Mwynhewch gynnyrch lleol godidog, ymlaciwch i sŵn cerddoriaeth fyw, a rhowch gynnig ar weithgareddau o bob math yn un o wyliau bwyd Cymru. Mae marchnadoedd sy’n llawn cynnyrch, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd coginio ac adloniant i’r teulu i gyd yn gynhwysion gwych sy’n sicr o roi diwrnod i’r brenin i chi. Ac wrth gwrs, fe gewch gyfle hefyd i flasu a phrynu amrywiaeth o fwydydd a diodydd o Gymru.

Mae llawer o ddigwyddiadau bwyd ardderchog yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn, a’r rheini’n rhoi llwyfan i gynnyrch o bob math. Yn eu plith nhw mae rhai o fwydydd a diodydd enwocaf Cymru, fel gwirodydd, cawsiau a chig oen Cymreig.

Gwyliau bwyd ym mis Mehefin

Gŵyl Fwyd Ynys y Barri
Ynys y Barri, 06 – 07 Mehefin 2026

Daw penwythnos llawn blas i lan y môr wrth i Ŵyl Fwyd Ynys y Barri gymryd drosodd y promenâd, gyda bwyd stryd, cerddoriaeth fyw a masnachwyr annibynnol yn llenwi’r ardal ag egni. Bydd cynhyrchwyr lleol, crefftwyr a chogyddion yn ymuno ag ardal farchnad indie ac adloniant dros y ddau ddiwrnod, gan greu awyrgylch bywiog ar lan y traeth.

Marchnad Artisan Bwyd Cymreig Bodnant

14 Mehefin 2026. Mae Marchnad Artisan Bwyd Cymreig Bodnant yn ddiwrnod o siopa, blasu a dathlu’r gorau o gynnyrch a thalent gogledd Cymru mewn lleoliad prydferth. Dewch i ymweld â’r lleoliad gwych hwn ym Modnant, gyda dros 50 o stondinau anhygoel a golygfeydd trawiadol ar draws Dyffryn Conwy.

Gwyliau bwyd ym mis Gorffennaf

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd

Bae Caerdydd: 03 - 05 Gorffennaf 2026 

Yng nghanol yr haf y cynhelir Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd a honno’n gyfle dros dridiau i fwynhau pob math o ddanteithion ym Mae Caerdydd. Bydd dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod yn bresennol, a bydd yno hefyd gerddoriaeth fyw a phob math o arddangosfeydd a gweithdai. Mae’r ŵyl awyr agored hon yng Nghaerdydd yn denu torfeydd rif y gwlith pan fydd y tywydd yn braf. I wylio pobl mewn steil, bachwch sedd yn y Bar Siampên a mwynhau gwydryn o ddiod oer a phefriog.

Coginio byw ar stondin fwyd yng Ngŵyl Fwyd Ryngwladol Caerdydd
Golygfa o'r awyr o ŵyl fwyd brysur.

Gŵyl Fwyd Ryngwladol Caerdydd, De Cymru

Gŵyl Fwyd Llanbed

Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf 2026

Wedi’i lleoli ar lawntiau braf campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae gan Ŵyl Fwyd Llanbed ddigonedd o bethau i ddifyrru teuluoedd. Mae yma stondinau atyniadol yn llawn dop o lysiau organig, caws arbenigol, cacennau bach amheuthun a chyffeithiau hen ffasiwn, ynghyd â cherddoriaeth fyw gan fandiau lleol.

Gwyliau bwyd ym mis Awst

Gŵyl Fwyd Menai

Pentraeth, Ynys Môn, 01 – 02 Awst 2026

Bydd penwythnos bywiog o fwyd, diod ac adloniant yn cael ei gynnal ym Mharc yr Odyn, wrth i Ŵyl Fwyd Menai ddod â chynhyrchwyr lleol, stondinau bwyd stryd a stondinau artisan ynghyd. Disgwyliwch gerddoriaeth fyw ar draws y ddau ddiwrnod ynghyd â gweithgareddau i’r teulu, stondinau crefft a dewis eang o fwyd a diod i’w blasu.

Gŵyl Gaws Arberth

15 Awst 2026. Yn Neuadd y Frenhines y cynhelir Gŵyl Gaws Arberth, a honno’n rhoi llwyfan i ddetholiad o gawsiau Cymreig lleol, yn ogystal â seidr, gwirodydd, cwrw a gwin i’w prynu. Mae yma hefyd gacennau caws, piclau, cyffeithiau, olifau, bwyd oer a phoeth, ac amrywiaeth o anrhegion a chrochenwaith.

Gŵyl Fwyd ac Afon Aberteifi

15 Awst 2026. Mae Gŵyl Fwyd ac Afon Aberteifi wedi bod yn cael ei chynnal ers diwedd y 1990au. Dewch i flasu’r bwydydd lleol gorau gan gynhyrchwyr Cymreig annibynnol a hynny wrth wylio pob math o weithgareddau dŵr ar afon Teifi. Mae mwy i’r byd bwyd yn Aberteifi na bwyd môr. Mae ein glannau mewndirol hefyd yn rhan o fwrlwm yr ŵyl. A honno wedi’i lleoli uwchlaw afon Teifi, mae’n lle gwych i ddarganfod cynhyrchwyr bwyd Cymreig annibynnol a bach, ynghyd â gwneuthurwyr caws llwyddiannus a ffermwyr bridiau prin. Mae’r digwyddiadau ar yr afon yn cynnwys rasys cwrwgl ac arddangosfeydd gan yr RNLI, a hynny’n golygu bod hon yn ŵyl go unigryw. Mae digonedd o bethau eraill i’w gwneud yn Aberteifi, felly pam na ddewch chi ar wyliau bach i’r rhan hyfryd hon o’r gorllewin ar yr un pryd.

Grwpiau o bobl mewn gŵyl fwyd.
Defnyddio ffon goctel i flasu darn bach o gaws.

Gŵyl Fwyd ac Afon Aberteifi 2019

Gŵyl Caws Caerffili

29 - 30 Awst 2026. Mae Gŵyl Caws Caerffili yn ŵyl rad ac am ddim sy’n cael ei chynnal dros benwythnos yng nghanol y dref. Mae yno stondinau bwyd a diod niferus, ardaloedd a gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a ffair.

Gŵyl Fwyd Fawr Prydain, Parc Gwledig a Chastell Margam

Parc Gwledig a Chastell Margam, 29 – 31 Awst 2026

Mwynhewch ddiwrnod gwych i’r teulu yng Ngŵyl Fwyd Fawr Prydain ym Mharc Margam. Blaswch amrywiaeth o flasau o stondinau bwyd stryd deniadol a darganfod y gorau o gynhyrchwyr artisan lleol a rhanbarthol. Gwyliwch gogyddion blaenllaw ar y llwyfan byw, a mwynhewch fariau deniadol ynghyd â stondinau crefft a rhoddion unigryw. Mae’r ŵyl yn llawn bywiogrwydd gyda cherddoriaeth fyw, adloniant i blant a theithiau casglu bwyd gwyllt dan arweiniad tywyswyr.

Gwyliau bwyd ym mis Medi

Gŵyl Fwyd y Drenewydd

05 a 06 Medi 2026. Mae gŵyl fwyd y Drenewydd yn dod yn fyw bob mis Medi. Mae’r ŵyl yn arddangos bwydydd a diodydd Cymreig o bob math, gyda cherddoriaeth gan artistiaid lleol, a’r cyfan yn digwydd o amgylch tref farchnad brydferth y Drenewydd. Gyda chefn gwlad godidog y canolbarth yn gefnlen, digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn sy’n rhoi gwerth gwych am arian. Bydd manylion y digwyddiad i’w gweld ar dudalen Facebook @NewtownFoodFest.

FEASTival Traeth Rhisga

12 – 13 Medi 2026 (aildrefnwyd o 06 – 07 Mehefin 2026). Gyda bwyd blasus ac arddangosiadau coginio gan gogyddion enwog, ynghyd â reidiau ffair hwyl a digon o weithgareddau eraill, mae FEASTival Traeth Rhisga yn cynnig diwrnod allan gwych i’r teulu.

Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

12 - 13 Medi 2026. Bydd Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn dychwelyd yn fwrlwm i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd. Mae gan yr ŵyl dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefftau, ynghyd ag arddangosfeydd coginio, gweithgareddau bwyd i’r teulu i gyd, a cherddoriaeth.

Ffair Fêl Conwy

12 Medi 2026. Yn ôl pob sôn, Ffair Fêl Conwy yw un o wyliau bwyd hynaf Prydain, a honno’n bodoli ers dros 700 mlynedd. Mae Siarter Brenhinol Edward I yn datgan bod yn rhaid ei chynnal ar yr un dyddiad bob blwyddyn – 13 Medi – oni bai mai dydd Sul yw hwnnw. Os hynny, Fbydd yn cael ei chynnal ar y dydd Llun canlynol. Yn y ffair hon, fe allwch chi ddisgwyl mêl, cynhyrchion mêl, stondinau cadw gwenyn, cyffeithiau, danteithion melys a chynhyrchion a chrefftau eraill.

Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug

19 a 20 Medi 2026. Digwyddiad bendigedig arall yw Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug, gŵyl sy’n rhoi llwyfan i amrywiaeth arbennig o gynnyrch y dref a’i chyffiniau. Mae digonedd i gadw pawb yn brysur yn yr ŵyl fwyd hon, gyda gweithgareddau, ysgol goginio ac arddangosfeydd gan gogyddion.

Gŵyl Fwyd y Fenni

19 a 20 Medi 2026. Yn Sir Fynwy y cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni – ardal sy’n enwog am ei hoffter o fwyd. Mae’r penwythnos hwn yn un o’r gwyliau bwyd amlycaf yn y calendr yng Nghymru. Yn ogystal â dosbarthiadau meistr gan gogyddion enwog, arddangosfeydd a sgyrsiau, mae digonedd o adloniant ysgafn a gweithgareddau difyr i’w cael hefyd, gan gynnwys teithiau tywys sy’n mynd â chi i fforio. Ac mae llwyth o bethau eraill i’w gwneud yn y Fenni a’r cylch, sy’n gwneud hwn yn benwythnos cwbl werth chweil.

Gŵyl Fwyd Arberth

Arberth, 26 – 27 Medi 2026. Mae digon o gynhyrchwyr lleol i sgwrsio â nhw yn ystod y ŵyl benwythnos fywiog hon. Mae arbenigwyr bwyd blaenllaw o Gymru, Angela Gray ac Elizabeth Luard, sy’n noddwyr i Ŵyl Fwyd Arberth, yn cymryd rhan bob tro, gyda chogyddion eraill hefyd yn arddangos ryseitiau a thechnegau. Bydd bandiau byw yn eich diddanu wrth i chi eistedd i lawr i fwynhau eich pryniannau.

Pobl yn eistedd ar lawnt yng nghanol pebyll bwyd gyda’r Fenni yn y cefndir.
Pot o salad ffeta gyda sifys wedi’i daenu ar ei ben.

Gŵyl Fwyd y Fenni

Gwyliau bwyd ym mis Hydref

03 Hydref 2026. Gŵyl Eirin Dinbych - Cafodd y ffrwyth statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn 2019, o dan Gynllun Enw Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN). Bu’n daith hir i sicrhau statws PDO ar gyfer Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd – proses dechnegol sy’n cymryd sawl blwyddyn i’w chwblhau.

03 Hydref 2026. Mae Gŵyl Fwyd a Diod Casnewydd yn ŵyl fywiog a sefydlwyd yn gymharol ddiweddar, yn 2011, ond sydd eisoes wedi denu cogyddion Cymreig o’r radd flaenaf, gan gynnwys Bryn Williams o Odette’s yn Primrose Hill, Llundain, a James Sommerin. Mae’r rhaglen yn cynnwys arddangosiadau gan gogyddion lleol ac adloniant stryd i’r teulu cyfan.

03 Hydref 2026. Mae Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog yn arddangos y gorau o fwyd lleol a rhyngwladol. Cynhelir y digwyddiad yn y Neuadd y Farchnad yn Aberhonddu, gyda dros 60 o arddangoswyr, ynghyd ag arddangosiadau coginio, sesiynau blasu a chyfleoedd i gwrdd â chogyddion talentog ac artisaniaid bwyd. Mae hefyd ystod eang o adloniant ar gael.

10 Hydref 2026. Mae Gŵyl Fwyd Bae Abergwaun yn ŵyl gyfeillgar i’r teulu sy’n cynnwys arddangosiadau coginio, sgyrsiau a chynhyrchwyr lleol, gyda ffocws ar gynaliadwyedd ac iechyd a lles. Mwynhewch gerddoriaeth a gweithgareddau i blant – mae’r gweithgareddau awyr agored i’r teulu yn cynnig cyfle i ddarganfod yr arfordir a dysgu am ein cysylltiad â’r môr.

Gŵyl Fwyd Llangollen, 10 – 11 Hydref 2026. Nid yw Llangollen yn ddieithr i ddigwyddiadau mawr (mae’n cynnal yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol bob blwyddyn), felly nid yw’n syndod bod y dref yn gwneud pob ymdrech ar gyfer ei Gŵyl Fwyd flynyddol. Yn ogystal â chynnyrch lleol blasus ac arddangosiadau coginio, mae amrywiaeth o weithgareddau anarferol hefyd, megis cystadlaethau gwneud truffles ar gyflymder a cherfio pwmpenni.

Gŵyl Wisgi Cymru, Llandudno, 30 Hydref – 01 Tachwedd 2026. Mae Gŵyl Wisgi Cymru yn cael ei chynnal yn Llandudno, gyda thri diwrnod o ddigwyddiadau i selogion wisgi eu mwynhau. Mae pris eich tocyn yn cynnwys sesiynau blasu diderfyn o blith nifer o arddangoswyr, gwydr blasu am ddim i’w gadw, a cherddoriaeth fyw/adloniant. Gall deiliaid tocynnau fwynhau teithiau a sesiynau blasu am ddim hefyd yn Distyllfa Penderyn, Llandudno, ac Aber Falls yn Conwy drwy’r penwythnos.

Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd, i’w gadarnhau Hydref 2026. Mae Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd yn croesawu tua 60 o arddangoswyr a chyflenwyr sydd wedi ennill gwobrau i Farchnad Dan Do Fictoraidd enwog y dref. Mae’r ŵyl yn ddathliad go iawn o gynnyrch lleol a thref farchnad hanesyddol Castell-nedd. Bydd bwyd stryd ar gael yn Sgwâr Angel a Sgwâr Castell-nedd, tra bydd adloniant yn llenwi’r ardal gyfagos.

Gwyliau bwyd ym mis Tachwedd

Ffair Aeaf, Llanelwedd, 30 Tachwedd - 01 Rhagfyr 2026.

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn un o’r sioeau stoc orau yn Ewrop, gyda dau ddiwrnod o gystadlaethau, ynghyd â chyfle gwych i wneud ychydig o siopa Nadolig. Mae’r neuadd fwyd yn cynnig amrywiaeth ragorol o fwyd a diod gan gynhyrchwyr gorau Cymru. Ymhlith y stondinau mae Aber Falls, Caws Teifi, Welsh Lady Preserves, Wickedly Welsh Chocolate Company, Ridiculously Rich by Alana a Celtic Spirit Company.

Gwyliau bwyd ym mis Rhagfyr

Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion

04 - 06 Rhagfyr 2026

Mae gan Ŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion gartref cwbl odidog: tir a gerddi’r pentref Eidalaidd lliwgar yn Eryri. Mae yno 120 o stondinau a chytiau sy’n dathlu cynhyrchion a busnesau Cymreig, tra bydd cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd coginio, gweithdai a Groto Nadolig hudolus yn rhoi mwy fyth o adloniant.

Golygfa fin nos o bebyll y ffair grefft ym Mhortmeirion.
Stondinau marchnad gyda phobl yn cerdded.
stondinau crefft mewn marchnad gyda phobl yn prynu pethau.

Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion

Gwyliau bwyd ym mis Mai

Gŵyl Fwyd Caernarfon

08 Mai 2027. Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ŵyl sy’n llyncu’r dref gyfan, o’r marina i’r castell, gan lenwi’r strydoedd â gweithgareddau a bwydydd hyfryd. Mae yma gerddoriaeth fyw, digonedd o stondinau bwyd a chrefftau, ardal i’r plant, bwyd stryd, a bariau i ymweld â nhw.

Gŵyl fwyd brysur ger y môr.
Gŵyl fwyd brysur gerllaw castell

Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024, Gogledd Cymru

Penwythnos Caws a Seidr Gŵyr

Dyddiad 2027 i'w gadarnhau. Canolfan Dreftadaeth Gŵyr yw’r lle i fod yn ystod Penwythnos Caws a Seidr Gŵyr. Mwynhewch benwythnos cyfan lle cewch chi roi cynnig ar bob math o seidr a chaws, gan gynnwys rhai sy’n cael eu creu ar y safle. Bydd cerddoriaeth fyw yn yr iardiau hefyd.

Gŵyl Fwyd a Diod y Bont-faen

Dyddiad 2027 i'w gadarnhau. Gŵyl sy’n cael ei chynnal dros Ŵyl y Banc yw Gŵyl Fwyd a Diod y Bont-faen. Bydd wastad rywbeth at ddant pawb o bob oed yn y digwyddiad hwn sy’n un o uchafbwyntiau’r byd bwyd. Mae yma gigoedd gwych, prydau figan, cyrris a chawsiau, siytnis a seidr, jin o safon, danteithion melys a chymaint mwy. Yn ogystal â’r ffefrynnau arferol sy’n denu’r torfeydd, mae sôn y bydd sawl arddangoswr newydd a chyffrous yno hefyd!

Ochr yn ochr â phrif safle’r ŵyl, bydd Gerddi’r Hen Neuadd yn llawn dop o weithgareddau i’r teulu oll eu mwynhau: plygu helyg, pétanque, adar ysglyfaethus, ac am y tro cyntaf yn yr ŵyl, bydd Llwybr Bwyd y Fro yn dathlu cynaliadwyedd gyda rhaglen o ddigwyddiadau llawn hwyl. Mae disgwyl i’r arddangosfeydd bwyd poblogaidd ddychwelyd hefyd, gyda rhagor o adloniant yn y Duke of Wellington ar y stryd fawr. Ewch i gael rhagor o wybodaeth am y Bont-faen.

Menyw yn gwisgo het ac yn dal potelaid o seidr

Gŵyl Fwyd a Diod y Bont-faen, De Cymru

Gŵyl Fwyd Stryd Sir Benfro

Dyddiad i'w gadarnhau. Traeth y De yw’r lle i fod pan gynhelir yr ŵyl fwyd wych hon yn Ninbych-y-pysgod, a honno’n rhoi llwyfan i’r bwyd stryd gorau y gallwch chi’i ganfod. Mae gan Ŵyl Fwyd Stryd Sir Benfro stondinau niferus sy’n cynnig pob math o fwydydd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys danteithion o Wlad Groeg, Korea, Morocco, Afghanistan a Mecsico. Mwynhewch fwy o atyniadau gwych Dinbych-y-pysgod tra byddwch chi yno.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig