Neidio i’r prif gynnwys
Hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i feicwyr
Pedwar beiciwr mewn topiau beicio coch, yn reidio beiciau ffordd gyda mynyddoedd gwyrdd yn y cefndir.

Beicio Ffordd, Mynydd Bwlch, De Cymru.

Croeso, feicwyr!

Does dim byd yn well gyda ni'r Cymry na dod at ein gilydd ar gyfer achlysur mawr. Waeth beth yw'r ddelwedd - Gareth Bale yn codi tlws Cynghrair y Pencampwyr yn ei ddinas enedigol, cyffro'r Cwpan Ryder yn 2010 yn y Celtic Manor neu filoedd o athletwyr ar draeth Dinbych-y-pysgod yn canu Hen Wlad fy Nhadau cyn Ironman – mae Cymru'n gallu creu digwyddiadau arbennig ym myd y campau sy'n cyffroi ac yn ysbrydoli pobl ledled y byd.

Pan rydyn ni'n cael cyfle i ddangos beth sydd gan Gymru i'w gynnig i fyd y beicwyr, rydyn ni'n creu digwyddiadau sy'n cipio'r dychymyg. Bydd pobl yn siarad am yn hir am y Tour of Britain 2021, pan wnaeth Van Aert wibio heibio Alaphilippe ar gopa'r Gogarth, am fuddugoliaeth Elisa Longo Borghini ar y Mynydd Du yn 2022 a phan enillodd Carlos Rodríguez wrth byrth Castell Caerffili yn 2023.

Bydd Cymru yn cael ei harddangos ar y llwyfan mwyaf un yn 2027 pan fydd y Tour de France yn dod yma - ac rydym yn barod i fanteisio yn llawn ar y cyfle! Rydym yn edrych ymlaen i ddiddanu cynulleidfaoedd ledled y byd, adeiladu ar ein hanes a'n enw da yn rhyngwladol am lwyfannu digwyddiadau chwaraeon, a gosod y seiliau ar gyfer dyfodol disglair yn y byd seiclo yma yng Nghymru.

Mae Cymru'n baradwys i'r beiciwr. Mae ein tirweddau unigryw, ein hamrywiaeth o lwybrau beicio, y cystadlaethau cyffrous, ein diwylliant seiclo bywiog a'r profiadau amrywiol y gallwn eu cynnig, i gyd mor agos i'w gilydd yn ein gwneud yn gyrchfan o'r radd flaenaf i feicwyr.

O wahanol gamau'r Tour of Britain i'r Tour de Môn blynyddol, ac o'r Dragon Ride, un o ddigwyddiadau beicio mwyaf eiconig Prydain, i bencampwriaethau rasio ffyrdd Cymru, mae'r digwyddiadau nodedig hyn yn profi ansawdd yr hyn y gallwn ei gynnig i feicwyr.

Yn ogystal, mae mynyddoedd ac arfordiroedd Cymru wedi bod yn feithrinfa i ddoniau beicwyr sy'n enwog trwy'r byd - arwyr sydd wedi rhagori yn eu meysydd fel Geraint Thomas, Nicole Cooke, Zoe Bäckstedt a Josh Tarling - gan brofi bod Cymru'n fan hyfforddi eithriadol i rai o feicwyr gorau'r byd.