Nadolig ym Mae Abertawe

15 Tachwedd 2023 - 02 Ionawr 2024. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa, gyda Phentref Alpaidd estynedig. Mae llu o atyniadau ac amrywiaeth o fwyd a diod Nadoligaidd. Mae sesiynau hygyrch i sglefrio ar gael yn ystod yr awr gyntaf o sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth. 

merch yn sglefrio yn dal cymorth sglefrio pengwiniaid.
Olwyn fawr a golwg gwledd y gaeaf o'r awyr.
sglefrwyr ar rinc sglefrio dan do gyda goleuadau.

 Gwledd Gaeaf ar y Glannau Abertawe

Marchnad Nadolig Caerdydd

09 Tachwedd 2023 - 23 Rhagfyr 2023. Mae Marchnad Nadolig Caerdydd ar Stryd Sant Ioan, Stryd y Gwaith, yr Aes, Stryd y Bryniau a Stryd y Drindod. Mae'n cynnwys cymysgedd cyffrous ac eclectig o arddangoswyr sy'n creu cynnyrch gwreiddiol wedi'i wneud â llaw. 

Darllen mwy: Siopa Nadolig a marchnadoedd y Nadolig yng Nghymru

Stondinau marchnad Nadolig yn y nos ac eglwys yn y cefndir.

Marchnad Nadolig Caerdydd

Sioeau Nadolig i'r teulu 

22 Tachwedd - 20 Rhagfyr 2023. Lapiwch yn gynnes ac ymunwch â Swyn a’i ffrindiau ar gyfer sioe swynol yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe. Yn cyfuno’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL), dyma gynhyrchiad arbennig fydd yn tanio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc gyda stori a dawns. Bydd Swyn, cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad. 

03 Tachwedd 2023 - 06 Ionawr 2024. Hansel a Gretel yw sioe Nadolig Theatr Sherman eleni. Bydd y sioe, sy'n addas i blant rhwng 3 a 6 oed, yn teithio i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri a llawer mwy.

Ffair Fwyd a Chrefftau Portmeirion

01 - 03 Rhagfyr 2023. Mae Ffair Fwyd a Chrefft Nadolig Portmeirion yn gyfle i flasu a phrynu bwyd a diod leol a phrynu anrhegion Nadolig i ffrindiau a theulu. Yn ogystal â chynnyrch a chrefftau lleol, mae rhaglen lawn o adloniant at ddant pawb.

Nadolig yn Amgueddfa Cymru 

03-22 Rhagfyr 2023. Mwynhewch hwyl yr ŵyl yn Amgueddfa Cymru. Dewch i gwrdd â Siôn Corn a’i ffrindiau a chanu carolau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mwynhau Marchnad Nadolig Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, creu crefftau Nadoligaidd yn Amgueddfa Wlan Cymru, mwynhau te prynhawn Nadoligaidd yn Amgueddfa Lechi Llanberis a llawer mwy!

Nosweithiau Nadoligaidd

15 + 16 Rhagfyr 2023. Bydd Al Lewis a'i ffrindiau yn dathlu 10 mlynedd o'r nosweithiau Nadoligaidd hynod boblogaidd gyda dwy noson yn Eglwys Sant Ioan Treganna.

09 Rhagfyr - 21 Rhagfyr 2023. Nosweithiau Cabarela – carolau Nadolig fel nad ydych erioed wedi eu clywed o'r blaen..! Nosweithiau yn Wrecsam, Bala, Caerdydd, Llanelli ac Aberystwyth. 

22 Rhagfyr 2023. Ymunwch â Mared, Malan a DJ Ffresco am noson glud, Nadoligaidd yn Galeri Caernarfon.

Nofio ar Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod

26 Rhagfyr 2023. Eisiau ffordd newydd o gael gwared o gorfoledd y Nadolig? Beth am gymryd rhan yn y digwyddiad elusennol hwn? Mae bron i 600 o bobl yn rhedeg i'r môr ar draeth y Gogledd yn eu gwisg ffansi ar Ŵyl San Steffan. Wrth gwrs, gallwch ddewis gwylio o'r lan gyda phaned ac aros yn gynnes a sych. Mwy o wybodaeth am Nofio ar y Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod.

Darllen mwy: Nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Nofwyr yn neidio mewn gwisgoedd Siôn Corn.

Nofwyr Gŵyl San Steffan mewn gwisg Nadoligaidd, Dinbych-y-Pysgod

Rasys Nos Galan

31 Rhagfyr 2023. Dathlwch Guto Nyth Brân (Griffith Morgan) ar Nos Galan yn Aberpennar yng Nghymoedd De Cymru gyda Rasys Nos Galan. Ceir nifer o hanesion am Guto, gan gynnwys un y gallai redeg mor gyflym ag aderyn yn hedfan. Bob blwyddyn mae personoliaeth chwaraeon enwog yn cymryd rhan, felly dewch draw i ddarganfod pwy yw nhw eleni! Croeso i chi wisgo gwisg ffansi yn y Ras Hwyl 5 cilomedr. Mwy o wybodaeth am y Rasys Nos Galan

Llun nos o dri dyn wrth fedd gyda phlethdorch a torch fflam.
dau ddyn yn rhedeg mewn digwyddiad rhedeg.
cerflun o ddyn yn rhedeg gyda llinynnau amryliw o oleuadau yn y cefndir.

Rasys Rhedeg Nos Galan

Mwy o ddigwyddiadau ym mis Rhagfyr

18 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2023. Mae Gower Fresh Christmas Trees, Three Crosses, Abertawe, yn gartref i Ŵyl y Gaeaf Abertawe a Grotto

22 Tachwedd - 31 Rhagfyr 2023. Llwybr Goleuadau Luminate Wales, Parc Margam. Taith hudolus trwy gerddi a chastell Parc Gwledig Margam. Dilynwch llwybr milltir o hyd Luminate Wales, gyda gosodiadau golau syfrdanol ac elfennau rhyngweithiol gwych i'r plant. 

24 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2023. Mae gan Reindeer Lodge, Yr Wyddgrug, profiad saffari ceirw, groto Siôn Corn a sioe theatr, pentref corachod cudd a gweithdy tegannau.

29 Tachwedd i 24 Rhagfyr 2023. Llwybr Golau Gaeaf Gardd Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin.

03 Rhagfyr 2023. Santa Dash Caerdydd.

27 Rhagfyr 2023. Coral Welsh Grand National, Cas-gwent. Gwyliwch y ceffylau a mwynhewch adloniant byw yn un o rasys ceffylau mwyaf y flwyddyn. 

31 Rhagfyr 2023. Helfa ysbrydion, Castell Gwrych, Abergele. 

Straeon cysylltiedig