Mae cynllunio taith yn rhan o'r hwyl o ddarganfod lleoedd newydd. Efallai y daw llwybr arfordirol cudd i'r fei, castell sy'n berffaith ar gyfer diwrnod allan, neu le arbennig i fwyta ar ôl diwrnod o gwydro. I wneud hynny ychydig yn haws, rydym wedi cyflwyno Gwydion, ein cynorthwyydd deallusrwydd artiffisial (AI) newydd, sydd yma i helpu i ddarganfod y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.

Mae Gwydion ar gael ar draws gwefan Croeso Cymru. P'un ai'n chwilio am syniadau, ysbrydoliaeth neu gyngor ymarferol, mae wrth law i helpu. Gan ddefnyddio cynnwys dibynadwy Croeso Cymru, gall ateb cwestiynau, awgrymu lleoedd i ymweld â nhw a helpu i ddod o hyd i brofiadau sy'n cyd-fynd â diddordebau gwahanol. Mae fel cael tywysydd personol wrth law, yn helpu i ddarganfod y lleoedd, y straeon a'r profiadau sy'n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig.

Beth all Gwydion ei wneud?

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Neu’n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth? Mae Gwydion wrth law i helpu i ddarganfod Cymru, gyda syniadau ac awgrymiadau wedi’u teilwra i wahanol ddiddordebau. Gall helpu i:

  • gynllunio taith i unrhyw ran o Gymru;
  • darganfod lleoedd i ymweld â nhw, lleoedd i aros a phrofiadau newydd;
  • awgrymu beth i’w weld a’i wneud yn seiliedig ar leoliad ac ar yr amser sydd ar gael.
  • cyfeirio at gynnwys defnyddiol ar draws gwefan Croeso Cymru, o syniadau am leoedd i ymweld â nhw i awgrymiadau ar gyfer cynllunio’ch taith.

 Gallech ofyn cwestiynau fel:

  • "Ble fyddai'n dda mynd am benwythnos teuluol yng Nghanolbarth Cymru?"

  • "Pa gestyll sy'n werth ymweld â nhw?"

  • "Allwch chi awgrymu taith dridiau yng Ngogledd Cymru?"

Pam yr enw Gwydion?

Mae Gwydion yn gymeriad o'r Mabinogion, un o gampweithiau llenyddiaeth a chwedloniaeth Cymru. Yn y straeon, mae'n adnabyddus am ei ddoethineb, ei greadigrwydd a'i allu i arwain eraill ar anturiaethau rhyfeddol. Dyna pam y dewiswyd ei enw ar gyfer ein cynorthwyydd AI newydd, i'ch helpu i ddarganfod y gorau o Gymru.

Dyn hudolus â chroen glas mewn côt werdd, yn dal ffon bren wedi'i haddurno â gemau. Mae'n sefyll o flaen halo mawr o fieri, gyda'r Llwybr Llaethog yn disgleirio yn y cefndir.

Gwydion, y dewin chwedlonol o'r Mabinogi.

 

Sut mae Gwydion yn gweithio?

Mae gwybodaeth Gwydion yn deillio o'r un cynnwys sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ar wefannau Cymru Wales. Felly, pan fydd Gwydion yn gwneud awgrym, mae'n eich cyfeirio at dudalen sydd wedi mynd drwy'r un gwiriadau ansawdd â gweddill y cynnwys ar y safle. O'r fan honno, mae'n hawdd dilyn y dudalen i gael rhagor o wybodaeth, archwilio'r manylion neu gymryd y cam nesaf wrth gynllunio ymweliad â Chymru.

Pam creu Gwydion?

Mae'r ffordd mae pobl yn defnyddio gwefannau wedi newid. Rydym yn gofyn cwestiwn yn ein geiriau ein Hunain ac yn derbyn ateb defnyddiol wedi'i deilwra i ni, yn hytrach na cheisio dyfalu'r termau chwilio cywir neu glicio drwy sawl tudalen.

Mae Gwydion yn cynnig ffordd newydd o drefnu teithiau ac o’r eiliad yntaf o ysbrydoliaeth at gynllunio manylion eu hymweliad â Chymru.

Lansiad beta a beth sy'n dod nesaf

Mae Gwydion wedi lansio fel gwasanaeth beta, sy'n golygu ei fod yn dal i ddysgu ac yn gwella. O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd angen gwirio’r ateb yn erbyn y dudalen ffynhonnell. Os oes rhywbeth yn ymddangos yn anghywir neu'n annelwig y dudalen gysylltiedig fydd y lle gorau i gadarnhau'r manylion.

Dim ond y dechrau yw hyn. Wrth edrych tua'r dyfodol, mae cynlluniau ar draws gwefannau Cymru Wales yn cynnwys crynodebau o erthyglau hirach wedi'u cynhyrchu gan AI, chwilio wedi'i wella gan AI, cymorth i greu teithiau personol, a llawer mwy.

Angen rhagor o help?

Mae Gwydion yma i helpu pobl i ddarganfod Cymru, ateb cwestiynau a chynnig ysbrydoliaeth ar gyfer teithiau.

I gael cymorth gyda gwasanaethau Croeso Cymru, ymholiadau gan y diwydiant twristiaeth neu gynnwys y wefan, ewch i'r tudalennau isod i gael rhagor o wybodaeth:

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig

Olion traed ar draeth gwag, gyda chlogwyni yn y cefndir

Gweithio gyda Croeso Cymru

Mae yna nifer o ffyrdd i weithio gyda Croeso Cymru. Dewch i ddarganfod sut i restru eich busnes, ychwanegu eich digwyddiad a chysylltu â ni trwy'r cyfryngau cymdeithasol.