Am dair blynedd yn olynol cafodd ei enwi’r lle mwyaf hapus i fyw ynddo yng Nghymru, a’r pumed lle ar restr y DU. Bydd treulio amser yn Llandrindod yn siŵr o roi gwên ar eich wyneb. Dyma’n canllaw am bethau i’w gwneud, llefydd i aros ac i fwyta yn y dref ac yn yr ardal o gwmpas, ar gyfer eich ymweliad.

Adeilad o frics coch gyda thŵr siâp hecsagon ar ei flaen.

Llandrindod

Hanes a diwylliant lleol

Wrth gerdded yn hamddenol trwy'r dref, cewch eich tywys yn ôl i swyn yr oes Fictoraidd, gyda’r strydoedd llydan, blaenau siopau llawn cymeriad ac olion pensaernïol cain. Mae Llwybr Treftadaeth Llandrindod yn eich arwain ar daith hamddenol sy’n dilyn treftadaeth bensaernïol y dref. Yna, beth am anelu at barc Rock Park, a dilyn y llwybr cerfluniau yn y fan honno.

Mae’r fynedfa i’r parc yn cynnwys arwydd mawr yn nodi ‘Rock Park & Spa’.

Mynedfa Rock Park & Spa, Llandrindod

Os ydych am ddysgu mwy am hanes yr ardal, dylech ymweld ag Amgueddfa Sir Faesyfed sydd wedi’i lleoli yn yr hen lyfrgell. Dylai’r beicwyr yn eich plith anelu am Amgueddfa Genedlaethol Seiclo. Cyn i chi fentro mewn, cymerwch gam yn ôl ac aros am funud i werthfawrogi ffasâd Art Deco yr amgueddfa a adeiladwyd yn 1911 fel lle i arddangos ceir.

Bwrdd gwybodaeth llwybr trefol gydag adeilad o frics coch yn y cefndir.
Ystafell enfawr yn llawn o feiciau yn cael eu harddangos ar y waliau a’r llawr.
Adeilad brics coch mewn gerddi.

Y Llwybr Hanes, Amgueddfa Feicio Cymru ac Amgueddfa Sir Faesyfed, Llandrindod

Ymlacio - hamdden a lles

Adeiladwyd Llandrindod gan y Fictoriaid ar gynsail hamdden a lles, ac mae’r rhinweddau hynny yn parhau hyd heddiw. Mae Rock Park, sef ardal werdd Gradd 2 sy’n dyddio’n ôl i’r 1860au, yng nghanol y dref. Wedi'i chynllunio’n gelfydd, mae gan y parc ardd goed, llwybrau ar hyd afonydd tawel, cerfluniau, ac adeiladau sba Fictoraidd i ryfeddu atyn nhw.

Ffynnon ddŵr mewn parc cyhoeddus.
Llwybr o bren mewn coedlan.

Rock Park & Spa, Llandrindod

Mae gan Barc Llyn Llandrindod llwybrau natur gwyllt, a gellir llogi caiacs, byrddau padlo a chychod padlo Fictoraidd yno. Ond os oes well gennych chi wylio, mae yno gaffi bychan hefyd. Os ydych chi yn chwilio am ychydig o hwyl, ewch i Barc Hamdden Princes Avenue, lle mae gweithgareddau addas ar gyfer y teulu, o denis bwrdd, i golff, bwrdd gwyddbwyll a snakes and ladders enfawr.

Pobl yn chwarae gwyddbwyll ar y bwrdd mawr yn yr awyr agored
Rhes o gaiacau ar ochr llyn.

Parc Hamdden Princes Avenue a’r llyn, Llandrindod

Mae gan Glwb Golff Llandrindod olygfeydd godidog sy’n edrych dros y dref a’r wlad gyfagos, yn ogystal â hanes hen a pharchus - sefydlwyd y clwb golff yn 1905.

Am brofiad arbennig sy’n rhan hanfodol o unrhyw wyliau hamdden, ewch i'r sba yn The Rock Spa yng ngwesty crand y Metropole. Yn y gwesty mae pwll nofio cynnes 18 troedfedd a sba, mewn ystafell wydr Fictoraidd.

Tu allan i westy mawr wedi'i baentio'n wyrdd mewn tiroedd â lawntiau.

Gwesty Metropole, Llandrindod

Byddwch yn actif - llwybrau cerdded a beicio

Mae Llandrindod, sy’n aml yn cael ei alw’n ‘borth i ganolbarth Cymru’, yn wych ar gyfer cerddwyr a beicwyr gydag amrywiaeth eang o lwybrau. Gall cerddwyr profiadol daclo rhannau o Lwybr Lein Calon Cymru a’r wlad o’i gwmpas. Gall y rhai sy’n dymuno taith fwy hamddenol grwydro’r dref ac ar hyd lan Afon Ieithon. Mae dewis ardderchog o deithiau i’w gweld ar Wefan Tref Llandrindod.

I'r dwyrain ac i'r de o Landod y mae'r dirwedd hynafol oedd yn cael ei adnabod fel Elfael ar un adeg. Wedi'u cuddio ymysg y bryniau mae aneddiadau canoloesol a thirweddau cyn-hanesyddol hynod o ddiddorol. Mae bryniau amlwg y Carneddau (na ddylid eu drysu â'r mynyddoedd o'r un enw yn Eryri) i'r de o Landrindod. Mae bryngaerau o'r Oes Haearn fel Gaer Fawr a Chaer Einon yn dangos olion amddiffynfeydd amddiffynnol. Gyferbyn â’r Carneddau, mae Bryn Gilwern yn rhostir agored gyda rhannau wedi’i cau gyda waliau sych. Gallwch gerdded ar hyd hen, hen ffyrdd, a gai eu troedio gan y porthmyn gwartheg Cymreig wrth iddyn nhw yrru eu gwartheg Duon Cymreig i farchnadoedd yn y dinasoedd yn Lloegr. Gyda mynediad hawdd mae'r ardal hon yn mynd â chi'n syth at galon Elfael cyn-hanesyddol. 

Meddwl dod â beic gyda chi? Mae digon o draciau beic oddi ar y ffordd, yn ogystal â theithio ar hyd lonydd gwledig tawel. Mae llwybr 8 ac 825 (Cylch Maesyfed) y rhwydwaith Beicio Cenedlaethol gerllaw, sy’n cynnig amrywiaeth o anturiaethau beicio fyddai’n ysbrydoli pob gallu. Wrth fynd i’r gorllewin tua'r arfordir, byddwch yn cyrraedd Cwm Elan gyda'i olygfeydd arbennig o gronfeydd dŵr ac argaeau. Gallwch logi beiciau yma, ac archwilio llwybrau ffordd sy'n addas i deuluoedd neu amrywiaeth o lwybrau beicio mynydd.

Llefydd i aros yn Llandrindod

Os ydych yn chwilio am brofiad moethus yn Llandrindod, yna arhoswch yn ysblander Gwesty’r Metropole

Mae'r Greylands Guest House yn dŷ brics coch Fictoraidd o fewn pellter cerdded i ganol y dref.

Mae tafarn wledig The Bell Country Inn yn cynnig ystafelloedd cyfforddus ar gyrion y dref, ac ychydig ymhellach eto, gallwch fwynhau arhosiad hamddenol yn Holly Farm.

Os am osgoi technoleg yn llwyr, yna The Straw Cottage yw’r lle i chi. Mae’r bwthyn anghysbell hwn yng nghanol coed a chaeau ac mae’r profiad o fod heb gyswllt y we yn berffaith ar gyfer syllu ar y sêr a nosweithiau clyd o amgylch y tân.

Bwyd a diod yn Llandrindod

Mae amrywiaeth dda o lefydd bwyta yn ‘Llandod’ - rhywbeth at ddant pawb! Mae’r Herb Garden Café yn ffefryn os am baned o goffi, cacennau a chinio ysgafn, felly hefyd Powells Bistro sy’n cael ei redeg gan y teulu. 

Os am bryd bwyd moethus rhowch eich dillad gorau ymlaen ac ewch i fwyty Radnor & Miles yng Ngwesty’r Metropole. Ar gyfer pryd mwy hamddenol ei natur, mae Fabian's Kitchen yn lle cyfeillgar sy’n cynnig byrgyrs wedi eu cynhyrchu yn lleol, cyris a phitsas cartref tra bo The Fish Bar yn siop sglodion dda iawn.

Os am fwyd tafarn a diodydd mewn amgylchedd cartrefol, yna mae’r dafarn o’r 16eg Ganrif, y Llanerch Inn yn werth chweil. Ond os ydych chi’n chwilio am awyrgylch mwy cosmopolitan, ewch i gael coctels yn y Temple Bar yng nghanol y dref.

Blaen caffi dan lwybr cerdded wedi’i orchuddio â gwydr, gyda seddi lliwgar y tu allan.
Adeilad o frics coch gyda byrddau a chadeiriau ar batio.

Herb Garden Cafe a Powell’s Bistro, Llandrindod

Gwybodaeth bellach

Mae’n hawdd cyrraedd Llandrindod ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae reilffordd Lein Calon Cymru gyda’i golygfeydd bendigedig yn darparu cysylltiadau o’r Amwythig a thu hwnt. Mae Traveline Cymru yn ddefnyddiol os ydych am gynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Straeon cysylltiedig