Mae gennym fynyddoedd o fynyddoedd. Ein tirlun o gopaon sy’n crafu’r nen a chymoedd serth yw’r lle chwarae perffaith i feicwyr anturus. Estynnwyd ein hasedau naturiol gan lwybrau, traciau a chanolfannau wedi’u cynllunio’n arbennig er mwyn ei gwneud yn hawdd a chyflym darganfod ein byd beicio eithriadol. Dyma’r lleoedd i ryddhau’ch olwynion.

Coed y Brenin, Eryri

Mae Coed y Brenin, canolfan beicio mynydd arbenigol gyntaf y DU, ymhlith y goreuon o hyd yn y byd beicio. Bydd llwybrau pwrpasol, pob tywydd, un trac ag enwau fel The Cavity a Falseteeth yn cyflymu calonnau beicwyr profiadol, ac mae dewisiadau ysgafnach ar gael i ieuenctid a beicwyr mwy achlysurol. Mireiniwch eich techneg ym Mharc Beicio ac Ardal Sgiliau’r Ffowndri, ymlaciwch a thorrwch eich syched yng nghaffi’r ganolfan groeso a phorwch Beics Brenin, sy’n llawn o gyfarpar beicio a beiciau i’w llogi.

Llun agos o olwyn gefn beic
Llun o Richard Parks yn beicio mynydd yn y goedwig
Llun o feic yn pwyso ar bont

Coed y Brenin, Eryri

Parc Coedwig Afan, Cwm Nedd

O ddisgyniadau sengl i ffyrdd creigiog llydan, profwch eich nerfau ar gefn beic ar draws Parc Coedwig Afan, a thros 80 milltir o drac yn y parc hwn sy’n hawdd ei gyrraedd. Cadwch lygad am lwybr garw ofnadwy’r Skyline, sy’n cynnig cannoedd o fetrau o godi a disgyn, a llwybr amlbwrpas White's Level a adeiladwyd yn arbennig. Archwiliwch y traciau naill ai o Ganolfan Groeso Coedwig Afan neu o Ganolfan Beicio Mynydd Pyllau Glyncorrwg, a’r ddau le’n cynnig caffis a mannau llogi beiciau.

Dau berson yn beicio dros fynydd

Parc Coedwig Afan, Cwm Nedd

Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

Cyffro am i lawr sy’n denu yn Antur Stiniog, yn yr hen dref lechi. O’r ganolfan ragoriaeth beicio hon, yn gyffro i gyd, cewch fynd nerth eich olwynion dros riwiau serth a thiroedd trafferthus. Does dim angen poeni am ddringo wrth feicio. Bydd y gwasanaeth codi cyflym yn eich cludo i ben uchaf rhwydwaith o saith llwybr creigiog Antur Stiniog, er mwyn i chi gadw’ch holl nerth i wibio i lawr unwaith eto.

Dau feiciwr yn beicio i ffwrdd o'r camera i lawr y trac

Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

Llwybrau Penmachno, Eryri

Rheolir Llwybrau Penmachno gan grŵp cymunedol brwdfrydig, gan gynnig siwrnai feicio a fydd yn aros yn hir yn y cof. Am 19 milltir, mae’r ddau lwybr dolennog hyn yn codi a disgyn ar y math o onglau a allai wneud i chi dynnu’ch llygaid am ennyd oddi ar y golygfeydd rhyfeddol ar draws Eryri. Ar ôl i chi feicio’r llwybrau, ewch i dafarn yr Eagles ym mhentref Penmachno, sy’n croesawu beicwyr am hoe haeddiannol.

Coed Llandegla, Wrecsam

Yng Nghoed Llandegla ymlwybra’r gyfres hynod boblogaidd hon o rediadau drwy 650 hectar o fryniau a choedwig, gan gynnig pedwar math o lwybrau â chod lliw: o’r gwyrdd sy’n addas i deuluoedd, i’r rhai du heriol. Bydd y llwybrau byrrach yn eich cadw ar flaen eich sedd ac yn profi’ch ffitrwydd, a’r rhai hirach yn llawn o brofion technegol a chwympiadau serth cyffrous.

Bwlch Nant yr Arian, Aberystwyth

Fry yn y mynyddoedd ychydig i mewn i'r tir o Aberystwyth, mae Bwlch Nant yr Arian yn meddu ar drac sengl pwrpasol hir a gynlluniwyd i herio beicwyr profiadol. Mae llwybrau heriol fel 22 milltir Syfydrin yn cynnig gwledd i’r llygaid ynghyd â beicio gwefreiddiol, gyda golygfeydd penfeddwol o Fynyddoedd Cambria a Bae Ceredigion.

Llun o ffordd gyda bryniau, nant a chaeau yn y cefndir

Nant yr Arian, Ceredigion

BikePark Wales, Merthyr Tudful

Yn y ganolfan beicio ar i lawr bwrpasol fwyaf a gorau yn y De , BikePark Wales, ceir dwsinau o lwybrau gwefreiddiol ar gyfer bob lefel o feicwyr. Gall yr hen lawiau fynd i’r afael â llamau anferth Enter the Dragon a gwibio ar hyd Vicious Valley, a gall newydd-ddyfodiaid ymgyfarwyddo â’r gamp yn Badger’s Run. Ceir hefyd wasanaeth codi, caffi clyd a siop feiciau llawn offer.

Brechfa, Sir Gaerfyrddin

Dewiswch un o dri llwybr yma ym Mrechfa, a’r cyfan yn dangos i chi’r gorau o’r goedwig hardd hon. I’r amhrofiadol, enwyd llwybr Derwen ar ôl y coetir derw y mae’n tramwyo drwyddo. Arwyneb pob tywydd sydd gan lwybr caletach Gorlech, a llwybr Raven yn profi’ch sgiliau ar gorneli heriol.

Straeon cysylltiedig