Castell Cydweli, Sir Gaerfyrddin
Nid dyma gastell mwyaf adnabyddus Cymru, ond mae wir yn gastell rhagorol. Mae llawer o'r adeiladwaith yn dal i fod yn gyfan. Fe adeiladwyd y castell allan o gerrig cryf lleol yn y 13eg a'r 14eg ganrif ar safle hen gaer Normanaidd. Mae'r waliau a'r tyrrau mawreddog yn rhythu dros y dyffryn tawel islaw.
Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful
Adeiladwyd y plasty hwn o'r 19eg ganrif ar ffurf castell, gyda thyrrau a murflychau. Yn wreiddiol roedd yn gartref i'r perchennog gwaith haearn cyfoethog William Crawshay, ond mae bellach yn amgueddfa hanes lleol ac oriel gelf. Fel rhan o'r eitemau sy'n cael eu harddangos, gellir gweld ffrogiau Laura Ashley, y chwiban stêm gyntaf a chasgliad o borslen.
Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion
Mae'r hyn sydd ar ôl o'r fynachlog Sistersaidd hon, yn cynnwys bwa maen wrth draed colofnau nerthol, yn cynnig cipolwg i ni o'i hen ogoniant. Sefydlwyd yr abaty yn 1164, ac roedd yn sefyll yng nghanol ystad gyfoethog ble fyddai'r mynachod yn ffermio ac yn croesawu pererinion a masnachwyr. Mae'r bardd canol oesol Dafydd ap Gwilym wedi ei gladdu yma, o dan goeden ywen.
Castell Ystumllwynarth
Mae yna naws rhamantus i'r castell Normanaidd bychan hwn. Mae'n edrych allan dros Fae Abertawe o'r Mwmbwls, ac fe gredir fod y castell cyntaf ar y safle hwn yn dyddio yn ôl i tua 1106. Yn ystod gwaith cadwraeth diweddar, daethpwyd o hyd i fanylion newydd, yn cynnwys celf graffiti o'r 14eg ganrif. Mae trigolion lleol yn mwynhau ymweld â thir glaswelltog y castell i gael picnic neu i fwynhau dramâu, cyngherddau, canu carolau a digwyddiadau tymhorol eraill yn yr awyr agored.
Castell Caerffili
Fel cawr yn cysgu tra'n aros am yr alwad i'r frwydr, mae Castell Caerffili yn enfawr. Yn nhermau arwynebedd, dyma gastell mwyaf Cymru. Ac mae ganddo bopeth y dylai castell ei gael: waliau cerrig trwchus, tyrrau, ffos gyda phont godi a thŵr sy'n edrych yn barod i syrthio ers canrifoedd (mae'n gogwyddo yn fwy na Thŵr Pisa!).
Dyfrbont Pontcysyllte
Adeiladwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1805, ac mae’n codi 30 metr (100 troedfedd) uwchlaw Afon Dyfrdwy, ac fe’i henwyd yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2009. Mae cymaint o ffyrdd o fwynhau’r ardal, gan gynnwys taith mewn cwch a dynnir gan geffyl ar hyd glanfa’r gamlas yn Llangollen.
Safle Treftadaeth Byd UNESCO Blaenafon, Torfaen
Mae Tirlun Diwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. O'r 18fed i'r 20fed ganrif roedd y dref yn fwrlwm diwydianol wrth gynhyrchu glo a haearn. Gallwch gael mewnwelediad i'r gorffennol yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a Gwaith Haearn Blaenafon, archwilio'r dref a chael trip ar drên stêm. Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn y dref hefyd, sy'n fan cychwyn gwych ar gyfer eich ymweliad.
Dilynwch lwybr o gestyll mawreddog Gogledd Cymru Mae’r pedwarawd o gestyll rhestredig gan UNESCO ym Miwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech yn rhai o’r cestyll pwysicaf a mwyaf rhyfeddol yng Nghymru, a gallwch chi ymweld â nhw i gyd mewn un penwythnos epig.