Gyda llwybrau troed troellog yn eich tywys chi drwy fryniau a dyffrynnoedd gogoneddus, hen goedwigoedd ac arfordir garw, mae Cymru'r lle perffaith i fentro allan gyda’ch ci. Cofiwch bacio picnic (a phowlen ddŵr cludadwy, wrth gwrs) a mwynhewch y crwydro. 

Ble sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru?

Mae nifer o draethau sy’n caniatáu cŵn yma drwy gydol y flwyddyn. Tra bo rhai rhannau o draethau yn caniatáu cŵn ar adegau penodol o’r flwyddyn, mae’r 870 milltir o Lwybr Arfordir Cymru yn clymu o amgylch yr arfordir, ac mae croeso i gŵn unrhyw bryd. Mae’r rhan fwyaf o’r parciau cenedlaethol a safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn croesawu ein cyfeillion pedair-coes gydol y flwyddyn. Mae rhai canllawiau penodol i lynu atyn nhw, wrth gwrs, pan ewch chi â’ch ci am dro mewn ardal wledig. Os nad ydych chi wedi arfer dilyn llwybrau troed ar dir fferm yna dylech chi ddarllen am y rheolau ymddygiad. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi Cod Cerdded Cŵn i’ch helpu chi, ond un peth amlwg i’w gadw mewn cof yw bod cadw’ch chi ar dennyn pan mae anifeiliaid fferm o gwmpas yn hanfodol.

Ydi cŵn yn cael mynd i mewn i dafarndai?

Mae nifer o dafarndai sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru sy’n llefydd perffaith i stopio am lymaid ar hyd taith gerdded hir yng nghanol y wlad. Mae gan rai tafarndai ardaloedd lle gallwch chi eistedd i fwynhau pryd o fwyd gyda’ch ci, tra bo eraill yn caniatáu cŵn yn yr ardd. Does dim amheuaeth y bydd powlen o ddŵr ar gael i’ch cyfaill bach a jar o fisgedi os ydyn nhw’n lwcus hefyd.

Bythynnod sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru

Yn cuddio i lawr lonydd bach y wlad ac yn swatio mewn parciau cenedlaethol, mae cefn gwlad Cymru yn frith o fythynnod gwyliau croesawgar. Wrth ddewis aros mewn bwthyn gwyliau, gallwch chi ymlacio a gwneud eich hun yn gartrefol yno. Ni fydd eich ci yn cael ei gyfyngu i ardaloedd penodol a chaiff grwydro i ble bynnag y mynnai.

Mantais arall yw ei bod hi’n debygol y bydd gennych chi ardd gaeedig, yn lle delfrydol i bawb ymestyn eu coesau, ac os dewiswch chi’n ddoeth gall fod digon o lwybrau cerdded yn mynd o’r drws ffrynt. Mae hi wastad yn braf gallu anghofio am allweddi’r car am ychydig ddyddiau a mwynhau crwydro llwybrau cerdded lleol.

Mae dod o hyd i fythynnod sy’n caniatáu cŵn yn hawdd. Yn y de, mae Bythynnod Fron Fawr yn lle da i grwydro arfordir gogleddol Sir Benfro a thref farchnad hanesyddol Aberteifi. Mae Honeysuckle Cottage yn sgubor wedi ei throi’n llety chwaethus ger trefi poblogaidd de Sir Benfro, Arberth a Dinbych-y-pysgod. Ac yn Myrtle Cottage ym Mhenrhyn Gŵyr, gallwch chi ymuno â Llwybr yr Arfordir o’ch drws ffrynt bron.

Os ydych chi’n mentro ar wyliau i’r canolbarth, mae Bythynnod Newbridge Farm yng nghanol Dyffryn Fyrnwy yn lle gwledig hyfryd i ddianc yno. I’r rheiny sy’n dymuno ymestyn eu coesau a cherdded llwybr hanesyddol Clawdd Offa, yna mae Bwthyn Gwyliau Ty Gwyn yn ddelfrydol. Os mai bwthyn yn Eryri ydych chi’n chwilio amdano, cymerwch olwg ar Ty’r Adar, llecyn tlws sydd i’w ganfod mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar gyrion y parc cenedlaethol. Er mwyn aros ym mherfeddion Eryri, rhowch gynnig ar aros ym Mythynnod Moel yr Iwrch sy’n sefyll ar gwr y mynydd lle cewch chi brofi awyr dywyll anhygoel sy’n ddelfrydol ar gyfer sêr-syllu.

Pobl yn mynd a’u cŵn am dro yn Llangynydd, gorllewin Cymru.

Llangynydd

Gwestai sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru

Os mai eich syniad chi o wyliau go iawn yw peidio â gorfod camu i mewn i archfarchnad nac i’r gegin, yna mae gwesty sy’n caniatáu cŵn yn ddewis gwych. Yn aml mae modd bwcio ystafelloedd penodol sy’n caniatáu anifeiliaid anwes ac mae gan rai gwestai bolisïau amrywiol ynghylch pa rannau o’r gwesty y cewch chi fynd a’ch ci yno.

Gwestai moethus sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru

Os ydych chi’n chwilio am ychydig o foethusrwydd, beth am aros yn un o westai crand Cymru. Mae’r gwestai moethus hyn i gyd yn cydnabod bod anifail anwes yn aelod pwysig o’r teulu ac maent yn eu croesawu’n gynnes.

Mae Llangoed Hall yn blasty gwledig delfrydol yn harddwch y canolbarth â 17 acer o erddi godidog o’i gwmpas. Ymhellach i’r de, mae’r Grove yn swatio mewn ardal wledig heb fod yn bell o arfordir deheuol Sir Benfro. Mae Gwesty Coed-y-Mwstwr hefyd yn blasty gwledig heb fod yn bell yn y car o oleuadau llachar Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Falcondale mewn lle da i grwydro Bae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Mae’r gegin yno’n paratoi prydau blasus wedi eu gwneud o gynnyrch lleol, ac yn cynnig te prynhawn. 

Os ydych chi’n chwilio am westai ar yr arfordir fydd yn caniatáu i chi fynd â’r ci gyda chi, does dim curo ar yr Oxwich Bay Hotel ym Mhenrhyn Gŵyr gyda’i olygfeydd eang o’r traeth tywodlyd. Mae’r New House Country Hotel yn lle braf yng nghanol y gwyrddni ar gyrion Caerdydd lle cewch chi olygfeydd arbennig o’r ddinas islaw, y bae ac arfordir Dyfnaint yn y pellter.

Yn olaf, os am westy go arbennig, bwciwch ystafell yng ngwesty Palé Hall yng ngogledd Cymru. Croesawodd y plasty Fictorianaidd hwn y Frenhines Victoria ei hun yma i’r ystafelloedd ysblennydd ac mae’r bwyd yma wedi ennill gwobrau.

tu allan i adeilad gwyn wedi ei amgylchynu gan goed.
Llun o’r tu allan i westy hanesyddol hardd

Gwestai sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru, The Grove, Arberth a Pale Hall, Llandderfel, Y Bala

Gwestai sba sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru

Er nad oes gwestai sy’n cynnig pampro’ch ci (hyd y gwyddom ni), mae sawl gwesty sba yng Nghymru sy’n caniatáu i’ch cŵn ymuno â chi ar eich gwyliau. Caiff eich ci hepian yn gyfforddus yn eich ystafell tra cewch chithau ddiflannu am ychydig oriau i’r sba... dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n gwobrwyo eich cyfaill bach drwy fynd am dro hir wedyn.

Mae Peterstone Court ym Mannau Brycheiniog yn cynnig cydbwysedd da o gyfleusterau sba moethus a chyfleoedd i fynd â’r ci am dro. Mae’r Lake Country House Hotel ym mherfedd y canolbarth â’i sba moethus a’i 50 acer o dir, yn lawntiau toreithiog a llwybrau cerdded ar hyd yr afon. Yn olaf, gallwn argymell Lake Vyrnwy Hotel & Spa, gwesty sy’n caniatáu anifeiliaid anwes ac sy’n cynnig golygfeydd anhygoel o’r machlud a chyfleoedd i gerdded bryniau’r Berwyn.

Meysydd gwersylla sy’n caniatáu cŵn yng Nghymru

Os ydych chi’n teithio gyda champerfán neu garafán, mae llawer o feysydd gwersylla yn croesawu cŵn cyfeillgar. 

Mae Parc Trefalun yn faes gwersylla i deuluoedd sy’n cael ei redeg gan deulu ac mae’n agos at draethau poblogaidd arfordir Penfro. Os ydych chi’n chwilio am rywle ychydig llai amlwg ond sy’n dal yn ddigon agos at yr arfordir, rhowch gynnig ar New Park yn y parc cenedlaethol sy’n llwybro ar hyd Afon Cleddau. Mae Maes Carafanau a Gwersylla Argoed Meadow wedi ei leoli ar lannau hardd Afon Teifi yn Sir Gâr ac o fewn cyrraedd i Fae Ceredigion.

Os mai gwyliau gwledig â digon i’w wneud tu allan i ddrws eich pabell sy’n mynd â’ch bryd, cymerwch olwg ar Faes Gwersylla a Glampio Cwmcarn. Os fyddai’n well gennych chi beidio â gorfod codi pabell o gwbl, mae’r safle’n cynnig podiau glampio clyd yn ogystal â pharc chwarae antur, llwybrau cerdded a llwybrau beicio.

Am wyliau heddychlon yn y gogledd, rhowch gynnig ar Plas Farm sydd â 12 acer o dir gwledig yn ei amgylchynu a digonedd o le i bob pitsh.

I’r rheiny sy’n hoff o fynd i’r traeth bob dydd, yna mae Parc Gwersylla a Charafanio Hendre Mynach yn ddewis da. Wedi ei leoli ar ffordd arfordirol 20 munud o gerdded o dref glan môr y Bermo, mae’n ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded hir a hufen iâ ar y traeth. Mae Parc Carafanau Aeron Coast yn wych ar gyfer teuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol â phob math o adloniant ar gynnig. Y tu hwnt i’r adegau poblogaidd hyn, mae’n llecyn tawel ger y môr ac yn berffaith i chi a’ch ci.

Cwpl yn mynd am dro gyda chi, Pyllau lili Bosherston, Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro.

Pyllau lili, Ystâd Ystagbwll

Straeon cysylltiedig