oes Macsen Wledig, a’i weld yn bwrw’i drem ar y gaer islaw. Ond yn hytrach, yn cadw cwmni i mi y tro yma, mae Jamal Gwyn Jones, Med Medra, Angharad Bugbird, Babs Inc ac Alun Stalin. Cymeriadau gwneud yn nofel Caersaint, Angharad Price, ond nid cymeriadau gwneud yn llwyr. Rydw i’n eu nabod nhw i gyd fel rhai o gêsys cig a gwaed y dre go iawn. Mi fydd un neu ddau yn siŵr o fod ym mar Y Twthill rŵan, lle campus i orffen y siwrnai gyda llymaid. Yno i roi croeso inni mi fydd Chunk, y landlord, sy’n chwedl arall ynddo’i hun.        

Straeon cysylltiedig