Mae Canolbarth Cymru yn croesawu pawb. Mae yma ddewis helaeth o lefydd i aros, gan gynnwys gwestai, llety aros, bythynnod, Gwely a Brecwast, a chabanau. Maen nhw wedi’u teilwra ar gyfer ymwelwyr ag anableddau ac yn sail berffaith i ymwelwyr o bob gallu fwynhau eu hamser yn y rhan hyfryd hon o Gymru.

Gwestai hygyrch yng Nghanolbarth Cymru

Gwesty Metropole

Heol y Deml, Llandrindod, Powys LD1 5DY

  • Dwy ystafell hollol hygyrch i gadeiriau olwyn
  • Lifftiau i bob llawr
  • Mynediad ar y llawer isaf i’r bar, lolfeydd a’r ystafell fwyta
  • Mynediad caredig i’r anabl i’r sauna a’r ystafell ager gyda chyfleuster newid preifat a’r holl gyfarpar

Mae Gwesty Metropole yn nhref sba o gyfnod Victoria Llandrindod ac mae’n ganolfan gyffyrddus gyda’r holl gyfarpar i ddarganfod yr ardal. Mae dwy ystafell hwylus i gadair olwyn wrth ymyl y brif lifft, bob un gydag ystafelloedd ymolchi wedi’u haddasu. I gael y manylion llawn ewch i ddatganiad hygyrchedd Gwesty'r Metropole.

 

Golygfa flaen gwesty mawr wedi'i baentio'n wyrdd.

Gwesty Metropole Hotel, Llandrindod

Gwesty Caer Beris Manor

Llanfair-ym-Muallt, Powys LD2 3NP

  • Ystafell hygyrch i gadeiriau olwyn ar y llawr isaf
  • Ystafell ymolchi gyda chanllawiau cydio a chawod i rolio i mewn iddi
  • Rampiau symudol at y drws blaen a’r dderbynfa

Saif Gwesty Caer Beris Manor mewn 18 erw o dir hardd wrth ymyl afon sy’n llawn bywyd gwyllt. Er iddo gael ei godi tua 1896, mae’r perchnogion presennol wedi gwneud y tŷ mor hwylus â phosibl i’r holl westeion. Mae Bwyty 1896 gyda’i baneli derw ac Ystafell Wydr Afon Irfon i gyd ar un lefel, ac mae Ystafell 23, Yr Orendy, yn hwylus i gadeiriau olwyn gydag ystafell ymolchi wedi’i haddasu. Mae’n well cysylltu â’r dderbynfa yn uniongyrchol i drafod unrhyw anghenion penodol. 

 

Maenordy pren arddull Tuduraidd wedi'i baentio'n wyn.
Maenordy a thiroedd arddull Tuduraidd.
Ystafell wely twin gwesty gyda ffenestri gwydr mawr.

Y tu allan i’r gwesty, yr Orendy, ac ystafell hygyrch yng Ngwesty Caer Beris Manor, Llanfair-ym-Muallt

Bythynnod gwyliau hygyrch a Gwely a Brecwast yng Nghanolbarth Cymru

Yr Hen Stablau

Pantlludw, Machynlleth, Powys SY20 9JR

  • Llawr isaf a’r terasau yn y blaen a’r cefn yn hollol hygyrch i gadair olwyn
  • Ystafell ymolchi hygyrch gyda chawod i rolio i mewn iddi, canllawiau cydio, tapiau lifer a stôl yn y gawod
  • Offer gan gynnwys teclyn i godi i fyny, gwely a chadeiriau codi a chadair esmwyth gyda chomôd ar gael yn rhad ac am ddim

Adeilad o bren a charreg leol yw Yr Hen Stablau mewn man gwyrdd moethus yn edrych dros Ddyffryn Dyfi. Mae’n hygyrch ym mhob rhan gyda drysau llydan a lloriau llyfn y tu mewn a’r tu allan. Mae’n lety hyfryd sy’n addas i’r anabl mewn lleoliad sydd heb ei ddifwyno ac yn frith o fywyd gwyllt. 

Mynedfa flaen allanol bwthyn carreg gyda mynediad cadair olwyn.
Ystafell ymolchi hwylus gyda chanllawau cydio a rhamp
Ystafell wely hygyrch gyda theclyn codi symudol.

Ystafell ymolchi hygyrch gyda chanllawiau cydio a rhamp, Yr Hen Stablau, Machynlleth

Ffynhonnau Madog (Madog’s Wells)

Llanfair Caereinion, Y Trallwng, Powys SY21 0DE

  • Tri byngalo hollol hygyrch
  • Ystafelloedd gwely addas i gadair olwyn
  • Cyfarpar yn cynnwys blociau gwely, cadeiriau cawod a chymorth codi i fyny ar gael drwy wneud cais

Saif Madog's Wells mewn wyth erw o dir ychydig filltiroedd y tu allan i’r Trallwng, lle mae tri byngalo hunanarlwyo hygyrch. Yn Nyth y Dryw mae lle i dri ac ym Mwthyn y Deryn Du a Bwthyn y Wennol mae llety i hyd at chwe gwestai yr un. 

Tu allan i fwthyn gwyliau wedi'i baentio'n wen.
Cawod hygyrch mewn ystafell wlyb.
Cegin fawr gyda bwrdd bwyta.

Bwthyn y Deryn Du y tu allan a’r ystafell wlyb, a’r gegin ym Mwthyn y Wennol, Madogs Wells, Llanfair Caereinion

Parciau carafannau gwyliau hygyrch yng Nghanolbarth Cymru

Parc Gwyliau Quay West

Ceinewydd, Ceredigion SA45 9SE

  • Carafanau wedi’u haddasu ar gyfer pobl mewn cadair olwyn a gwesteion sy’n cael anhawster symud o gwmpas.

Ar ben clogwyn yn edrych allan dros Fae Ceredigion, mae Quay West Holiday Park yn cynnig detholiad o garafanau cysurus gyda golygfeydd rhyfeddol o’r môr. Mae mynediad hawdd i draethau lleol a dewis o gyfleusterau ar y safle sy’n cynnwys siop, tŷ golchi, tai bwyta a mannau chwarae. 

 

Parc Teithio Red Kite

Ffordd y Fan, Llanidloes, Powys SY18 6NG

  • Ystafell wlyb sy’n hygyrch i bobl mewn cadair olwyn a rhai sy’n cael anhawster symud o gwmpas

Mae’r safle ar gyrion tref Llanidloes yn y Canolbarth. Safle i oedolion yn unig yw Red Kite Touring Park gydag ystafelloedd chawod hygyrch i gadair olwyn, sedd cawod a rheiliau cydio. Mae llwybrau a ffyrdd safle o darmac i’w gwneud yn hawdd i bobl mewn cadair olwyn fynd o gwmpas a chrwydro at y llyn ar y safle (sy’n gartref i boblogaeth o’r fadfall fawr gribog). 

Ystafell wlyb hygyrch gyda rheiliau cydio a sedd sy'n plygu i lawr.

Ystafell wlyb hygyrch ym Mharc Teithio Red Kite, Llanidloes

Llety gwyliau hygyrch ar gyfer grwpiau

Penstar Bunkhouse

Libanus, Aberhonddu, Powys LD3 8NE

  • Ystafell gawod hygyrch

Ysgubor wedi’i haddasu yw Penstar Bunkhouse yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ryw dair milltir i’r de o Aberhonddu. Gall gymryd hyd at 20 o bobl yn gyffyrddus gyda mannau byw maer agored chegin dda. 

Canolfan Wyliau a Gerddi Ymddiriedolaeth Tŷ Glyn Davis

Ciliau Aeron, Ceredigion, SA48 8DE

  • Gyda Statws Hwylustod Gradd 2 – addas i bobl mewn cadair olwyn gyda chymorth
  • Cymorth Codi Birdie Electric Mobile Hoist
  • Yn y brif ystafell ymolchi mae gwely cawod maint llawn, cawod i rolio i mewn iddi a chymorth codi yn y nenfwd
  • Ystafell gawod ar wahân gyda chawod i rolio i mewn iddi

Mae Canolfan Wyliau Tŷ Glyn wedi’i chynllunio a’i hadeiladu gan gadw pobl mewn cadair olwyn mewn cof, a gall gymryd hyd at 16 o westeion. Mae wedi’i gosod mewn cefn gwlad hyfryd wrth Afon Aeron, ryw 4 milltir o’r arfordir. Mae tir Tŷ Glyn wrth ymyl y ganolfan i gyd yn hygyrch - llwybrau drwy’r coed yn arwain at ardd y synhwyrau, parc chwarae antur a nodweddion dŵr sy’n garedig i blant. 

The Lodge

Penffordd-las, Llanidloes, SY19 7BU

  • Dwy ystafell wely gyda mynediad hawdd addas ar gyfer pobl ag anhawster symud o gwmpas
  • Dwy gawod hwylus a thri thoiled hwylus
  • Yn croesawu cŵn

Cafodd The Lodge ei godi’n bwrpasol yng nghanol Mynyddoedd Cambrian fel canolfan ar gyfer nifer o weithgareddau awyr agored yn yr ardal. Gerllaw mae Llyn Clywedog a Choedwig Hafren yn cynnwys llwybrau coedwig rhagorol Awyr Dywyll gyda golygfeydd godidog o’r lolfa. Mae yma hefyd le stiwdio ar gyfer gweithgareddau grŵp. Gall y Lodge gymryd 35-40 o bobl mewn amrywiol ystafelloedd. Gellir llogi’r lle i gyd, neu gallwch drefnu ar sail gwely a brecwast. 

Grŵp o amgylch pwll tân y tu allan i adeilad arddull caban ar fachlud haul.
Ystafell wely dwbl gyda waliau golau.
Ystafell wlyb hygyrch gyda thoiled a chawod gyda rheiliau cydio.

Ystafell wlyb hygyrch yn The Lodge, Penffordd-las

Straeon cysylltiedig