Clydwch y cynfas

Mae safle glampio anturus Llechwedd Glamping ym Mhlas Weunydd wedi ennill gwobrau lu ac mae’n lle hyfryd i gael profiad o chwareli hanesyddol Blaenau Ffestiniog

Llechwedd Glamping, Plas Weunydd, Blaenau Ffestiniog

Hoe mewn lle hynod

Yn Apple Glamping, mae’r llety unigryw yn dod law yn llaw â moethusrwydd sy’n ystyriol o’r amgylchedd. Dafliad carreg o draethau godidog Sir Benfro, ymhlith y dewis fan hyn mae geogromenni arloesol, UFO sydd wedi glanio yma o’r dyfodol, neu jet breifat llawn moethau. Fe gewch chi gysur cartre yma, gan gynnwys Wi-fi, cyfleusterau sba, a gwresogi clyd, wrth i anturio ac ymlacio ddod ynghyd.

Apple Camping, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Mae gan gerbyd hyfryd yr Apple Express le i bedwar o amgylch bwrdd bwyd sy’n troi yn wely dwbl. Yn y gegin Elfin fechan, mae popeth i wneud prydau syml, er mwyn i chi gael gwledda mewn moethusrwydd fel tasech chi mewn Pullman go iawn.

Camwch i foethusrwydd y saithdegau gyda JetStar! Mae caban y peilot wedi’i droi yn stafell chwarae gemau ryfeddol, lle mae Xbox a gemau awyrennau, ac mae modd mwynhau’r cyfan o seddi peilot go iawn.

 

Apple Camping, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Dadflino ar y dŵr

Cabanau sy’n arnofio yw’r Floatel Rooms, a’r rheini wedi’u hangori ger y cychod ym Marina Aberdaugleddau. Mae lle i ddau ym mhob caban, sydd hefyd yn cynnwys ystafell gawod en-suite, dodrefn moethus a balconi preifat. Mae yma ffenestri o’r nenfwd i’r llawr sy’n rhoi golygfeydd eang o’r dŵr, a chyfle i fwynhau prydferthwch y machlud.

Floatel Room, Glannau Aberdaugleddau

Cysur mewn cocŵn

Pod glampio yw’r Red Kite Earth Conker sydd wedi’i ddylunio’n aeroddynamig. Mae’n sefyll yng nghanol Mynyddoedd Cambria ac mae’r golygfeydd yma’n odidog. A hwnnw’n llawn moethusrwydd mawr, pod y Moon conker ar lan yr afon yw’r lle delfrydol i swatio a syllu ar y sêr o’ch gwely anferth. Dyma ddau’n unig o’r llefydd aros cudd sydd gan Chillderness, a’r rheini’n rhoi cyfle i chi fod yn un â byd natur. Mae pob opsiwn yn rhoi profiad cwbl wahanol ac yn gyfle i ymlacio a dadflino.

Pod glampio a’r cefn gwlad o’i amgylch.

Earth Conker, Ystad Red Kite, Mynyddoedd Cambria

Cwsg ym mrigau’r coed

Yn y Squirrel's Nest yn Llandrindod, mae’r tai moethus yn y coed yn cynnig llety arbennig a phrofiad hudolus, a hynny ym mherfeddion byd natur. Ymlaciwch ger y tân coed, yn y twba twym, neu mewn hamog, gan edmygu golygfeydd godidog cefn gwlad.

 

Nant-y-Gelli, Heol Llanbister, Llandrindod, Powys

Castell gudd gyda golygfeydd godidog dros yr aber

 

Wedi’i hamgylchynu gan goetir a gyda golygfeydd trawiadol dros Afon Dyfi, mae Castell Glandyfi yn cynnig cyfuniad unigryw o hanes, natur a lle i ymlacio. Mae’r castell wedi’i adnewyddu’n ddiweddar ac yn cynnwys 11 ystafell wely foethus, gyda lle i hyd at 22 o westeion.

Wedi’i leoli mewn 40 erw o erddi a choetiroedd wedi’u tirlunio, gyda llwybrau i’w harchwilio, mae’r llety moethus hwn yn cynnig yr hyblygrwydd o hunanarlwyo gan ddefnyddio’r gegin eang, neu fwynhau gwasanaeth cogydd preifat. Mae’n ddewis delfrydol i gyplau, teuluoedd, grwpiau o ffrindiau a gwesteion sy’n teithio gyda’u hanifeiliaid anwes.

Mwynhewch y golygfeydd eang dros yr aber, ac ymlaciwch yn y twb poeth ar ôl diwrnod yn archwilio’r arfordir, Aberdyfi a Gwarchodfa Natur RSPB Ynys-hir gerllaw.

Castell carreg wedi’i hamgylchynu gan erddi a lawntiau wedi’u tirlunio, gyda borderi blodau lliwgar, lampau addurniadol a bryniau pell yn codi o dan awyr las glir.
Ystafell wely eang gyda gwely maint brenin, pen gwely patrymog wedi’i glustogi, byrddau ochr gyda lampau, cwpwrdd dillad â drysau drych a dodrefn pren o dan nenfwd cromennog.
Man eistedd gain gyda soffa las a chadair freichiau batrymog, wedi’i hamgylchynu gan ffenestri Gothig tal sy’n fframio golygfeydd hyfryd dros gefn gwlad Cymru.

Castell Glandyfi, Machynlleth

Ffoi i’r fforest

A’r rheini wedi’u nythu yng nghanol llonyddwch Coedwig Rhiw, mae tai Cnocell y Coed yn cynnig dihangfa yng nghanol prydferthwch heddychlon byd natur. Mae’r tai hudolus hyn ym mrigau’r coed yn rhoi’r cyfuniad perffaith o fywyd gwladaidd a moethusrwydd modern. Dychmygwch ddeffro i glywed siffrwd y dail a thrydar yr adar, gan fwynhau coffi’r bore ar ddec preifat gyda golygfeydd eang o’r coed. Efallai mai chwilio am wyliau rhamantus ydych chi, neu’ch bod chi’n awyddus i ymlacio. Yng Nghnocell y Coed, mae profiad bythgofiadwy yn eich aros, gan roi cyfle i chi fod yn un â byd natur yn y ffordd fwyaf hudolus dan haul.

Tai coed Coedwig Rhiw, Llandrindod

Cysur coedwig

Mae By the Wye yn eich gwahodd i fwynhau llonyddwch y goedwig yn eu caban o dan y dail. Dyma le sy’n cyfuno harddwch yr awyr agored â holl foethusrwydd eich cartre.

Glampio By the Wye, Y Gelli Gandryll

Dihangfa sy’n dda i’r ddaear

I’r rheini sy’n awyddus i aros mewn rhywle cynaliadwy, mae eco-gabanau Fferm Treberfedd yn cyfuno moethusrwydd modern â dyluniad sy’n llesol i’r amgylchedd, gan roi cyfle i westeion ymlacio yn un â byd natur.

Eco-gabanau Treberfedd, Llanbedr Pont Steffan

Gwyliau gwir glasurol

Dewch i fwynhau treftadaeth gyfoethog Cymru yn rhai o gestyll a phlastai hanesyddol gorau’r wlad, a’r rheini bellach wedi’u troi yn llety moethus. Treuliwch y noson yng nghanol y crandrwydd, lle mae’r hanes yn cysylltu’r gorffennol â’r presennol.

Mae Chateau Rhianfa, sy’n chateau yn y dull Ffrengig o’r 1850au, yn sefyll ar lannau prydferth afon Menai ond hefyd yn rhoi golygfeydd eang o gopaon Eryri. Plasty Fictoraidd moethus yw Neuadd y Palé, sydd wedi ennill 5 o sêr coch yr AA, ac mae’n lle delfrydol i ymlacio yng nghanol harddwch dyffryn Dyfrdwy. Mae hanes operatig i Gastell Craig y Nos, lle mae’r cywair wastad yn iawn. Yng Nghastell Roch wedyn, daw cysur modern law yn llaw â hanes, a hynny mewn llety sy’n cyfuno’r hen a’r newydd a’r cyfan gyda moethusrwydd di-ben-draw. 

Chateau Rhianfa, Roch Castle a Palé Hall

Trefnwch eich antur nesaf yn un o’r llefydd eithriadol hyn, lle cewch chi noson fythgofiadwy o gwsg!

Nos da!

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.