Dydy gwyliau beicio mynydd yng Nghymru ddim yn wyliau arferol. Anghofiwch am dorheulo wrth y pwll, ac yn lle hynny, dewch i deimlo’r awel yn eich gwallt wrth i chi wibio drwy goedwigoedd, croesi bryniau gwyllt, a mwynhau’r golygfeydd ar antur heb ei hail.

Cymru: y lle gorau am wyliau beicio mynydd

Mae Cymru’n baradwys i’r rheini sy’n mwynhau treulio’u horiau hamdden ar ddwy olwyn, gan fod ein cefn gwlad yn orlawn o lwybrau beicio. Fe allwch chi gwblhau rhai ohonyn mewn dwy awr, tra bydd eraill yn ddigon i gadw’r beicwyr mwyaf heini’n brysur am ddiwrnodau.

Ar ben hynny, mae yma ganolfannau gwych, tywyswyr lleol cyfeillgar, a chymunedau sy’n croesawu reidwyr drwy’r flwyddyn gron. Mae’n hawdd iawn gweld pam mai Cymru yw’r lle gorau ym Mhrydain am wyliau beicio mynydd.

Darllenwch fwy: Beicio mynydd yng Nghymru

 

Tri beiciwr mynydd yn edrych i lawr bryn.

Mountain biking in the Ceredigion hills, Mid Wales

Ewch yn syth i’r rhan sy’n eich diddori chi

Mae rhai pobl yn mwynhau’r her wrth gael gwyliau fel hyn. Mae eraill yn dod i gwrdd â phobl debyg sydd wrth eu boddau’n beicio. Ond ar y cyfan, bod yn yr awyr agored yng nghanol harddwch cefn gwlad Cymru ydy’r peth, a’r golygfeydd yn aml yn cipio anadl ymwelwyr.

Ai taith dywys ar feic mynydd yw’r gwyliau iawn i chi?

guidedBeth sy’n darbwyllo teithwyr i gyfnewid het haul am helmed? Yn ôl Phill Stasiw, sylfaenydd Mountain Bike Wales, mae yna gyfuniad o ffactorau ar waith.

“Mae rhai pobl yn mwynhau’r her wrth gael gwyliau fel hyn. Mae eraill yn dod i gwrdd â phobl debyg sydd wrth eu boddau’n beicio. Ond ar y cyfan, bod yn yr awyr agored yng nghanol harddwch cefn gwlad Cymru ydy’r peth, a’r golygfeydd yn aml yn cipio anadl ymwelwyr.”

Does dim rhaid i chi fod yn treulio’ch holl ddyddiau mewn lycra i fwynhau taith dywys ar wyliau beicio mynydd yng Nghymru – mae’r rhan fwyaf o’r teithiau’n denu pobl gyfeillgar sy’n gymysg iawn eu gallu.

Mae gwyliau ar gael sy’n addas i bob lefel. Mae modd i reidwyr newydd gael hyfforddiant wrth brofi eu taith gyntaf dros y tir. Ac ar y llaw arall, mae teithiau aml-ddiwrnod sy’n croesi Cymru benbaladr yn gallu bod yn hynod o heriol, hyd yn oed i reidwyr profiadol iawn. Mae rhai darparwyr hefyd yn cynnig beiciau trydan sy’n addas ar gyfer pob math o dir, a’r rheini’n helpu beicwyr i fwynhau’r wlad pan allai eu ffitrwydd gyfyngu arnyn nhw fel arall.

Teithiau beicio mynydd gwefreiddiol sy’n para sawl diwrnod

multiI’r rheini sydd â’u bryd ar daith feics dros bellter hir, mae’r teithiau beicio mynydd hyn drwy Gymru, wedi’u trefnu gan Mountain Bike Wales, yn gyfle i gael her ac i ddarganfod llefydd newydd.

  • Ffordd y Traws Cambria: Taith 112 milltir (180 km) dros dridiau drwy berfeddion Cymru, yn troelli o amgylch llynnoedd ac yn dringo drwy gopaon Mynyddoedd Cambria. Byddwch chi’n teithio o Drefyclo ar y ffin rhwng Cymru a Lloger yr holl ffordd at gyrion deheuol Eryri.
  • Taith Sarn Helen: Taith aruthrol dros chwe niwrnod o’r naill arfordir i’r llall – o Gonwy yn y gogledd i draethau Gŵyr yn y de. Mae’r llwybr yn dilyn hen ffordd Rufeinig chwedlonol. Ar hyd y daith, fe fyddwch chi’n pasio rhai o dirweddau enwocaf Cymru, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
  • Traws Eryri: Her 140 milltir (225 km) oddi ar y ffordd dros bedwar diwrnod rhwng Machynlleth a Chonwy. Fe fyddwch chi’n reidio ar hyd hen ffyrdd gwledig yn entrychion y mynyddoedd a thrwy goedwigoedd brodorol Eryri, gan ymweld â phedair canolfan beicio mynydd ar y ffordd.

Ble i reidio

Mae gan bob rhan o Gymru ei thirwedd unigryw ei hun ar gyfer beicio, felly chi biau’r dewis.

Teithiau beicio mynydd yn y gogledd

northGyda gwifrau gwib yn ymestyn uwch eich pen a thrampolinau anferth yn llenwi ogofâu tanddaearol, mae’r gogledd wedi creu enw’n ddiweddar fel atynfa i bobl sy’n chwilio am wefr. A dydy llwybrau beicio oddi ar y ffordd yr ardal yn sicr ddim yn siomi.

  • Gwydir Mawr a Bach: Llwybr Marin oedd yr hen enw ar y cylchdro 16 milltir (25 km) hwn o Lanrwst, sy’n gwobrwyo dringfeydd caled drwy goedwigoedd gyda golygfeydd mynyddig penigamp.
  • Llwybrau Penmachno: Dau gylchdro o lwybr sengl cyflym, gyda gwirfoddolwyr lleol brwd yn ei reoli ac yn gwneud y gwaith cynnal a chadw i gyd. Er nad oes gwasanaeth tywys ar y safle, mae mapiau, cyngor a lle trwsio beics ar gael.

Mae digonedd o lety i feicwyr ar gael ym Mhenmachno, Bews-y-Coed, Llanrwst a Dolwyddelan, gyda’r prisiau amrywiol yn golygu bod rhywbeth sy’n addas i bawb.

I gael taith dywys lawn, mae Adventure Tours UK yn trefnu teithiau beicio mynydd i grwpiau bach yn y gogledd, a’r rheini’n dilyn llwybr pell Traws Eryri.

Darllenwch fwy: Antur ddeuddydd ar feiciau mynydd a gwifrau gwib yn y gogledd.

MBWales: Llwybr Marin, Betws-y-Coed, Gogledd Cymru

Gwyliau beicio mynydd yn y canolbarth

midMae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sef Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Cymru, yn enwog am y sêr y gallwch chi’u gweld oddi yno. Ond ar yr un pryd, mae’r ardal yn prysur serennu yn y byd beicio mynydd oddi ar y ffordd. Mae dyffrynnoedd eang y parc, y llwybrau drwy’r coedwigoedd, a’r cribau llawn grug yn golygu mai dyma un o’r llefydd gorau ym Mhrydain i feicio mynydd.

  • Black Mountain Adventure: Wedi’u lleoli yng ngorllewin y Bannau, mae Black Mountain Adventure yn trefnu teithiau tywys a theithiau y byddwch chi’n eu dilyn eich hun. Maen nhw’n para diwrnod, a chithau’n mynd drwy ddyffrynnoedd braf, i fyny i lecynnau godidog fel Penybegwn, neu drwy lwybrau coediog i fannau prydferth fel y Begwns, un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle bydd da byw’n pori o’ch cwmpas a chreiriau i’w gweld sydd yn ôl y sôn yn perthyn i’r Oes Efydd. Mae’r ganolfan yn llogi beiciau a helmedi, ac mae modd iddi drefnu teithiau beicio mynydd yn arbennig i chi, a’r rheini’n para sawl diwrnod
     
  • Mountain Bike Wales: Wedi’u lleoli ym Mhenffordd-las, Powys, mae Mountain Bike Wales yn cynnal taith boblogaidd Summit to Sea, gyda chyfle i nofio yn y môr yn nhref arfordirol Aberdyfi. Maen nhw hefyd yn tywys reidwyr drwy rannau o Lwybrau Mach, sef tri llwybr beicio adnabyddus sy’n troelli o amgylch rhai o gopaon uchaf Mynyddoedd Cambria.

Gwyliau beicio mynydd yn y de

southYn y de y mae dinasoedd mwyaf poblog y wlad, lle mae bariau a bwytai Caerdydd ac amgueddfeydd a thai hanesyddol Casnewydd yn denu ymwelwyr rif y gwlith. Ond dyma ardal sydd hefyd yn baradwys i’r rheini sydd am reidio beic oddi ar y ffordd.

  • BikePark Wales: Ar gyrion Merthyr Tudful, mae BikePark Wales yn adnabyddus fel un o ganolfannau beicio mynydd gorau Prydain. Mae gan y parc tua 40 o lwybrau wedi’u graddio, gwasanaeth i roi lifft i reidwyr yn ôl i’r copa, offer i’w logi, a hyfforddwyr ar y safle. Mae yma hefyd gaffi croesawgar i adennill nerth ar ôl reid. Mae ein canllaw llawn i BikePark Wales fan hyn.
  • Coedwig Cwmcarn: Llwybrau traws gwlad mwy traddodiadol sydd yng Nghoedwig Cwmcarn. Mae yma ddau gylchdro gydag arwyddion i ddangos y ffordd – Llwybr Cafall a Llwybr Twrch – a’r rheini’n cynnig cyfuniad o ddringfeydd technegol a disgynfeydd cyflym, gyda rhannau agored yn croesi’r grib fry uwchben Môr Hafren. Llwybr y byddwch chi’n ei ddilyn eich hun yw hwn, ond mae modd llogi beiciau a chael mapiau a chyngor o’r ganolfan ymwelwyr ger y prif faes parcio.
  • WyeMTB: Dau feiciwr brwd a sefydlodd WyeMTB yn Nhrefynwy yn 2010. Maen nhw’n cynnig pob math o deithiau tywys ar feiciau mynydd, o deithiau byr sy’n addas i deuluoedd i anturiaethau dros dridiau gyda cherbyd cynorthwyol drwy gymoedd dramatig y de. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig reidiau blasu rhad ac am ddim ar nosweithiau Iau, gan roi cyfle i newydd-ddyfodiaid brofi’r wefr o seiclo oddi ar y ffordd mewn awyrgylch teuluol braf.
Dau o bobl ar feiciau mynydd ar lwybr mewn parc beicio.
dau berson ar feiciau mynydd yn y coedwig mewn parc beiciau gyda’r haul yn disgleirio drwy’r coed.
unigolyn ar feic mynydd mewn parc beicio.

BikePark Wales, Merthyr Tudful, De Cymru

Gwyliau beicio mynydd yn y gorllewin

WestMae’r gorllewin yn lle penigamp ar gyfer gwyliau beicio mynydd. Mae’r ardal yn llawn dop o lwybrau y byddwch chi’n eu dilyn ar eich pen eich hun, a’r rheini’n dangos pa mor amrywiol yw’r tir yma.

  • Coedwig Crychan: Mae gan Goedwig Crychan ger Llanymddyfri rwydwaith o lwybrau oddi ar y ffordd sydd wedi’u graddio’n ‘hawdd’, a’r rheini’n troelli drwy goetir tawel. Dyma le perffaith i grwydro’n hamddenol.
  • Stad Ystagbwll: A honno’n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae gan Stad Ystagbwll lwybr arfordirol heriol sy’n bedair milltir (6.5 km) o hyd, a hwnnw’n rhoi golygfeydd ysblennydd o frig y clogwyni.
  • Parc Coedwig Afan: Mae Parc Coedwig Afan yn lleoliad beicio mynydd sy’n enwog yn fyd-eang. Yn y bryniau uwchben Port Talbot ac Abertawe, mae yma ddetholiad o lwybrau, yn amrywio o rai Gwyrdd hamddenol i rai Du gwirioneddol heriol.
  • Canolfan Antur Bae Morfa: Bydd y rheini sy’n dod yma yng nghwmni reidwyr iau neu lai profiadol wrth eu boddau â’r trac ar y safle yng Nghanolfan Antur Bae Morfa – trac sydd wedi’i ddylunio gan y beiciwr mynydd enwog, Rowan Sorrell (sydd wedi gweithio ar lwybrau mewn lleoliadau mor amrywiol â Czechia ac India). Dyma le diogel sydd wedi’i adeiladu’n benodol at y diben, ac mae cyfle yma i ddechreuwyr brofi’u sgiliau o dan oruchwyliaeth. Mae’r beiciau, yr helmedi a’r padiau i gyd yn cael eu darparu.

Mae rhagor o lwybrau i chi’u dilyn eich hun yn yr ardal ar wefannau Darganfod Sir Gâr ac Ymweld â Sir Benfro

 

 Beiciwr mynydd yn mynd i lawr llwybr.
Dau feiciwr mynydd ar lwybr ym Mharc Coedwig Afan.

Gwyliau beicio mynydd hygyrch i’w dilyn eich hun

Gwyliau beicio mynydd hygyrch i’w dilyn eich hun

accessibleMae gan Gymru nifer o lwybrau i’w dilyn eich hun sy’n addas i feiciau llaw neu gadeiriau olwyn sydd wedi’u haddasu.

Llwybr Rookie: Ym Mharc Coedwig Afan, mae Llwybr Rookie yn llwybr gwyrdd hamddenol, 3.6 milltir (5.8 km) o hyd, sydd wedi’i ddylunio ar gyfer newydd-ddyfodiaid a’r rheini sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu feiciau wedi’u haddasu. Mae’r llwybrau’n llydan a braf, gyda llefydd i stopio am bicnic ar lawr y dyffryn.

  • Llwybr Derwen: Llwybr 6.2 milltir (10 km) ar ffyrdd coedwig, sy’n addas i gadeiriau olwyn a beiciau wedi’u haddasu. Fe ddewch chi o hyd iddo ym mhrydferthwch Coedwig Beddgelert, ac mae’n lle delfrydol i reidwyr o bob gallu fwynhau coetiroedd a golygfeydd o gopa’r grib.
  • Llwybr MinorTaur: Dyma un o lwybrau canolfan Coed y Brenin, a’r mwyaf technegol o’r tri. Bydd yn rhoi her gyffrous i reidwyr sy’n defnyddio offer wedi’i addasu.

Mae tudalen wych ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda fideos yn dangos rhai o’r llwybrau hygyrch, a’r rheini’n egluro i ba fathau o feiciau arbenigol y mae pob un yn addas.

Mae modd llogi beiciau wedi’u haddasu o leoliadau penodol hefyd, gan gynnwys Beics Antur yng Nghaernarfon.

Cynlluniwch eich taith ar feic mynydd drwy Gymru

Pryd ddylech chi fynd

planMae modd mwynhau beicio mynydd yng Nghymru drwy’r flwyddyn gron, bron iawn.

Yn y gwanwyn a dechrau’r haf bydd y llwybrau’n galed, y tymheredd yn gynnes, a’r tir yn blodeuo, sy’n ddelfrydol ar gyfer diwrnodau hir ar gefn y beic. Gall y tymheredd godi yn ystod mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst, felly cofiwch baratoi’n iawn os byddwch chi’n reidio yng nghanol haf.

Yn yr hydref, bydd y llwybrau’n dawelach a’r lliwiau’n euraidd. Gall y tywydd amrywio, rhwng tywydd braf a heulog a thywydd oer a glawog, ond mae digonedd i’w fwynhau y naill ffordd neu’r llall.

Yn y gaeaf, bydd beicwyr profiadol yn eu helfen, gyda thir technegol, mwdlyd, a llai o dorfeydd. Gall y gaeaf roi antur wefreiddiol i chi, ond mae’n well osgoi beicio mewn eira.

Mae’r canolfannau ar agor drwy gydol y flwyddyn, ond edrychwch ar y rhagolygon tywydd lleol cyn cychwyn ar eich taith.

Beth i’w bacio

  • Dillad sy’n dal dŵr a haenau cynnes (hyd yn oed yn ystod y misoedd cynhesach)
  • Helmedi a menig
  • Offer sylfaenol a darnau sbâr
  • Byrbrydau a photel ddŵr y gallwch chi’i hail-lenwi

Er bod modd llogi neu brynu rhywfaint o offer a chyflenwadau yn nifer o ganolfannau beicio mynydd Cymru, mae hi wastad yn ddoeth paratoi ymlaen llaw.

Trefnwch eich taith dywys chi ar eich gwyliau beicio mynydd

  • bookMountain Bike Wales: Yn cynnig amrywiaeth o deithiau tywys sy’n cynnwys llety o ansawdd da, prydau sy’n defnyddio bwyd lleol, a chymorth proffesiynol. Mae teithiau sydd wedi’u creu’n arbennig i chi ar gael.
  • Adventure Tours UK: Yn trefnu teithiau beicio mynydd i grwpiau bach, gan ddilyn llwybr Traws Eryri. Mae’r daith dywys yn cynnwys pedwar diwrnod o reidio ar y llwybr 140 milltir, gyda phum noson mewn llety cyfforddus lleol, ynghyd ag ambell frecwast a phryd gyda’r nos. Maen nhw’n cludo eich bagiau hefyd. Fe fyddan nhw hyd yn oed yn pannu coeden frodorol yn eu coedwig ar gyfer pob reidiwr.
  • Black Mountain Adventure: Yn ddelfrydol i ddechreuwyr, mae’r sesiynau beicio mynydd 2-3 awr hyn, a chithau’n cael eich tywys, yn cyd-fynd â gallu’r reidwyr. Bydd hyfforddwyr arbenigol wrth law i rannu eu sgiliau, i roi arweiniad, ac i ddangos ambell dric i chi ar hyd y ffordd.
  • WyeMTB: Yn cynnig teithiau tywys sydd wedi’u trefnu’n arbennig i chi drwy Ddyffryn Gwy, Bannau Brycheiniog, y Mynydd Du a Fforest y Ddena. Bydd tywyswyr sydd wedi cymhwyso gyda British Cycling yn eich arwain, a phob reid yn addas i brofiad eich grŵp a’r math o dir sydd orau gennych chi. Dewiswch o sesiynau hanner diwrnod i anturiaethau sy’n para sawl diwrnod.
Beicwyr mynydd ar lwybr ar ochr bryn.

Taith beicio mynydd gyda WyeMTB, De Cymru

Straeon cysylltiedig

Dau feiciwr yn beicio i ffwrdd o'r camera i lawr y trac

Gwibio ar i waered

Caiff beicwyr mynydd profiadol fodd i fyw ym mynyddoedd Cymru. Buan y gwêl Iestyn George fod croeso i feicwyr beth bynnag eu hoedran a'u gallu.

Pynciau: