Blwyddyn newydd a chyfle i fwrw ymlaen gyda'r addunedau! Gwisgwch yn gynnes a mwynhewch y dewis hwn o ddigwyddiadau a fydd yn addysgu ac yn diddanu pob oed.
Y gaeaf ym Mae Abertawe
08 Tachwedd 2022 - 08 Ionawr 2023. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa, gyda Phentref Alpaidd estynedig. Mae llu o atyniadau ffair ac amrywiaeth o fwyd a diod, i ddarparu lleoliad perffaith ar gyfer cymdeithasu. Archebwch sglefrio iâ ar-lein. Mae sesiynau hygyrch i sglefrio ar gael yn ystod yr awr gyntaf o sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth. Mae tocynnau arbedwr gwych ar gael sy'n cynnig arbedion sylweddol i deuluoedd a myfyrwyr ar sglefrio, bwyd a diod.
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
15 Tachwedd 2022 - 08 Ionawr 2023. Mwynhewch sglefrio iâ, reidiau ffair, gan gynnwys Olwyn Fawr yng nghanol ein prifddinas. Cynhelir Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yng Nghastell Caerdydd a lawnt Neuadd y Ddinas.
Luminate Wales, Margam
17 Tachwedd 2022 - 02 Ionawr 2023. Llwybr ysblennydd, wedi ei oleuo, ac yn llawn rhyfeddod, i swyno a swyno'ch synhwyrau yng ngerddi hanesyddol Parc Gwledig a Chastell Margam. Ewch i wefan Luminate Wales am ragor o wybodaeth.
Goleuni'r Gaeaf, Caerdydd
25 Tachwedd 2022 - 11 Chwefror 2023. Mae Goleuni'r Gaeaf yn osodiad celf am ddim yng Ngardd Sant Ioan yng nghanol Caerdydd. Ar agor bob dydd rhwng 8yb a 9yh, gwahoddir teuluoedd i ymgolli yn y goleuni ymatebol a'r seinwedd – sy'n cynnwys fersiwn o'r gân werin Gymraeg Ar Lan y Môr, a recordiwyd gan Gôr Sant Ioan. Mae'n cael ei fwynhau orau wrth iddi nosi ac ar ôl iddi dywyllu.
Yn ystod mis Ionawr bydd gweithdai adrodd straeon a chelf i'r teulu am ddim hefyd yn cael eu cynnal gan yr awdur a'r darlunydd lleol Jack Skivens.
Llwybr Golau Gaeaf yr Ardd Fotaneg
01 Rhagfyr 2022 - 02 Ionawr 2023. Fe ddaw Luminate i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru y gaeaf hwn. Mwynhewch Lwybr Golau Gaeaf yn yr Ardd, llwybr milltir trawiadol o hyd, gyda goleuadau ac elfennau rhyngweithiol a chwareus, yn ogystal ȃ cherddoriaeth swynol.
Taith Gerdded Dydd Calan, Llanwrtyd
01 Ionawr 2023. Dechreuwch y Flwyddyn Newydd gyda thaith gerdded yn Llanwrtyd yn y Canolbarth. Dysgwch fwy am y daith gerdded a digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn ar wefan Green Events.
Nofio ar Ddydd Calan yn Saundersfoot
01 Ionawr 2023. Mae'r Nofio ar Ddydd Calan yn Saundersfoot yn dychwelyd yn 2023 am y 37eg tro. Denodd y digwyddiad olaf yn 2020 dros 2,000 o nofwyr.
Fan Dance cyfres y gaeaf, Pen y Fan
07 - 08 Ionawr 2023. Mae Ras Fan Dance yn ras heriol 24km dros ddwy ochr i Ben y Fan, y mynydd uchaf ym Mannau Brycheiniog. Mae'r sialens hon wedi bod yn rhan o broses dewis heriol yr SAS (Gwasanaeth Awyr Arbennig) a SBS (Gwasanaeth Cychod Arbennig) ers amser maith.
Hen Galan, Sir Benfro
13 Ionawr 2023. Os ydych chi yng Nghwm Gwaun ger Abergwaun mae'r Flwyddyn Newydd yn dechrau ar y 13eg nid y 1af o Ionawr. Mae pobl y dyffryn hwn wedi cario ymlaen gyda chalendr hynafol Iwlaidd (yn lle'r calendr Gregoraidd). Mae plant yn croesawu'r Flwyddyn Newydd drwy ymweld â'u cymdogion a chanu am anrhegion. Darllenwch fwy am Hen Galan.
Digwyddiad Dydd Santes Dwynwen, Castell Caerffili
22 Ionawr 2023. I ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen, mae 'na ddigwyddiad arbennig yng Nghastell Caerffili. Mwynhewch daith dan arweiniad ceidwad y castell, a sgyrsiau am Santes Dwynwen. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a gwneud cardiau.
Dydd Santes Dwynwen
25 Ionawr. Dyma Ddydd Santes Dwynwen, y diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yng Nghymru pan fyddwn ni'n anrhydeddu ein nawddsant cariad Cymreig.

Penwythnos Hen Bethau
28 & 29 Ionawr. Mae'r Penwythnos Hen Bethau poblogaidd yn dychwelyd i Sir Gaerfyrddin a bydd stondinau yn gwerthu hen bethau ar mewn gwahanol leoliadau ar draws yr Ardd Fotaneg gan gynnwys yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Digwyddiadau Amgueddfa Cymru
Mae nifer o ddigwyddiadau yn ein saith Amgueddfa Cenedlaethol trwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd Digwyddiadau Digidol ymlaen.