Nodiadau gan y cogydd

Yn draddodiadol, byddai pobyddion yn cael siâp nodweddiadol y fisged Aberffraw drwy wasgu’r toes yn erbyn cragen fylchog, ac mae’r rysáit hwn yn galw am yr un dull. Fodd bynnag, os na allwch ddod o hyd i gregyn bylchog ar eich traeth lleol, mae mowldiau Madeleines Ffrengig yn ddewis da, gan roi golwg debyg. Os dewiswch y dull hwn, bydd angen i chi fenynnu a blawdio’r tuniau’n ysgafn cyn gwasgu’r toes i mewn iddynt cyn pobi.

 

Sut i wneud bisgedi Aberffraw

Nifer: 8 | Amser paratoi: 15 munud | Amser coginio: 20 munud

Cynhwysion

50g siwgr eisin
100g menyn, ar dymheredd ystafell
150g blawd

Dull

Cam 1: Ar gyfer y rysáit hon rydych eisiau i’ch menyn fod yn feddal ond heb doddi, felly bydd ei adael ar silff ffenestr gynnes yn berffaith. Ar ddiwrnod oer, rhowch yn y meicrodon neu ar y hob nes ei fod newydd ddechrau toddi. Tra byddwch yn aros i’r menyn feddalu, cynheswch y popty ymlaen llaw (180C/fan 160C) a menynnwch eich tun pobi.

Cam 2: Hidlwch y blawd a’r siwgr i’ch menyn (ychwanegwch binsied o halen os ydych yn defnyddio menyn dihallt), yna tylinwch gyda blaenau’ch bysedd nes bod gennych does llyfn.

Cam 3: Rhannwch y toes yn wyth pelen a gwasgwch bob pelen i mewn i du mewn cragen fylchog lân i greu’r siâp dymunol, cyn ei thynnu i ffwrdd a’i gosod ar dun pobi mawr. Ailadroddwch gyda’r gweddill. Unwaith y bydd pob un wedi’i wasgu, pobwch yn y popty am 20 munud neu nes eu bod yn euraidd.

Cam 4: Trosglwyddwch i rac oeri, gan eu gorchuddio’n ysgafn â siwgr ychwanegol tra’n gynnes. Unwaith eu bod yn oer, bydd y bisgedi’n cadw’n dda mewn cynhwysydd aerglos.

Ymchwiliwyd a phrofwyd y rysáit hon gan y cogydd Alex Vines. Datblygodd Alex ei arddull goginio nodweddiadol “syml ond gofalus” dros ddegawd o weithio mewn bwytai adnabyddus yn Llundain. Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Alex yn hyrwyddo defnyddio cynnyrch tymhorol a lleol, gan adlewyrchu egwyddorion ryseitiau traddodiadol Cymru. Dilynwch Alex ar Instagram.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig

Llun agos o ddwylo yn dal caws Celtic Promise.

Cynnyrch hyfryd Glynhynod

Mae John Savage-Onstwedder, wedi bod yn gwneud peth o gaws gorau Prydain yn Caws Teifi yng Ngheredigion, Canolbarth Cymru, am fwy na thri degawd.