Teithiau sy'n addas i gadeiriau olwyn yng Ngorllewin Cymru

Mae Gorllewin Cymru yn gartref i lond gwlad o atyniadau hygyrch a gweithgareddau sy'n addas i'r anabl. Daw ymwelwyr o hyd i gyfoeth o brofiadau, gan gynnwys eglwysi cadeiriol a chestyll ysblennydd, gerddi gogoneddus, chwaraeon dŵr hygyrch a thraethau hardd y gall pawb eu mwynhau. Darllenwch ragor i gael gwybod mwy a throwch at y dolenni isod i gael gwybod am bethau sy'n addas i'r anabl i'w gwneud mewn rhannau eraill o Gymru.

 

Amgueddfeydd ac orielau hygyrch

Canolfan Groeso Oriel y Parc

Y Stryd Fawr, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6NW

  • Hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd
  • Cadair olwyn a sgwter symudedd ar gael ar gais
  • Dolen sain yn y dderbynfa i’r rheini â nam ar eu clyw

Gyda waliau a ffenestri wedi'u dylunio i ddal y gorau o gynhesrwydd a golau'r haul, mae canolfan groeso Parc Cenedlaethol Penfro yn Oriel y Parc yn oriel gelf gyfoes ac yn waith celf pensaernïol ynddo'i hun. 

Pobl yn eistedd tu allan i Oriel y Parc, Tyddewi
Menyw mewn cadair olwyn a dyn yn sefyll yn edrych ar baentiad o flodau.
Dau sgwter symudedd ochr yn ochr.

Canolfan Groeso Oriel y Parc, Tyddewi, Sir Benfro

Castell Picton

Rhos, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 4AS

  • Castell, siop anrhegion, bwyty, orielau a 70 y cant o dir sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
  • Cadeiriau olwyn ar gael ar gais
  • Toiledau a pharcio hygyrch

Adeiladwyd Castell Picton yn wreiddiol yn y cyfnod canoloesol, ond mae moderneiddio diweddarach wedi rhoi tu mewn Sioraidd gogoneddus iddo. Saif yng nghanol 40 erw o erddi hardd sy'n llawn o blanhigion prin, a’r rhan fwyaf ohonynt yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd. 

Menyw mewn bygi modur ar lwybr o flaen y castell.
Menyw mewn sgwter modur a dyn yn cerdded mewn gardd addurnol.
Menyw y tu mewn i ystafell yn y castell yn edrych ar waith celf.

Castell Picton, Hwlffordd

Byd natur sy'n addas i gadeiriau olwyn yng Ngorllewin Cymru

Canolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru

Penclacwydd, Llwynhendy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 9SH

  • Parcio a thoiledau hygyrch
  • Mynediad heb risiau i’r cuddfannau
  • Croeso i gŵn cymorth
  • Sgwter symudedd ar gael i'w logi

Mae Canolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru yn hafan i adar a phryfed sy'n caru dŵr. Mae gan staff Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir ddealltwriaeth dda o anghenion pobl ag anableddau ac maent yn hapus i helpu gydag unrhyw beth o gario hambwrdd i gynghori ar y ffordd fwyaf gwastad ar hyd y llwybrau. 

 

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Llanarthne, Sir Gaerfyrddin SA32 8HN

  • Mae pob rhan o'r gerddi ffurfiol yn hygyrch i gadeiriau olwyn
  • Cadeiriau olwyn ar gael i'w defnyddio
  • Gwasanaeth gwennol bygi ar gael i'r rhai sy’n brin eu symudedd
  • Croeso i gŵn cymorth

Gydag arddangosfeydd garddwriaethol gwych a Thŷ Gwydr Mawr godidog Norman Foster i'w hedmygu, mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn wledd i'r synhwyrau. Mae pob un o'r prif ardaloedd plannu, gan gynnwys yr ardd synhwyraidd, yn addas i gadeiriau olwyn. Mae nifer o gadeiriau olwyn ar gael ac mae gwirfoddolwyr yn rhedeg gwasanaeth gwennol i'r Tŷ Gwydr a'r bwyty ar fygi trydan. 

 

Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru

Cilgerran, Sir Benfro SA43 2TB

  • Mae’r ganolfan groeso a’r caffi’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd
  • Llwybrau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn a chuddfannau bywyd gwyllt hygyrch

Yn ei hadeilad pren a gwydr arobryn golau, awyrog sy’n cynnwys lifftiau i'w wneud yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn cynnig golygfeydd panoramig o Gorsydd Teifi, lle mae adar gwyllt yn aml yn ymgynnull, yn enwedig yn y gaeaf. O'r fan hon, gallwch archwilio rhan o Lwybr y Dwrgi sy'n addas i gadeiriau olwyn, gan ddilyn llwybr caled i guddfan hygyrch. 

Menyw sy’n defnyddio cadair olwyn ar lwybr pren drwy warchodfa natur.
Menyw gyda baban a menyw gyda ffrâm gerdded o flaen anifail helyg.

Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cilgerran, Sir Benfro

Parc Gwledig Pen-bre

Pen-bre, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA16 0EJ

  • Mae'r Parc yn hygyrch i gadeiriau olwyn drwyddo draw.
  • Amrywiaeth o weithgareddau hygyrch yn cynnwys sgïo ar eich eistedd a beicio addasol
  • Mynediad i’r traeth ar gadeiriau olwyn traeth wedi'u haddasu
  • Dewis o gyfleusterau i ymwelwyr â nam ar eu golwg a nam ar eu clyw
  • Croeso i gŵn cymorth
  • Toiled Changing Places

Mae Parc Gwledig Pen-bre yn 500 erw o barcdir gogoneddus, sy’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau. Yn Natganiad Hygyrchedd y parc, nodir yr addasiadau ffisegol a'r mesurau rheoli a ddarperir drwy bob rhan o'r parc er mwyn hwyluso mynediad i bawb. Er enghraifft, mae'r holl staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth am anabledd, ac mae canllawiau ar fynediad i amwynderau a chyfleusterau niferus y parc.

 

Llyn llonydd mewn coetiroedd.
Plentyn mewn sled / pram sgïo wedi’i addasu yn cael ei wthio gan ddyn ar lethr sgïo sych.
Nifer o bobl yn sgïo i lawr llethr sgïo sych.

Parc Gwledig Pen-bre, Sir Benfro

Pethau hygyrch i'w gwneud yng Ngorllewin Cymru

Arfordiro Celtic Quest

Traeth Abereiddi, Berea, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6DT

  • Gweithgareddau sy'n addas i ymwelwyr ag amrywiaeth o namau corfforol a meddyliol

Gall arbenigwyr arfordiro Celtic Quest Coasteering deilwra eu gweithgareddau mentrus i weddu i unrhyw un bron, gan gynnwys plant ac oedolion byddar, dall, sydd â nam ar eu clyw a nam ar eu golwg, yn ogystal â'r rhai ag anawsterau dysgu a phrinder symudedd. Mae eu cyfarpar arfordiro yn eich gwneud mor ysgafn, nid oes angen i chi fod yn nofiwr cryf hyd yn oed. 

Folly Farm

Begeli, Cilgeti, Sir Benfro SA68 0XA

  • Amrywiaeth eang o reidiau ac atyniadau hygyrch
  • Mynediad am ddim i gynorthwywyr personol
  • Cadair olwyn a sgwter symudedd ar gael i’w llogi
  • Cyfleusterau parcio a thoiledau hygyrch

Eisiau cwrdd ag anifeiliaid fferm cyfeillgar, bwydo pengwiniaid ac esgyn drwy'r awyr ar hen reid ffair? Mae Folly Farm yn dathlu treftadaeth amaethyddol Sir Benfro ac yn cynnig llawer o hwyl yn y broses. Er bod rhai ardaloedd yn gallu bod yn fwdlyd, mae'r rhan fwyaf o'r parc yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn – hyd yn oed yr Olwyn Fawr. 

Golygfa o'r awyr dros y maes chwarae yn Folly Farm.
Edrych i fyny ar yr olwyn fawr yn Folly Farm yn erbyn awyr las glir.
Pengwiniaid yn y dŵr ac ar y lan

Folly Farm, Sir Benfro

Traethau hygyrch yng Ngorllewin Cymru

Traeth Poppit

Aberteifi, Sir Benfro SA43 3LN

  • Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi
  • Hygyrch dros lwybr pren o'r maes parcio

Mae traeth prydferth Poppit yn draeth cysgodol hardd, sy'n hygyrch dros lwybr pren o'r maes parcio. Gellir trefnu llogi cadeiriau olwyn traeth ar-lein cyn eich ymweliad.

Traeth Porth Mawr

Tyddewi, Sir Benfro SA62 6RD

  • Mae'r traeth yn hygyrch dros lithrfa
  • Cadeiriau olwyn traeth ar gael i'w llogi

Ar un o draethau mwyaf poblogaidd Sir Benfro, mae tywod ysgubol Porth Mawr yn cynnig golygfeydd hardd o'r môr tuag at Ynys Dewi a'i chymdogion llai o faint. Gellir trefnu cadeiriau olwyn traeth ar-lein i'w defnyddio ar y tywod.

Person yn dal bag papur bach o sglodion ar draeth tywodlyd.
Traeth llydan, tywodlyd a welir oddi uchod.

Traeth Porth Mawr, Sir Benfro

Traeth Castell Dinbych-y-pysgod

Stryd y Bont, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

  • Toiledau hygyrch
  • Cadair olwyn traeth ar gael ar gais

Mae traeth tywodlyd Castell Dinbych-y-pysgod yn eistedd islaw adfeilion hynafol Castell Dinbych-y-pysgod. Mae toiledau hygyrch ar gael a gellir llogi cadeiriau olwyn ar-lein. 

Golygfa o Ddinbych-y-pysgod o'r awyr yn dangos traethau, tref ac ynys.

Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Traeth Gogledd Dinbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro SA70 7LT

  • Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi

Mae traeth Gogledd Dinbych-y-pysgod yn draeth tywodlyd hir yn erbyn cefndir o glogwyni ar y naill ochr a thref Dinbych-y-pysgod a'r harbwr prydferth ar y llall. Ceir ramp concrid i'r traeth sy'n 1:7 i 1:6 am 25 metr. 

Golygfa o'r traeth a'r dref o'r awyr.

Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Bae Langland

Abertawe SA3 4QP

  • Promenâd hygyrch i gadeiriau olwyn gyda mynediad ramp i'r traeth

Mae Bae Langland yn draeth deniadol, diogel a thywodlyd gyda chytiau traeth deniadol ar hyd ei ymyl. 

Golygfa o'r môr tuag at draeth tywodlyd gyda chytiau traeth gwyrdd.

Bae Langland

Dolenni defnyddiol

Tourism For All: Cyfeiriadur mwyaf y DU o lety a theithio hygyrch

Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych i ddarganfod mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU

Information Now: Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i'r anabl a'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol/RADAR

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Mynediad i Bawb: Gwybodaeth am deithiau cerdded, golygfannau a thraethau hygyrch a ble i logi cadeiriau olwyn traeth.

Croeso Bae Abertawe: Gwybodaeth am yr ardal, llety hygyrch, toiledau (gan gynnwys rhestr o doiledau Changing Places) a llogi offer symudedd.

Straeon cysylltiedig