Selsig Morgannwg yn ffrio mewn padell

Rysáit Selsig Morgannwg

Mae Selsig Morgannwg yn selsig lysieuol Gymreig traddodiadol a'r prif gynhwysion yw caws, cennin a briwsion bara. Mae sawl fersiwn erbyn hyn yn defnyddio gwahanol berlysiau a sbeisys, a gwahanol fathau o gaws - yn ogystal â fersiwn fegan.

Padell ffrio llawn cocos a bacwn.

Rysáit Brecwast Abertawe

Gall y rysáit yma gael ei weini fel byrbryd ysgafn unrhyw bryd o'r dydd neu ei weini ar dost trwchus am frecwast iachus a blasus! Mae'n cyfuno bwyd môr lleol o'r Gŵyr gan gynnwys cocos Penclawdd a bara lawr - math o wymon sy'n cael ei gasglu ar hyd yr arfordir.