Mae Cymru'n genedl gynhwysol. Rydym yn falch o'r hyn sydd gan ein gwlad i'w gynnig ac rydym am ei rannu gyda'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Dyna pam y gwelwch ddetholiad gwych o bethau hygyrch i'w gwneud a lleoedd hygyrch i aros ble bynnag yr ewch. Nid yw problemau symudedd, anawsterau dysgu na namau ar y golwg neu'r clyw yn rhwystr rhag cael amser difyr a chofiadwy yng Nghymru. Os am grwydro rhai o'r 600 a rhagor o gestyll ar wasgar ar ein tirwedd, torheulo ar draeth sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, mynd amdani ar fwrdd syrffio neu ymgolli mewn diwylliant yn un o'n hamgueddfeydd ac orielau niferus, mae rhywbeth at ddant pawb.

 

Gweithgareddau a llety hygyrch i bawb

Mae amrywiaeth eang o opsiynau gwyliau sy'n addas i'r anabl ledled Cymru. Gallwch ddewis llety o blith gwestai, llety gwely a brecwast a gwestai bach sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae yna hefyd gyfoeth o atyniadau a gweithgareddau sy'n addas i bob math o ymwelydd, gan roi cyfle i bawb fentro allan dros y wlad i gyd. Cliciwch ar y dolenni isod i gael y rhestriadau a'r wybodaeth ddiweddaraf.

Llety hygyrch ledled Cymru

Y tu allan i grŵp o fyngalos gwyliau wedi'u paentio'n wyn.

Y Bwthyn, Bythynnod Bryn Dowsi, Conwy

Gweithgareddau ac atyniadau hygyrch

Person ifanc yn marchogaeth ceffyl.
Menyw mewn sgwter symudedd a'i chi yn croesi pont garreg.
Dyn yn tywys plentyn mewn pram sgïo i lawr llethr sgïo artiffisial.

Slediau wedi'u haddasu yng Nghanolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre, Sir Benfro

Gwefannau defnyddiol ar gyfer gwyliau hygyrch

Mae nifer o wefannau sy'n darparu gwybodaeth ardderchog am ddod o hyd i le addas i aros neu ymweld ag ef yng Nghymru gan ddibynnu ar eich gofynion.

Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych i ddarganfod mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU

Information Now: Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i'r anabl a'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol/RADAR

Tourism For All: Darparu gwybodaeth am deithio a llety hygyrch.

Gallwch hefyd chwilio ein gwefan i ddod o hyd i lety, gweithgareddau, atyniadau a digwyddiadau hygyrch yng Nghymru.

 

Teithio o amgylch Gymru 

Os ydych yn teithio mewn car, bws, trên neu awyren, mae digon o ffyrdd hygyrch o wneud eich ffordd o amgylch Cymru. Edrychwch ar ein canllaw teithio Cymru am fanylion llawn.

 

Llogi cadeiriau olwyn traeth yng Nghymru

Mewn llawer o fannau o amgylch ein harfordir, gallwch logi cadeiriau olwyn traeth. Gydag olwynion pob tir, maent yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd gael profiad o rai o'n traethau harddaf.

  • Gwybodaeth am logi cadeiriau olwyn traeth ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  • Gwybodaeth am logi cadeiriau olwyn traeth ym Mro Morgannwg.
  • Mae gwefan Croeso Bae Abertawe yn cynnwys adran dda am draethau hygyrch a llogi cadeiriau olwyn traeth.
  • Yng Ngogledd Cymru, gallwch logi cadeiriau olwyn sy'n addas i dywod o Kite Surfing Concession ar draeth Dwyrain y Rhyl.
  • Mae cadeiriau olwyn ar gael ar draeth Morfa Bychan i bobl fwynhau'r traeth a'r dŵr - o wyliau'r Pasg tan ddiwedd mis Medi. Maent ar gael i'w llogi am ddim. Mae cadeiriau tebyg hefyd ar gael i'w llogi ar draethau Pwllheli ac Abersoch yn dilyn cefnogaeth gan elusen leol (Wheely Pete).
Tri pherson yn defnyddio cadeiriau olwyn traeth ar y traeth.
Menyw’n defnyddio cadair olwyn traeth yn cael ei gwthio gan fenyw arall ar draeth.

Defnyddio cadair olwyn traeth yn Sir Benfro

 

Straeon cysylltiedig