Gwyliau bach yn y ddinas neu hoe yn y wlad?
Yn chwilio am wyliau neu hoe fach sy’n gwbl arbennig? Cymerwch olwg ar ein dewis o lety gwych ac amrywiol – fe gewch chi’ch synnu beth sydd gan Gymru i’w gynnig!
Mae prifddinas fodern, gymharol fechan Caerdydd yn prysur ddod yn lleoliad heb ei ail am wyliau bach mewn dinas. Mae’n hawdd cyrraedd yma, gyda digonedd o bethau i bawb o bob oed eu gwneud. Efallai eich bod chi eisiau tipyn o gyffro, talp o ddiwylliant, neu benwythnos sba lle cewch chi ymlacio’n llwyr. Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, dyma’r lle delfrydol i gael hoe. Ewch i fwynhau’r steil yn un o westai moethus Caerdydd, neu cymerwch gip ar rai o’r llefydd penigamp eraill i aros yn y ddinas.
Yr arfordir neu gefn gwlad yn apelio fwy? Dewch o hyd i lety bwtîg ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, meysydd gwersylla hudolus wrth y môr, llefydd i aros sy’n croesawu cŵn, gwestai sba i’ch sbwylio’n racs, a hyd yn oed gestyll y gallwch chi gysgu ynddyn nhw. Am rywbeth cwbl fythgofiadwy, mae sawl lle unigryw ac anarferol i aros yng Nghymru hefyd.
Bwyd bendigedig a blasau gorau Cymru
Ym mhob cwr o Gymru, mae llefydd sy’n cynnig bwyd a diod lleol o ansawdd rhagorol. Wyddech chi fod gan Gymru sawl bwyty eithriadol o dda sydd â seren Michelin? Neu fod ein gwyliau bwyd a diod penigamp, sy’n cael eu cynnal drwy Gymru benbaladr, yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn?
Beth am gael blas o Gymru eich hun ar un o’n teithiau bwyd a diod, lle bydd arbenigwyr yn eich tywys bob cam o’r ffordd? Blaswch win campus ar daith drwy winllan, neu fwynhau te prynhawn wrth gael saib o’r crwydro.
Gwlad beirdd a chantorion (a sêr chwaraeon)
Rydyn ni’n falch o’n diwylliant – o’r Gymraeg a’i hen hanes, o faner unigryw’r Ddraig Goch, ac o’n croeso cynnes enwog. Rydyn ni wrth ein boddau’n mynd i wyliau, a’r un yn fwy na’r Eisteddfod Genedlaethol a’i dathliad o ddiwylliant a doniau Cymraeg. Mae Tafwyl a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn rhoi blas yn unig o’n gwyliau cerddorol a diwylliannol byd-enwog, tra bo ein gwyliau diwylliannol a chelfyddydol amgen, gan gynnwys Between the Trees, yn bair o greadigrwydd a hwyl.
Does dim i guro’r angerdd a’r awyrgylch ar ddiwrnod gêm fawr. Dewch i Gaerdydd am wyliau bach pan fydd gemau rygbi rhyngwladol neu griced yn cael eu cynnal, neu ewch i wylio Wrecsam neu Abertawe yn chwarae pêl-droed yn y cynghreiriau mawr.
Anturiaethau awyr agored ardderchog
Mae pob math o hwyl i’w gael yn yr awyr agored ar wyliau bach yng Nghymru. Beth am fwynhau gwyliau llawn cyffro drwy fynd ar ddiwrnod antur i’r teulu neu wyliau gweithgareddau grŵp i bobl o bob oed? Dysgwch sgiliau newydd yng nghwmni dringwyr creigiau profiadol, neu mentrwch i ganol yr ewyn yn un o’n canolfannau rafftio dŵr gwyn. Ewch i gael cip ar ein gwyliau marchogaeth a’n gwyliau dechrau syrffio i fwynhau mwy fyth o harddwch ein cefn gwlad a’n harfordir.
I gael gwyliau bach tawelach, ond eto’n llawn dop o antur, trefnwch wyliau cerdded, gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru, y llwybr cyntaf yn y byd yn grwn i ddilyn holl arfordir gwlad. Neu dilynwch un o’r llwybrau eraill niferus sydd wedi’u harwyddo yma. Dewis da arall yng Nghymru, a ninnau â’r ganran uchaf yn y pedwar ban o dir sydd â statws Awyr Dywyll, ydy darganfod cyfrinachau’r sêr drwy ymweld ag un o’n gwarchodfeydd Awyr Dywyll rhyfeddol.
Golff a golygfeydd
Mae Cymru’n gartref i rai o gyrsiau golff gorau Prydain, a’r rheini’n cynnig cyfleoedd chwarae gwych mewn ardaloedd rhyfeddol. Ymhlith y rhai mawr eu bri mae Cwrs Golff Brenhinol Dewi Sant, sydd i’w ganfod o dan ysblander Castell Harlech, gyda chopaon Eryri yn gefnlen. Mae’r cwrs meysydd golff hwn, sy’n gwrs o safon pencampwriaeth, yn enwog am ei gynllun heriol a’i harddwch naturiol eithriadol.
Ar arfordir y de, mae Clwb Golff Brenhinol Porthcawl yn aml yn cael ei grybwyll fel un o’r goreuon ym Mhrydain. A hwnnw mewn lleoliad dramatig ar lan y môr, a’r chwarae’n go heriol, mae’r cwrs wedi cynnal nifer o dwrnameintiau mawr, gan gynnwys Pencampwriaeth Agored y Chwaraewyr Hŷn a Phencampwriaeth Agored AIG y Menywod yn 2025. Ymhlith y cyrsiau enwog eraill mae’r Celtic Manor yng Nghasnewydd, lleoliad Cwpan Ryder yn 2010, a Chlwb Golff Porth Llechog ar Ynys Môn – y cwrs mwyaf gogleddol yng Nghymru.
Ar gefn beic drwy Gymru
Dewch â’ch beic a rhoi her i chi’ch hun ar wyliau beicio anhygoel yng Nghymru. Bydd Cymru’n cynnal cymal o’r Tour de France yn 2027, ac mae’r wlad yn prysur wneud enw iddi’i hun fel atynfa o’r radd flaenaf i feicwyr o bob gallu. Mae llwybrau Sustrans pellter hir yn croesi Cymru benbaladr, tra bo llwybrau beics graean yn gyfle i grwydro drwy fwy o’n hardaloedd anghysbell. A gallai taith sawl diwrnod ar gefn beic mynydd dros gopaon a thrwy ddyffrynnoedd Cymru fod yn un o uchafbwyntiau’ch blwyddyn.
Mae ein canolfannau beicio mynydd yn rhai cwbl benigamp. Dewch â’ch beic eich hun neu llogwch feic yno. Y teulu’n ifanc? Llosgwch rywfaint o egni drwy fynd ar daith feics fel teulu – mae gennyn ni lwybrau di-draffig gwych i’w crwydro.
Cyffro ar yr arfordir a bywyd gwyllt godidog
Bydd pobl sy’n hoff o fyd natur yn cael modd i fyw drwy ymweld â rhai o lefydd gorau Cymru am fywyd gwyllt, lle mae cyfle i weld adar ysglyfaethus, palod a chreaduriaid y môr. Crwydrwch Ffordd yr Arfordir i ddarganfod pentrefi pysgota tlws, cestyll ysblennydd, cildraethau tawel a thraethau bendigedig. Tybed welwch chi’r dolffiniaid direidus yn y môr?
Camwch ar gwch a mynd ar daith i ynysoedd sy’n gynefinoedd i adar dirifedi. Mae yma hefyd afonydd tawel a chyfle i chwilio am leision y dorlan a chrehyrod glas ar lannau camlesi. Cerddwch rannau o Lwybr Arfordir Cymru i ryfeddu at fywyd gwyllt yr arfordir, neu anelwch am wylltiroedd y canolbarth i wylio’r barcutiaid cochion yn yr entrychion fry uwch eich pen.