Cipolwg ar gymal Cymru o’r Tour de France 2027
Ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027, bydd Cymal 3 o’r Tour de France 2027 yn cychwyn o’r Trallwng, gan basio drwy Landrindod, Llanfair‑ym‑Muallt ac Aberhonddu. Bydd y peloton yn dringo drwy Fannau Brycheiniog ac yn gorfod concro’r Côte du Rhigos a’r Côte de Caerffili cyn cwblhau’r cymal ar wib drwy gymoedd y de am Gaerdydd.
Dyma fydd cymal olaf y Grand Départ, a chlo addas i ddathliad o seiclo yma ym Mhrydain. Dyma hefyd fydd un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf erioed i’w cynnal yng Nghymru sy’n rhad ac am ddim i’r gwylwyr.
Efallai eich bod chi’n bwriadu dod i Gymru i weld y peloton yn gwibio heibio, i roi cynnig ar ddringfa enwog, neu i feicio’n hamddenol ar lôn ddidraffig yng nghwmni’r teulu. Dyma i chi ambell syniad i gynllunio’ch taith chi, a’r cyfan yn canolbwyntio ar fyd y beics.
Beicio ar y ffordd: dringfeydd o fri, lonydd tawel, a golygfeydd godidog
Mae digonedd o lefydd ysbrydoledig yng Nghymru i feicwyr ffordd. Ar hyd llwybr y cymal yng Nghymru, o gorneli tynn Rhigos i’r dringfeydd bach serth o amgylch Caerffili, mae’r de’n addo golygfeydd mynyddig law yn llaw â phentrefi a chymunedau cyfeillgar sy’n llefydd hyfryd am hoe.
Am anturiaethau pell, ar y ffordd ac oddi arni, mae ein canllaw i deithiau beicio ffordd yng Nghymru yn gyflwyniad i rai o lwybrau enwocaf y wlad. Dyna i chi Lôn Las Cymru, Ffordd Brailsford, a’r dringfeydd dros Fwlch yr Efengyl a’r Tymbl, er enghraifft. Mae yma fapiau, gwybodaeth am bethau i’w gweld, a chanllaw i’r caffis gorau.
Os byddwch chi’n aros yn y brifddinas, fe fyddwch chi dafliad carreg o rai o’n llwybrau beicio didraffig gwych, fel Taith Taf, sy’n arwain o Fae Caerdydd drwy Barc Bute ymlaen i Landaf a Chastell Coch. Dyma daith ddigon hamddenol, a’r rhan fwyaf ohoni heb draffig o gwbl. Mae yma sawl lle braf i stopio, gyda chyfle i fynd yn eich blaenau yr holl ffordd i Aberhonddu.
I gael mwy o her, dilynwch gylchdaith Caerdydd a Chaerffili, sydd â digonedd o ddringfeydd bach serth a chyfle i edmygu Castell Caerffili wedyn.
Dewch am wyliau bach: Pethau i’w gwneud ar lwybr cymal Cymru o’r Tour de France 2027
Y Trallwng a’r canolbarth
Y canolbarth yw ysgyfaint werdd Cymru, ac mae yno erwau di-ben-draw o dir naturiol sy’n berffaith i anturio a chrwydro yn yr awyr agored. Ewch am dro i Gastell Powis a’r Ardd yn y Trallwng, crwydrwch strydoedd braf Llandrindod, neu trowch eich golygon am gronfeydd dŵr Cwm Elan lle mae digonedd o gyfle i gerdded, gweld bywyd gwyllt a beicio ar lwybrau braf sy’n dilyn hen reilffyrdd. I’r rheini sy’n hoff o feicio ar raean, Mynyddoedd y Cambria amdani.
Mae taith fach ar Reilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion, un o reilffyrdd cul gorau Prydain, yn ffordd hyfryd o dreulio amser yng nghwmni’r teulu.
Bannau Brycheiniog
Mae llond trol o bethau i’w gwneud ym Mannau Brycheiniog. Fe gewch chi ddringo i’r copaon i gael golygfeydd godidog, rhwyfo ar gronfeydd dŵr, neu fwynhau picnic wrth i raeadrau arllwys gerllaw. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw cartref Pen y Fan, mynydd uchaf de Prydain; mae’r parc yn orlawn o archaeoleg gynhanesyddol, gan gynnwys carneddi a meini hir; a dyma hefyd un o ardaloedd pwysicaf Cymru am awyr dywyll a bioamrywiaeth.
Cymoedd y De
A’r rheini’n gyforiog o dreftadaeth ddiwydiannol, mae llond gwlad o bethau i’w gweld a’u gwneud yng nghymoedd y de. Yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â gwylio’r beicwyr ar y dringfeydd, beth am brofi Taith Pyllau Glo Cymru, cael antur yn Zip World Tower, neu fynd ar daith o amgylch y ddistyllfa yn Penderyn yn Aberdâr?
Mae gan Ferthyr Tudful hefyd anturiaethau campus i’w cynnig. Os gallwch chi oddef uchder, yn Rock UK Summit Centre y mae un o waliau dringo mwyaf Cymru, yn ogystal â chyfres o ogofeydd sydd wedi’u creu gan ddyn.
In the Caerffili area, the last TdF 2027 Stage Three climb, you can climb to Caerphilly Mountain for sweeping views out over Caerdydd, then explore mighty Castell Caerffili - the largest castle in Cymru and second-largest in Britain. Be sure to also sample the town’s famous cheese and a variety of street food and handcrafted goods while browsing the shops and the Ffos Caerffili market in the town centre.
Caerffili
Dringwch i gopa Mynydd Caerffili i gael golygfeydd rhyfeddol, cyn rhyfeddu at faint Castell Caerffili – castell mwyaf Cymru, a’r ail fwyaf ym Mhrydain. Cofiwch flasu caws enwog y dref a’r bwyd stryd amrywiol, ynghyd ag edmygu’r nwyddau crefft wrth bori yn siopau marchnad Ffos Caerffili yng nghanol y dref.
Ar gefn eich beic: Gweithgareddau beicio ledled Cymru
Os nad yw beicio ar y ffordd fel y meistri at eich dant, mae gan Gymru bob math o gyfleoedd beicio eraill a ddylai fod yn addas i chi.
Beicio mynydd: Cyffro ym mhob cwr o’r wlad
Mae Cymru’n lle penigamp i feicio mynydd, ac mae yma ganolfannau pwrpasol i bawb o bob gallu. Yn agos at lwybr 2027, mae BikePark Wales i’w ganfod yng Nghoedwig Gethin ger Merthyr. Dyma ganolfan sy’n dibynnu ar ddisgyrchiant gyda chyfuniad o lwybrau gwyrdd a glas sy’n addas i’r teulu, ynghyd â llwybrau coch a du i hen lawiau. Mae gwasanaeth cludo, cyfle i logi beics, a hyfforddiant hefyd ar gael. Lle gwych i dreulio diwrnod cyn neu ar ôl y cymal ei hun.
Yn anelu am y gogledd ar daith hirach? Mae Coed y Brenin ger Dolgellau, y ganolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf i’w chreu ym Mhrydain, yn dal ar flaen y gad gyda’i thrac sengl wedi’i arwyddo. Mae yma bopeth o gylchdeithiau hawdd i deuluoedd i lwybrau du dieflig, ynghyd ag ardal sgiliau i fagu hyder.
Yn goron ar y cyfan, does dim angen i chi ddod â’ch beic eich hun – mae croeso i chi logi un o Beics Brenin ar y safle.
Beicio ar raean: llwybrau hynafol, ffyrdd coediog ac awyr eang
Mae beicio ar raean yn gamp sy’n ffynnu yng Nghymru am reswm go dda: o’u cyfuno, mae ffyrdd Rhufeinig, lonydd tân drwy goedwigoedd, a hen lwybrau’r porthmyn yn creu teithiau godidog. Darllenwch ein canllaw arbennig i anturiaethau ar feics graean yng Nghymru, lle cewch chi syniadau am lwybrau o Gwm Elan a Mynyddoedd Cambria i berlau arfordirol ym Mhenrhyn Gŵyr, ynghyd â llwybrau llyfnach o amgylch Llyn Brenig.
Beicio didraffig i’r teulu
Fyddwch chi’n dod â’r beics a’r plant gyda chi? Mae gan Gymru gannoedd o filltiroedd o lwybrau didraffig a thraffig ysgafn, a’r rheini’n cysylltu parciau gwledig, aberoedd, a threfi glan môr – gyda digonedd o lefydd hyfryd i gael hoe ar y ffordd. Cymerwch gip ar ein canllaw i lwybrau beicio teuluol a dewiswch un gerllaw lle byddwch chi’n aros. Ymhlith rhai o’r uchafbwyntiau mae:
- Taith Taf (Caerdydd-Aberhonddu) – beth am reidio darn bach o’r llwybr hwn o Fae Caerdydd drwy Barc Bute a heibio i Gastell Caerdydd, cyn mynd ymlaen am Landaf a Chastell Coch? Dyma ffordd wych o weld y brifddinas wrth fwynhau cyflwyniadau’r timau, y ffanbarthau a’r hwyl a sbri ar y llinell derfyn.
- Llwybr Mawddach (Dolgellau–Y Bermo) – llwybr fflat, llawn golygfeydd braf, a bron yn gyfan gwbl ddidraffig ar lannau hyfryd yr aber. Dyma rywbeth gwych i’w wneud os byddwch chi’n teithio yn y canolbarth a’r gogledd fel rhan o wyliau beicio hirach.